Helping make Britain fairer: 10 years of the Commission, 2007 to 2017 Helping make Britain fairer: 10 years of the Commission, 2007 to 2017

10 mlynedd ymlaen, nid yw’r frwydr wedi’i hennill o bell ffordd

gan David Isaac

Cyhoeddwyd: 02 Oct 2017

Ym mis Hydref 2007 cafodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ei eni. Nid oedd dwyn y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal ynghyd o dan yr un to yn hawdd.  

Ond bellach, deng mlynedd ymlaen, ni chawn ein parchu fel gwarchodwr hawliau pobl ym Mhrydain Fawr yn unig, ond hefyd fel corff sydd yn arwain y byd ac a berchir yn rhyngwladol ym maes cydraddoldeb a hawliau dynol.

Bu’n ddegawd o waith caled, y mae ei ganlyniadau’n nawr ar fin ymddangos. Rydym wedi ymgymryd â mwy na mil o achosion cyfreithiol, a wnaeth cyfraniadau  arwyddocaol i’r gymdeithas ym Mhrydain. Bu nifer ohonyn nhw’n achosion carreg filltir sydd wedi cael effaith parhaol - naill ai drwy newid neu egluro’r gyfraith, herio a gwella polisi llywodraeth, neu newid polisïau hen. Ymysg pethau eraill, yn eu sgil gwnaeth ysbytai ddarfod defnyddio gorchmynion ‘Peidiwch â Dadebru’ heb ymgynghori â chleifion a theuluoedd; atal yr heddlu rhag rhannu gwybodaeth amherthnasol gyda chyflogwyr; amddiffyn yr hawl i bobl anabl fyw’n annibynnol; ac yn ddiweddar, dod â  threfn drychinebus ffioedd tribiwnlys cyflogaeth i ben. 

Mae pobl yn meddwl bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn faterion haniaethol - ond mae gwaith y Comisiwn yn ymwneud â newid gwirioneddol sydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl gyffredin. Rydym wedi’i wneud yn bosib i famau, sydd am hyblygrwydd fel y gallan nhw ofalu am eu plant anabl, i allu gweithio ar sylfaen rhan amser ac i gyplau hoyw gael triniaeth gyfartal yn lletyau gwely a brecwast; ac ar hyn o bryd rydym yn herio polisi rhent tai hiliol, ac yn cefnogi cwpl na roddwyd caniatâd iddyn nhw fabwysiadu oherwydd eu hil…Rydym yn ymfalchïo hefyd yn ein hymchwil. Ein sylfaen tystiolaeth yw’r sail yr adeiladwn ein gwaith arno ac mae gwledydd o gwmpas y byd yn eiddigeddus o’r modd rydym yn casglu a mesur gwybodaeth cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae hyn yn arbennig o wir o ran ein hadroddiad teirblwydd ‘A yw Prydain yn decach?’ sydd yn gosod agendau.

Mae ein tîm ymchwiliadau ac archwiliadau wedi treiddio’n ddwfn i faterion mawr. Gwnaethon nhw asesu sut roedd Adolygiad Gwariant 2010 y Llywodraeth wedi effeithio ar gydraddoldeb; gwnaethon nhw archwilio sut mae hawliau dynol pobl hŷn yn cael eu torri mewn cartrefi gofal; ac maen nhw wedi bwrw golwg manwl ar y rheswm y mae pobl â chyflyrau iechyd meddwl yn marw wrth iddyn nhw gael eu cadw yn y ddalfa gan y wladwriaeth. Mae’r gwaith hwn yn sylfaenol i ddatblygiad ein strategaeth gyfreithiol. 

Mae’n hymgyrch Gweithio Ymlaen yn cynnwys cwmnïau i sbarduno newid a gwneud busnesau Prydain y lleoedd gorau i fenywod beichiog a mamau newydd weithio ynddyn nhw. Mae’n cynnwys enwau’r Stryd Fawr fel Barclays, RBS, y Post Brenhinol, Ford a Pets at Home - cwmniau blaengar sydd gyda’i gilydd yn cyflogi 1.5 miliwn o bobl. 

