‘Ergyd dwbl’ bod yn fenyw anabl yn y DU

gan Caroline Waters

Cyhoeddwyd: 03 Dec 2018

Caroline Waters yw Dirprwy Gadeirydd ein Bwrdd Comisiynwyr ac mae’n cynrychioli’r Bwrdd ar ein Pwyllgor Cynghorol ar Anabledd.

Yn ddiweddar cyhoeddom ein hadolygiad mwyaf erioed i hawliau menywod, gan fwrw golwg ar draws pob maes bywyd gan gynnwys iechyd, gwaith, addysg, safonau byw a mynediad i gyfiawnder. Bydd yn bwydo asesiad pwysig y Cenhedloedd Unedig ar gydraddoldeb rhyweddol yn y DU, gan helpu llywio argymhellion ar gyfer gweithredu.

Dengys yr adroddiad, heb fawr o syndod, fod o hyd ffordd hir i’w theithio cyn y gall pob menyw fyw yn rhydd heb ddioddef gwahaniaethu. Ac – yn fwy sylfaenol – i sicrhau eu bod yn ddiogel rhag trais, aflonyddu a chamdriniaeth yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain.

Ehangir ar hyn wrth ei gymhwyso i fenywod anabl, y mae’r anghydbwysedd grym a lefel y gwahaniaethu hyd yn oed yn fwy llym. Cânt eu taro ag ‘ergyd ddwbl’ yn sgil eu rhywedd a’u hamhariad - rhywbeth y gellid mynd i’r afael ag ef yn fwy effeithiol pe bai’r Llywodraeth yn gweithredu adran 14 y Ddeddf Cydraddoldeb ar ‘wahaniaethu cyfunol’.

Mae prin hanner o fenywod anabl heb fod mewn gwaith na’n weithredol yn ceisio am waith, sy’n golygu na all cryn nifer ohonynt gefnogi’u hunain yn ariannol. I’r rheini sydd mewn gwaith, mae bwlch cyflog ar sail anabledd – i fenywod â rhai amhariadau, mae hyn cymaint â 18.9%.

I wneud pethau’n waeth, canfyddom fod pobl anabl ymysg y rheini a gaiff eu taro caletaf gan y diwygiadau treth a lles diweddar, a thoriadau i wariant cyhoeddus. Canfu ein hadroddiad ar hyn fod unig rieni (y rhan fwyaf ohonynt yn fenywod) ac aelwydydd a chanddynt yr anableddau mwyaf yn wynebu colledion hynod o drwm.

Mae hyn i gyd yn ei wneud yn anodd dros ben i fenywod anabl allu byw’n annibynnol ac osgoi cael eu gwahanu neu’u hynysu yn eu cymunedau. Mae hefyd yn cynyddu’r risg o gael eu cam-drin gan y rheini sy’n glos iddynt neu mewn safleoedd dylanwadol gartref, yn y gweithle neu wrth gymdeithasu.

'Mae menywod anabl yn anghymesur mewn perygl o ddioddef pob ffurf ar drais a chamdriniaeth gan ofalwyr, cymheiriaid a phobl yn y gymuned.'

Gofid allweddol arall yw gofal iechyd.

Canfyddom fod rhwystrau difrifol i bobl ag anableddau dysgu wrth iddynt gael mynediad i wybodaeth am ryw a gwneud dewisiadau am atal cenhedlu. At hynny, nid yw menywod beichiog anabl yn gyffredinol yn cael y cymorth priodol.

Waeth beth yw eu hamhariad, mae gan fenywod anabl yr un hawliau rhywiol ac atgenhedlu a hawl i ofal iechyd ag unrhyw un arall.

Yn arswydus, canfyddom fod menywod anabl yn anghymesur mewn perygl o ddioddef pob ffurf ar drais a chamdriniaeth gan ofalwyr, cymheiriaid a phobl yn y gymuned. Mae menywod ag anableddau dysgu a chyflyrau iechyd meddwl hefyd yn fwy tebygol o ddioddef trais rhywiol.

Caiff y sefyllfa ei gwaethygu hyd yn oed yn fwy gan ba mor anodd y gall ei bod i fenywod anabl gael y cymorth sydd ei angen arnynt – er enghraifft, yn ôl un arolwg, mae llai na 2% o fannau noddfa i fenywod yn Lloegr yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.

Yn glir, mae angen brys i sicrhau bod pob gwasanaeth menywod yn cael cyllid hirdymor digonol, a’u bod ar gael i ystod eang o fenywod – gan gynnwys y rheini ag anghenion cymhleth.

Yn ddiweddar bu priodas dan orfod o dan sylw ar ôl i Sajid Javid gyfaddef bod gan y Swyddfa Gartref lawer mwy i wneud i ymladd y drosedd hon a chefnogi dioddefwyr.

Mae hyn yn groesawus dros ben o ystyried bod Uned Priodas Dan Orfod y llywodraeth wedi cynghori ar 1,196 o achosion posib yn y DU y llynedd. Roedd oddeutu 78% o’r dioddefwyr yn fenywod ac roedd anabledd dysgu gan 12% ohonynt. Mae cryn nifer o achosion priodas dan orfod yn cynnwys trais corfforol a rhywiol, felly mae’n hanfodol bod pob atgyfeiriad yn cael ei archwilio’n drylwyr.  

Os yw #MeToo, y mudiad a roddodd lais i filoedd o fenywod ledled y byd sydd wedi’u camdrin, wedi dysgu rhywbeth i ni, y faith mai anghydraddoldeb mewn cymdeithas rhwng dynion a menywod yw un o yrrwyr craidd cam-drin rhywiol yw hynny. Mae hyn yn cyflwyno cylch cythreulig. Sut gall menywod anabl gyflawni deilliannau gwell ym myd addysg ac yn y gwaith os ydynt yn destun i gamdriniaeth a thrais gan eraill?

Dylai fod cyfle cyfartal gan bawb i ffynnu, ond mae hyn yn amhosibl oni bai i ni fynd i’r afael â’r heriau mawr y mae menywod anabl yn eu hwynebu mewn cyflogaeth, safonau byw a gofal iechyd ac – yn anad dim – atal y llanw cynyddol o drais yn erbyn menywod a merched, sydd o gost llawer rhy drwm i unigolion a chymdeithas.

Y Diwrnod Rhyngwladol hwn i Bersonau ag Anableddau, rydym yn barod i weithio gyda chymdeithas sifil, pobl anabl a sefydliadau menywod i rymuso menywod anabl a sicrhau hollgynhwysedd a chydraddoldeb, gan annog llywodraethau i wella bywydau pob menyw ym Mhrydain.

Gwyddom fod miliynau o bobl eraill yn cefnogi ein gweledigaeth ar gyfer pob menyw yn y gymdeithas; os mai dim ond goddefol fydd y cymorth hwn, bydd cynnydd yn parhau’n araf a bydd cryn nifer yn fwy o fenywod yn dioddef camdriniaeth a thrais gwanhaol.

Beth rydych chi’n fodlon ei wneud heddiw i wireddu urddas a chydraddoldeb yfory?