Adolygiad o’r flwyddyn: Ein llwyddiannau yn 2019

gan David Isaac

Cyhoeddwyd: 18 Dec 2019

Yr adeg yma'r llynedd dywedais fod yr heriau ar gyfer 2018 wedi bod yn fwy na’r disgwyl. Wrth i 2019 ddod i ben, diogel dweud nad yw eleni chwaith wedi mynd yn ôl y disgwyl!

Mae Brexit ac ansicrwydd gwleidyddol wedi dominyddu ein trafodaeth a’n ffocws cenedlaethol fel ei gilydd. Felly wrth i’r flwyddyn ddirwyn i ben gyda llywodraeth newydd, mae’n eglur ein bod yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Wrth i mi fyfyrio ar ein llwyddiannau yn 2019, rwy’n hyderus o un peth – bydd gwaith y CCHD yn fwy pwysig nag erioed yn 2020. 

Gwnaeth ein gweithgareddau'r llynedd amrywio o waith ar ryddid i lefaru, hawliau i bobl anabl, gweithio i gyflawni system cyfiawnder decach a sicrhau cydraddoldeb a hawliau ym myd addysg. Wrth edrych yn ôl, efallai mai hon oedd un o’r blynyddoedd prysuraf yn ein hanes.

Sicrhau bod pawb yn gallu llwyddo i’w potensial llawn drwy addysg

Rwyf yn angerddol yn credu bod addysg o’r pwys mwyaf i arfogi plant i fod yn ddinasyddion yr unfed ganrif ar hugain. Mae’n hanfodol wrth ein helpu i lywio’r rhaniadau sydd yn creu'r hyn sydd yn gynyddol yn teimlo fel cymdeithas ranedig. Rwyf o’r farn bod gan addysg y grym i sefydlu cymdeithas fwy cydlynol.

Rhaid i ni allu parchu safbwyntiau cymunedau gwahanol ond mae angen i blant hefyd ddeall gofynion y gyfraith ohonyn nhw mewn mannau dinesig ac yn y gweithle.

Dyma pam fod addysg uwch mor bwysig. Ar ôl gadael yr ysgol, prifysgolion yw’r llefydd ble rydym yn meithrin ein hunaniaeth a’n syniadau yn bellach. Rhaid i fyfyrwyr deimlo’n ddiogel ac am y rheswm hynny roedd un o feysydd pwysicaf ein gwaith eleni yn ymwneud ag ymchwiliad manwl i aflonyddu hiliol mewn prifysgolion.

university students

Yn drist, canfuom fod 24% o fyfyrwyr lleiafrifoedd ethnig wedi dioddef aflonyddu hiliol ar gampws. Dywedodd ein tystiolaeth wrthym fod angen ysgytwad ar brifysgolion i ddeall graddfa’r problemau y maen nhw’n eu hwynebu.  

Ymatebodd y sector addysg yn gadarnhaol i’n hymchwiliad ond mae’n bwysig nodi na ellir fforddio bod yn hunanfodlon gan fod cymaint eto i’w wneud i gael gwared ag aflonyddu hiliol ar fyfyrwyr a staff fel ei gilydd.  

Roedd maes arall ein gwaith addysg uwch yn canolbwyntio ar Ryddid i lefaru ar gampysau. Mae’r pwnc pwysig hwn yn ganolog i’n democratiaeth; os na all ideolegau herio heriau cadarn ni chân nhw fyth eu profi’n briodol.

Dyna’r rheswm y gwnaethom ni weithio’n glos gyda sefydliadau addysg blaenllaw ac undebau myfyrwyr i gyhoeddi’n canllaw ar Ryddid Mynegiant. Am y tro cyntaf erioed roeddem yn gallu amlinellu - a chyda enghreifftiau go iawn - yr hawliau a rhwymedigaethau cyfreithiol i sicrhau’r rhyddid i lefaru mewn prifysgolion.

Bydd y canllaw yn rhoi grym i sefydliadau, undebau myfyrwyr ac unigolion i gynnal y rhyddid i lefaru. Cafodd y canllaw dderbyniad da ac rwy’n hyderus y bydd yn haws i gynnal trafodaethau ar gampysau yn awr ac yn y dyfodol.

Y system gyfreithiol a mynediad i gyfiawnder

Fel cyfreithiwr, rwy’n credu’n gryf bod rhaid i’r system cyfiawnder troseddol weithio’n deg i bawb. O ganlyniad, mae cryn dipyn o’n gwaith eleni wedi canolbwyntio ar fynd i’r afael â diffygion yn y system gyfreithiol. Daeth ein hymchwiliad i fynediad i gyfiawnder i ddioddefwyr gwahaniaethu i ben ond dechreuom ymchwiliad arall i bennu a yw’r system cyfiawnder troseddol yn trin pobl anabl yn deg.

Ym mis Mehefin, cyhoeddom ganfyddiadau ein hymchwiliad cymorth cyfreithiol a rhybuddiom mae ond nifer fach o ddioddefwyr gwahaniaethu oedd yn cael y cynrychioliad yr oedd ei angen arnyn nhw yn y llysoedd neu dribiwnlysoedd. Nid oes unrhyw werth i hawliau os na ellir eu gorfodi. Rhaid i gymorth a chyngor cyfreithiol fod ar gael i bawb sydd eu hangen – nid y sawl sy’n gallu ei fforddio’n unig.