Eto mae llawer o waith gennym i’w wneud o hyd. Dengys ein hymchwil fod anghydraddoldeb hiliol yn dal wedi ei hen galedu yn y gymdeithas; caiff pobl anabl eu trin o hyd fel dinasyddion yr ail ddosbarth; mae Islamoffobia a gwrth-semitiaeth o hyd yn ofidus gyffredin ac mae’r gymuned LGBT yn aml yn dioddef trosedd casineb. Ac ni ddylem gamddeall y sefyllfa o ran cydraddoldeb rhyweddol: fel y dangosodd enghreifftiau proffil uchel diweddar, mae gennym lawer i’w wneud eto i wireddu cydraddoldeb gwirioneddol yn hyn o beth. 

Mae’n rôl yn hanfodol os ydym i wneud Prydain yn wlad deg a chynhwysol. Ac, er gwaethaf y bobl negyddol yn y wasg, nid yw’n ymwneud â hyrwyddo ‘cywirdeb gwleidyddol’ yn unig – mae’r enghreifftiau y soniais amdanyn nhw uchod (ac enghreifftiau pwysig fel Ymchwiliad Hillsborough) yn dangos bod hawliau dynol i bawb, ac rydym yma i’w symud ymlaen.

Mae Brexit ar fin llywio dyfodol y genedl. Mae canlyniad y refferendwm yn glir, ond rydym yn benderfynol bod rhaid i gydraddoldeb a hawliau dynol fod yn ganolog i Brydain annibynnol; rydym yn glir iawn na ddylai fod dim gostyngiad o gwbl o ran amddiffynfeydd hawliau dynol ym Mhrydain wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n rôl wrth ddiogelu’r hawliau hyn yn hanfodol, ac ar hyn o bryd mae gennym achos i ofidio.

Bu dal y llywodraeth i gyfrif  yn un o’n swyddogaethau pennaf erioed ac os ydym i sicrhau bod Prydain dan Brexit yn parhau i fod yn deg a chynhwysol, rydym o’r farn bod ar y wlad angen Comisiwn eglur annibynnol yn awr yn fwy nag erioed fel gwarchodwr cydraddoldeb a hawliau dynol. Gwn fod y Prif Weinidog yn poeni’n fawr dros gydraddoldeb a thegwch. Byddai gwneud y Comisiwn yn uniongyrchol atebol i’r Senedd yn hytrach na’r llywodraeth yn ffordd ragorol o ddangos ei hymrwymiad. 

Yn 1997 rhoddodd y llywodraeth Lafur annibyniaeth lawn i Fanc Lloegr; yn 2011 gwnaeth llywodraeth y glymblaid greu’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol annibynnol. Gwnaed y ddau sefydliad hyn yn annibynnol i roi mwy o ymreolaeth a hygrededd iddyn nhw wneud penderfyniadau. Drwy’n caniatáu i adrodd wrth y Senedd byddai’r  Prif Weinidog yn dileu rheolaeth y llywodraeth ar ein cyllideb, eu rhan wrth benodi’n bwrdd, ac unrhyw fygythiad a ganfyddir o ymyrraeth wleidyddol.  

Mae gennym bwerau cyfreithiol cryf eisoes ac rydym yn gwneud y gorau ohonyn nhw. Fodd bynnag, mae gan y llywodraethau a’r sefydliadau mawr y mae gofyn arnom i’w dal i gyfrif bwerau cryf hefyd. I daclo’r sawl sydd yn gwybod eu bod yn torri’r gyfraith, rwy’n credu y byddem hyd yn oed yn fwy effeithiol gyda phwerau ychwanegol.

