Adolygu’r flwyddyn: cyflawni effaith yn 2019

gan David Isaac

Cyhoeddwyd: 20 Dec 2018

Daw pob blwyddyn ar ei hynt â heriau unigryw ei hun, ond mae 2018 wedi mynd y tu hwnt i bob disgwyliad. Nid fu dadl Brexit erioed nepell o’r penawdau ac mae, yn naturiol, wedi dominyddu’r agenda, er i ni hefyd weithio’n galed i sicrhau na fydd y genedl yn colli golwg o’r heriau domestig pwysig eraill sydd yn ein hwynebu.

Wrth i ni nodi’n pen-blwydd yn 10 oed, defnyddiom y cyfle i daflu goleuni ar faterion cydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain heddiw. Rwy’n hyderus y bu inni lwyddo.

Amddiffyn hawliau pobl

Defnyddiom ein llais i amddiffyn hawl hanfodol pobl anabl i fyw’n annibynnol, gan amlygu’r diffyg parhaus o dai hygyrch ym Mhrydain a’r effaith a gaiff ar fywydau pobl o ddydd i ddydd. Wrth ddod ag ymchwiliad deunaw mis pwysig i ben, anogom y llywodraeth i lunio strategaeth genedlaethol i sicrhau bod cyflenwad digonol o dai yn cael eu hadeiladu i safonau dylunio cynhwysol.

Canolbwyntiom yn fawr ar gydraddoldeb menywod yn dilyn ymddangosiad y mudiad #metoo yn 2017. Yn briodol, buom yn ganolog i’r drafodaeth gyhoeddus ar hawliau menywod, yn enwedig aflonyddu rhywiol, wrth i ni gyhoeddi’n hadolygiad fwyaf erioed o hawliau menywod ym Mhrydain. Galwom am gamau pellach i ddiogelu menywod a merched rhag trais,  a datblygom argymhellion penodol ar gyfer taclo aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn seiliedig ar dystiolaeth ac enghreifftiau ymarfer gorau gan bron 1,000 o unigolion a chyflogwyr. Rydym wrth ein bodd wrth weld ein hargymhellion yn cael eu cymryd ymlaen, a’r flwyddyn nesaf byddwn yn gweithio gyda’r llywodraeth i lunio cod ymarfer statudol newydd i ddiogelu cyflogeion rhag dioddef aflonyddu yn y gwaith.

Gwnaeth y gwaith hwn gyd-ddigwydd â blwyddyn gyntaf adrodd gorfodol ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ym Mhrydain. Fel y gorfodwr, treuliodd ein tîm dymor gwanwyn prysur yn gweithio gyda Swyddfa Cydraddoldeb y Llywodraeth i hyrwyddo’r ddeddfwriaeth newydd ac i ymgymryd â gwaith gorfodi cynnar i dargedu sefydliadau a fethodd ateb terfyn amser yr adrodd. Ar ôl trafodaeth genedlaethol bwysig am fylchau cyflog, roeddem yn teimlo balchder wrth gyhoeddi bod pob sefydliad â mwy na 250 o staff wedi cyhoeddi’u ffigurau. Cafodd yr adrodd, eisoes, effaith enfawr yn y gweithle ac rwy’n hyderus ei fod wedi creu trafodaeth a mecanwaith ar gyfer cyflogwyr er mwyn iddynt adrodd ar rai nodweddion gwarchodedig hefyd. 

Gweithio’n rhyngwladol ac adref ar hawliau LGBTI

Ar y llwyfan rhyngwladol, ymgymeron y swydd o Gadeirydd Fforwm Sefydliadau Hawliau Dynol Cenedlaethol y Gymanwlad. Dyma brosiect cyffrous yr ydym ynddo, yn ein hymdrechion ar y cyd i hyrwyddo hawliau LGBTI yn fyd eang, yn cefnogi rhwydwaith amrywiol sefydliadau gwrthrannol. Yn agosach i adref, rwy’n falch i groesawu’r cyhoeddiad mai’r Alban fydd y wlad gyntaf i fod ag addysg LGBTI gwbl gynhwysol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yn yr ysgol, colegau ac amgylcheddau dysgu gweithleoedd. Dyma ganlyniad ymdrechion arbennig ymgyrchwyr ar lawr gwlad, gan gynnwys Time For Inclusive Education, LGBT Youth Scotland a Stonewall Scotland, a phleser oedd cefnogi datblygiad argymhellion fel rhan o weithgor Addysg Gynhwysol LGBTI Llywodraeth yr Alban.

Gwella cyfleusterau ar gyfer pobl anabl yng nghlybiau’r Uwch Gynghrair

Yn ogystal ag arwain ar strategaeth genedlaethol, rydym hefyd yn cael effaith ar ddarpariaeth cyfleusterau lleol ar gyfer pobl ledled y wlad. Diolch i’n gwaith gyda chlybiau’r Uwch Gynghrair, mae bellach mwy na 700 o fannau newydd i ddefnyddwyr cadair olwyn mewn stadia pêl droed ledled y DU, ac mae Manchester United hefyd wedi cyhoeddi gwelliannau aml filiwn i gyfleusterau ar gyfer cefnogwyr anabl yn Old Trafford. Calonogol yw hefyd i adrodd bod cymaint o glybiau’n cefnogi’u cefnogwyr anabl ac yn cyflawni newid gwirioneddol.