Er mod i’n falch bod y llywodraeth ar hyn o bryd yn adolygu cymorth cyfreithiol, mae’n hanfodol ei bod yn rhoi argymhellion ein hymchwiliad ar waith.

Mae llawer o’n gwaith eleni wedi canolbwyntio ar fynd i’r afael â diffygion yn y system gyfreithiol.

Yn ddieuog neu’n euog, rhaid i’r system cyfiawnder troseddol weithio’n deg i bawb ac ni ddylai neb fod dan anfantais oherwydd nam. Rydym yn gofidio bod pobl anabl yn cael eu rhoi mewn risg o gam-gyfiawnder oherwydd diffyg cymorth o fewn y system cyfiawnder troseddol ac yn sgil hynny lansiom ymchwiliad i asesu maint y broblem.

Mae’r ymchwiliad yn archwilio a yw anghenion diffynyddion yn cael eu nodi’n briodol ac a oes addasiadau rhesymol ar waith i sicrhau bod y bobl a effeithir arnyn nhw yn deall y cyhuddiadau yn eu herbyn a sut mae gweithdrefnau cyfreithiol yn gweithio.

Bydd yr ymchwiliad hefyd yn archwilio sut i foderneiddio’r system llys; gall technoleg yn aml gynorthwyo a grymuso pobl anabl, ond rhaid i ni sicrhau nad ydyn nhw, wrth eu rhoi ar waith, yn eu hynysu’n bellach.

Defnyddio’n pwerau cyfreithiol

Mae ein pwerau cyfreithiol yn ein gwneud yn sefydliad unigryw. Rydym yn gynyddol wedi defnyddio’r rhain i amddiffyn hawliau unigolion ac i herio polisïau neu arferion sydd yn achosi anfantais. Rhaid i ni beidio byth ag anghofio mai helpu pobl yw ein gwaith.

Mae dau achos yn amlygu’u hunain i mi yn 2019. Gwnaethom helpu Mrs Smailes, sydd â syndrom Ehlers-Danlos, i atal ei landlord rhag ei hatal hi i wneud addasiadau angenrheidiol i’w chartref ei hun.   

Gwnaethom hefyd helpu Mr a Mrs Mander, a ddywedwyd wrthyn nhw na allan nhw, er y bydden nhw’n rhieni addas i fabwysiadu, wneud cais gan mai dim ond plant gwyn oedd ar gael ac felly byddai cyplau gwyn yn cael blaenoriaeth.

Dim ond dau yw’r rhain o’r nifer o anghyfiawnderau a wnaethom fynd i’r afael â nhw a gwn y bydd y dyfarniadau hyn yn cael effaith parhaol ar fywydau.

Rwyf hefyd o’r farn bod yr anawsterau a wyneba pobl anabl wrth gael mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus yn annerbyniol a ni ellir caniatáu iddo barhau. Mae hawl pobl anabl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn un y byddwn yn parhau i weithio’n galed i’w amddiffyn yn llwyr. 

O ganlyniad bydd ein prosiect cymorth cyfreithiol diweddaraf yn canolbwyntio ar unigolion sydd wedi dioddef gwahaniaethu wrth ddefnyddio, neu geisio defnyddio, trafnidiaeth gyhoeddus. Wrth i ni gyrraedd 2020, rydym yn cynllunio ystod o weithgareddau i wella polisïau ac arferion y diwydiant cludo. Mae’n hanfodol bod anghenion pobl anabl a phobl hŷn yn cael eu hystyried mewn dyluniadau cyfredol ac yn y dyfodol. 

Ni allaf drafod ein gweithgareddau gorfodi eleni heb sôn am y ddau ymchwiliad parhaus i’r BBC a’r Blaid Lafur. Canlyniad y rhain oedd cael cryn dipyn o bwysau a chraffu cyhoeddus arnom.

Mae’r anawsterau a wyneba pobl anabl wrth gael mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus yn annerbyniol a ni ellir caniatáu iddo barhau.

Ni allaf sylwi ar gynnydd a deilliannau’r ymchwiliadau ar hyn o bryd ond fel y corff cydraddoldeb cenedlaethol mae’r ymchwiliadau hyn yn arddangos ein bod yn fodlon defnyddio’n holl bwerau heb ofn na ffafr i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn ein cymdeithas.

Unwaith daw ein gwaith ar hyn i ben, byddwn yn cyhoeddi’n canfyddiadau ac argymhellion. Byddwch yn amyneddgar â ni. Rhaid i’n holl ymchwiliadau gael eu cynnal yn deg ac yn drwyadl. 

Monitro hawliau dynol

Am y tro cyntaf erioed gallwn ddangos i’r cyhoedd gynnydd y DU ar ein hymrwymiadau hawliau dynol. Ein traciwr hawliau dynol yw’r teclyn olrhain cyntaf erioed byd-eang a bellach mae’n gwneud hanes hawliau dynol y DU yn dryloyw i bawb ac yn dal y Llywodraeth i gyfrif.

