50 mlynedd o ddeddfwriaeth Cysylltiadau Hiliol

gan Rebecca Hilsenrath

Cyhoeddwyd: 08 Dec 2015

Yn Lloegr, yn 2015, nid yw’n bosibl mynd i dafarn a gofyn am ddiod a chael eich gwrthod oherwydd o ble rydych yn dod ohono. Cywir?   Yn drist, anghywir.  Eleni, cefnogodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (y Comisiwn) hawliad yn erbyn tafarn a oedd wedi gwrthod gwasanaethu grŵp o Deithwyr, yn syml am y rheswm o bwy oedden nhw.  

Ar 8 Rhagfyr 1965, daeth y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol gyntaf i rym ym Mhrydain. Diffiniodd y Ddeddf gysylltiadau hiliol fel trin un person yn llai ffafriol nag un arall ar sail hil.  

Yr adeg honno, roedd y rhan fwyaf o gwynion gan leiafrifoedd ethnig yn ymwneud â diffyg cyflogaeth, tai gwael a thriniaeth annheg gan yr heddlu. 50 mlynedd yn ddiweddarach – faint sydd wedi gwella? 
Mae agweddau at hil wedi newid dros y blynyddoedd, ochr yn ochr â’r cyfreithiau sydd yn ein diogelu rhag gwahaniaethu. Bu llawer o welliannau ym maes cysylltiadau hiliol. Yn ddiweddar, cyhoeddom 'A yw Prydain yn Decach?' (IBF), ein hadolygiad statudol o gydraddoldeb a hawliau dynol yn y DU. Rydym yn gwybod o’r adroddiad bod lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o fynychu prifysgol na’r boblogaeth gwyn. Yn 2013, roedd gradd prifysgol gan 26.8% o bobl gwyn o’i gymharu â phobl Affricanaidd/Caribïaidd/Du (34.7%) hil cymysg (36.6%) a phobl Indiaidd (49.5%). 

Fodd bynnag, person dewr neu ddiniwed fyddai’n awgrymu nad oes hiliaeth ym Mhrydain. Er gwelliannau o ran perfformiad addysgol, dangosodd ein hymchwil hefyd fod pobl o bron pob grŵp lleiafrif ethnig yn dioddef cyfraddau uwch o ddiweithdra ac yn cael cyflog llai. Dros y pum mlynedd i 2013, pobl Affricanaidd/Caribïaidd/Du oedd wedi cael y gostyngiad mwyaf yn eu cyflog yr awr (cwymp o £1.20) gan ddod â’u tâl i lawr i £10.20 o’i gymharu â £10.60 i weithwyr gwyn.

Dyma’r rheswm yr ydym yn credu bod angen i’r Llywodraeth wneud mwy i daclo’r rhwystrau ffyrdd i gyfleoedd y mae lleiafrifoedd ethnig yn dal yn eu hwynebu, gan roi strategaeth hir dymor ar waith i gyflawni cydraddoldeb hiliol. Mae gennym ni hefyd yn y Comisiwn ran bwysig wrth gyflawni’r nod hwn. Yn ogystal ag amlygu problemau hiliol, gwahaniaethu a throsedd casineb yn IBF, byddwn yn llunio adroddiad dilynol a fydd yn canolbwyntio’n benodol ar hil. Rydym yn gyson wedi amlygu ein pryderon am y defnydd anghymesur o stopio a chwilio dros y blynyddoedd diwethaf, ac rydym yn ddiweddar, wedi gweithio gyda’r Coleg Plismona i lunio cwrs hyfforddi i helpu swyddogion yr heddlu ddefnyddio stopio a chwilio yn decach ac yn fwy effeithiol.  

Rydym hefyd, dro ar ôl tro, wedi amlygu ein pryderon dros yr anghydraddoldeb mae’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn ei wynebu. Rydym wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau ymchwil, wedi llunio canllaw i godi ymwybyddiaeth o’u hawliau cyfreithiol ac wedi ymgymryd â chyfreitha strategol – gan gynnwys buddugoliaethau diweddar nid yn unig yn erbyn tafarnau (am wrthod eu gwasanaeth yn anghyfreithlon) ond hefyd yn erbyn y Llywodraeth (am wahaniaethu’n anghyfreithlon wrth gael ceisiadau cynllunio). 

Mae darnau arwyddocaol eraill o waith yn cynnwys: canllaw yn rhoi canllawiau cam wrth gam i ddarlledwyr ar gynyddu amrywiaeth (a gafodd sylw Lenny Henry); adroddiad yn amlygu lefelau isel o fynediad gan leiafrifoedd ethnig a phobl ifanc i brentisiaethau yn yr Alban a chymryd mantais ohonyn nhw; ac rydym yn ariannu cynllun i ddarparu cyfleoedd i 1,800 o ddisgyblion ysgolion cynradd mewn cymunedau uchel eu lleiafrifoedd ethnig i roi cynnig ar rygbi.  

Mis diwethaf, roedd hi’n 50 mlynedd ers mabwysiadu’r Confensiwn Rhyngwladol ar gyfer Dileu pob Ffurf o Wahaniaethu Hiliol (ICERD). Bu ICERD yn feincnod ar gyfer diogelu a hyrwyddo hawliau dynol i bawb, waeth beth yw eu hil, lliw a thras genedlaethol neu ethnig. I nodi’r pen-blwydd arwyddocaol hwn, rydym ni ynghyd â’r Runnymede Trust, wedi diweddaru ein canllaw ar gyfer sefydliadau cydraddoldeb hiliol ar ddefnyddio ICERD fel teclyn i symud hawliau lleiafrifoedd ethnig yn eu blaen.

Rydym wedi gwneud cynnydd da, ond mae taith hir i’w chymryd eto. Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i’r daith ac yn awyddus i weithio gyda phartneriaid ar hyd y ffordd wrth nodi a thaclo problemau hiliol. Un dydd, pan fyddwn wedi cyrraedd pen y daith, byddwn yn gallu prynu diod gyda’n gilydd i’w dathlu.