Defnyddio’n pwerau cyfreithiol

Rwy’n falch hefyd bod ein tîm cyfreithiol yn defnyddio’n pwerau cyfreithiol yn fwy nag erioed. Maent wedi cymryd llawer mwy o achosion strategol eleni nag erioed. Y fuddugoliaeth sy’n sefyll allan i fi oedd ein llwyddiant yn y Goruchaf Lys mewn achos carreg filltir a fydd yn gwella hawliau miloedd o weithwyr yr ‘economi gig’ i dâl gwyliau a buddion eraill. Roedd angen i Gary Smith, a oedd yn cael ei gyflogi fel ‘contractwr annibynnol’ gan Pimlico Plumbers i weithio oriau llai yn dilyn trawiad i’r galon. Cytunodd y llysoedd a’r tribiwnlys cyflogaeth y dylai gael ei ddiogelu gan gyfraith cydraddoldeb, a gosododd gynsail pwysig ar gyfer achosion yn y dyfodol yn y maes hwn.

Nid oedd ein grym cyfreithiol yn amlwg yn y llysoedd yn unig.  Drwy orfodi cynnar, gallwn a gwnawn wahaniaeth enfawr. Yn sgil gwaith ymyrryd yn y dyddiau cynnar gyda grwpiau comisiynu clinigol ar ofal ar gyfer pobl anabl, cafwyd adolygiad prydlon ar ymarferion gwahaniaethol, a dengys hyn pa mor effeithiol yw’r ymagwedd hon.

Defnyddio ymchwil i ddylanwadu ar lywodraeth a sbarduno newid

Bu 2018 yn flwyddyn fawr iawn i’n tîm ymchwil hefyd. Mae cyhoeddi’n hadolygiad cyflwr y genedl ar gydraddoldeb a hawliau dynol: ‘A yw Prydain yn Decach?’ bob amser yn orchwyl enfawr. Diweddglo darn aruthrol o waith oedd yr adroddiad eleni, a darpara sylfaen tystiolaeth hanfodol i lywodraethau, rheoleiddion ac elusennau i osod yr agenda ar gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain. Gwnaethom argymhellion pwysig i yrru newid ac rydym hefyd wedi nodi meysydd lle bu cynnydd gwirioneddol.

Rydym eisoes yn gweld arwyddocâd y gwaith hwn yng Nghymru. Lansiom ein hadroddiad cydymaith ‘A yw Cymru’n Decach?’ mewn digwyddiad yng Nghynulliad Cymru, lle bu Rapporteur Arbennig y CU ar gyfer Tlodi Echrydus yn bresennol. Bydd ein hymchwil, gobeithio, yn creu effaith ar lefelau uchaf llywodraethau, a bydd yn darparu sylfaen tystiolaeth bwysig i yrru cynnydd yn 2019.

Y flwyddyn o’n blaen

Fel rhan o’n Cynlluniau Blwyddyn Newydd rydym yn ymgynghori ar ein Cynllun Strategol diweddaraf i osod ein blaenoriaethau ar gyfer y dair blynedd nesaf. Gofynnwn am adborth ar ble ddylem ganolbwyntio’n hymdrechion i hyrwyddo cydraddoldeb, dileu rhwystrau rhag cyfle, ac amddiffyn hawliau pobl sydd yn y sefyllfaoedd mwyaf bregys. Edrychaf ymlaen at glywed beth sydd gan bobl i’w ddweud am sut rydym yn cynllunio i gyflawni effaith wirioneddol.

Yn 2019 byddwn hefyd yn mynd yn ei flaen â nifer o brosiectau mawr, gan gynnwys ymchwiliad a lansiom yn ddiweddar i aflonyddu hiliol ym myd addysg uwch, ein gwaith ar fynediad i gyfiawnder ar gyfer achosion gwahaniaethu a’n hadolygiad hawliau dynol o drychineb Tŵr Grenfell.

Ac yn olaf, bydd y flwyddyn nesaf yn flwyddyn carreg filltir i Brydain wrth i ni weithio i ddiffinio’r wlad yr ydym ei heisiau ar adael yr Undeb Ewropeaidd. Er y rhwygiadau a’r ansicrwydd presennol, mae ein safbwynt yn parhau’n glir – wrth adael yr UE ni ddylai fod unrhyw atchweliad o ran amddiffynfeydd cydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain.

Mae gennym rôl bwysig i’w chwarae wrth sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu mewn osod yn nyfodol y genedl. Ac felly, gan mai adeg addunedau’r flwyddyn ydyw, rwy’n addo y byddwn yn parhau gyda’n gwaith gydag arddeliad newydd i wneud Prydain yn wlad lle bo pawb yn cael cyfle cyfartal i ffynnu. Byddwn yn parhau i amddiffyn gwerthoedd ein cenedl o ran cyfiawnder, rhyddid a thosturi.

Gobeithio bydd y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn gyfnod hapus i bob un ohonoch.