Wrth i ni adael yr UE ac wynebu cyfnod o newid cyfreithiol mawr, mae’n bwysicach nag erioed bod y wlad yn ymwybodol o’i hymrwymiadau rhyngwladol a’r hyn sydd yn ofynnol i’w cyflawni.

Aflonyddu rhywiol a Bylchau Cyflog rhwng y rhywiau

Dwy flynedd ar ôl i’r ymgyrch #MeToo ddod ag aflonyddu rhywiol i frig yr agenda, rydym wedi parhau i fod yn chwaraewr arweiniol wrth ddiogelu pobl yn y gweithle rhag y cam-drin pŵer hwn. Mae gan bawb yr hawl i siarad am aflonyddu a gwahaniaethu ac ni ddylid fyth ddefnyddio cytundebau dad-ddatgelu i atal dioddefwyr rhag siarad amdano.

Bydd ein canllaw ar ddefnyddio NDAau yn helpu cyflogwyr a chyflogeion fel ei gilydd ddeall sut a phryd dylid defnyddio cytundebau cyfrinachedd.

Yn olaf ond nid y lleiaf o bell ffordd, rydym wedi gweld ail flwyddyn lwyddiannus ar gyfer adrodd ar fylchau cyflog rhwng y rhywiau; mae 100% o sefydliadau gyda 250 neu fwy o gyflogeion wedi adrodd ar eu data unwaith eto. Eleni, gwnaethom yn gyhoeddus enwi tramgwyddwyr a oedd yn tramgwyddo tro ar ôl tro a dechreuom chwe ymchwiliad ffurfiol i sefydliadau a oedd wedi methu â chydymffurfio â’u rhwymedigaethau ac ymateb i’n rhybuddion.

Canlyniad hynny oedd cytundebau ffurfiol yn ymrwymo’u sefydliadau i adrodd yn brydlon am y pum mlynedd nesaf neu wynebu gweithredu cyfreithiol pellach. Mae’n bwysig i gyflogwyr ddeall eu rhwymedigaethau cyfreithiol ac na fydd y rheoliadau yn diflannu. Byddwn yn parhau i ddefnyddio holl rym ein pwerau i sicrhau bod yr wybodaeth bwysig hon yn cael ei darparu.

Edrych ymlaen

Mewn cyfnod o newid ac ansicrwydd, mae gan ein Llywodraeth newydd rôl hanfodol i’w chwarae wrth wneud Prydain yn decach. Mae llawer o feysydd lle bo’n cylch gwaith yn alinio ag uchelgeisiau’r llywodraeth, yn enwedig wrth sicrhau bod gan bawb fynediad i waith a’u bod yn cael eu trin yn deg – gan gynnwys pobl anabl.

Gwnawn weithio’n galed i sicrhau nad oes unrhyw leihad yn ein hamddiffynfeydd hawliau dynol cyfredol wrth i ni adael yr UE.

Ar yr un pryd, gwnawn weithio’n galed i sicrhau nad oes unrhyw leihad yn ein hamddiffynfeydd hawliau dynol cyfredol wrth i ni adael yr UE.

Y flwyddyn nesaf byddwn yn dathlu pen-blwydd y Ddeddf Cydraddoldeb yn 10 oed a 50 blynedd o’r Ddeddf Gyflog Gyfartal. Dathliad fydd hyn, ond hefyd cyfnod i ystyried yn onest faint o gynnydd rydym, mewn gwirionedd, wedi’i gyflawni.

Yr hydref hwn rydym i gyd wedi gweld y rhaniadau a’r anghydraddoldeb y mae llawer yn ein cymdeithas yn dioddef. Bydd heriau newydd yn ymddangos tra bydd hen broblemau, yn drist, yn parhau. Yr hyn yr ydym yn gwybod yw hyd yn oed pan fydd problemau’n gymhleth, mae’n bwysig na fydd hierarchaeth o hawliau.

Weithiau mae hawliau yn gwrthdaro â’u hunain a gwelwn hyn yn arbennig yn y drafodaeth ar hawliau i bobl drawsryweddol. Ein rôl yw helpu gweithio drwy’r problemau hyn ag eraill. Rhaid gwrando ar y ddwy ochr a dyma a geisiwn ei wneud yn ein canllaw newydd i ysgolion a phlant traws y byddwn yn ei gyhoeddi’r flwyddyn nesaf.

Wrth gydnabod y bydd llawer i’w wneud wrth i ddegawd newydd gychwyn, rwyf o’r farn y dylem ddathlu’r cynifer o lwyddiannau’r CCHD yn y ddegawd ddiwethaf.

Rwyf yn hyderus bod ein seiliau a’n hanes yn gryfach nag erioed a’n bod mewn lle da i barhau i gyflawni’n mandad pwysig – i hybu cydraddoldeb ac amddiffyn hawliau dynol i bawb ohonom.  

Gobeithio y cewch chi i gyd Nadolig a Blwyddyn Newydd Dda.