Rydym am allu gorfodi sefydliadau yr ydym yn eu hamau o gyflawni gweithrediadau anghyfreithlon ac sydd yn mynd yn groes i’r gyfraith   i roi gwybodaeth inni. Rydym hefyd am y pŵer i gael mynediad i eiddo a’u harchwilio pan fo gofynion mynediad i bobl anabl yn cael eu hanwybyddu ac i ymgymryd â ‘siopa cudd’ i sicrhau bod busnesau’n gwneud popeth y gallan nhw ei wneud i warantu mynediad. I yrru newid gwirioneddol dylem hefyd allu cyflwyno hysbysiadau gweithredu anghyfreithlon sydd yn bygwth dirwyon mawr neu ddedfrydau o garchar os byddai achos o fynd yn groes iddyn nhw.

Rydym yn gweithio’n glos gyda busnesau. Gwyddom eu bod yn hoffi’r wybodaeth a’r canllaw y darparwn iddyn nhw i’w helpu i gydymffurfio â’r gyfraith a sefydlu’r arfer orau. Ond gwyddom hefyd fod llawer o sefydliadau yn cael trafferth wrth geisio deall yn union yr hyn sydd yn ofynnol oddi wrthyn nhw. Rwy’n awyddus i wneud popeth y gallwn ni er mwyn gwneud y gofynion hyn yn eglurach.  

Rydym eisoes yn hwyluso trafodaethau rhwng grwpiau â diddordeb ond, petai’r llywodraeth yn cytuno, gallem fynd ymhellach a defnyddio’n harbenigedd i ddarparu gwasanaethau cymodi a phenderfynu ar achosion. Roedd y pwer hwn gennym gynt, a phetai’n cael ei ailosod, rwy’n hyderus y gallem leihau’r baich ar ein llysoedd a chadw costau cyfreithiol i lawr i bawb dan sylw.

Mae rhaid i ddioddefwyr gwahaniaethu ac eraill sydd angen ein cymorth fod yn ganolog i bopeth a wnawn. Fel canlyniad, ni allwn sefyll yn stond. Rhaid i ni fod yn uchelgeisiol i sicrhau ein bod yn gyrru newid parhaol yn y gymdeithas i bawb ac ymhob agwedd bywyd. Rhaid i ni fod yn wlad lle mae’n gweithluoedd a system addysg yn caniatau’r gallu i bawb gyflawni’u potensial; lle darparir mynediad i ni oll i wasanaethau iechyd urddasol, a lle bo gennym yr hawl i safon byw ddigonol.

Gwyddom fod 10 miliwn o bobl yn byw mewn tlodi. Roedd y trychineb yn Grenfell yn ysgytwad, ac er ei fod e’n anodd i ni ei gydnabod, nid yw’r tlawd yn cael yr un lefel o gymorth yn ein cymdeithas. Hawl dynol yw’r hawl am dai go lew a rhaid taclo’r anghyfiawnder hwn ar ei ben. Drwy ddod i mewn â dyletswydd gymdeithasol economaidd, rhan bwysig hanfodol y Ddeddf Cydraddoldeb sydd heb ei gweithredu hyd yn hyn, gallwn fod â rôl fwy wrth helpu’r difreintiedig yn y gymdeithas, a gwella gobeithion y rheiny megis bechgyn dosbarth gweithiol gwyn sydd yn cael eu gadael ar ôl mewn amryw o feysydd bywyd. 

Rwy’n hyderus bod y Comisiwn yn gwneud mwy nag erioed i wireddu ei nodau ond mewn cyfnod o doriadau parhaus gan y llywodraeth gwn na allwn fyth wireddu’n cynlluniau uchelgeisiol ond drwy weithio mewn partneriaeth ag eraill. Rwy wedi amlinellu rhai o’r newidiadau a ellid eu gwneud yn hawdd galluogi’r Comisiwn i hyd yn oed gyflawni mwy. Trwy gydol y deuddeg mis nesaf rydym yn bwriadu rhedeg cyfres o ddigwyddiadau i archwilio’r materion hyn, i gael eich barn ac i sicrhau’ch cefnogaeth. Wrth ymgysylltu yn y modd hwn rwy’n hyderus y gallwn adeiladu ar lwyddiannau’r ddegawd ddiwethaf i wireddu cymdeithas well i bob un ohonom.