Cytuniad hawliau dynol rhyngwladol yw CAT a fabwysiadwyd ym 1984. Cytunodd y DU i’w ddilyn ym 1988.
Drwy ddilyn CAT, mae’r DU yn cytuno i atal achosion o arteithio mewn cysylltiad â gweithgareddau sydd yn cynnwys:
- dychwelyd, diarddel neu estraddodi rhywun i wlad arall lle mae seiliau gwirioneddol i gredu y bydd ef neu hi’n wynebu arteithio.
- arestio, cadw a charcharu
- holiadau
- hyfforddi’r heddlu (sifil neu filwrol), staff meddygol, swyddogion cyhoeddus ac unrhyw un arall a allai fod yn gysylltiedig ag arestio, cadw a holi person.
Traciwr hawliau dynol
Traciwr hawliau dynol
Chwiliwch ein teclyn olrhain hawliau dynol i ddod o hyd i bob argymhelliad y CU ar gyfer CAT a chytuniadau eraill. Mae gan dudalen CAT wybodaeth benodol ar sut y caiff ei fonitro ac a yw’r DU yn bodloni safonau rhyngwladol.
Sut mae’r DU yn ei wneud
Sut mae’r DU yn ei wneud
Archwiliodd y CU ddiwethaf ar sut mae’r DU yn rhoi CAT ar waith a chyhoeddi argymhellion ym mis Mai 2019. Roedd y rhain yn cynnwys:
- diogelu ceiswyr lloches, dioddefwyr masnachu pobl a cham-fanteisio, cleifion, carcharorion a phobl dan ataliaeth
- atal trais yn erbyn menywod a merched, cam-drin plant yn rhywiol a throseddau casineb
- ymateb i honiadau o bobl Brydeinig yn cam-drin pobl sydd yn cael eu cadw’n gaeth dramor
- sicrhau bod pobl sydd mewn perygl o gael eu cam-drin yn gallu cael cymorth cyfreithiol
- lleihau gorlenwi a gwella amodau mewn carchardai
- llunio ein strategaeth gwrthderfysgaeth
- ymgorffori CAT i gyfraith ddomestig y DU
Ein gwaith ar CAT
Ein gwaith ar CAT
Mae’r gwaith diweddaraf a gynhyrchom fel rhan o’n gwaith monitro CAT yn cynnwys:
- adroddiad wedi’i ddiweddaru yn amlinellu ein hargymhellion i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynglŷn â’u hanes o dan CAT (Mai 2019)
- ein canllaw ar gyfer sefydliadau cymdeithas sifil ar sut i ddefnyddio CAT (Mai 2018)
- ein cyflwyniad i Bwyllgor y CU yn erbyn artaith (Mawrth 2016)
- ein cyflwyniad cychwynol ar gydymffurfiaeth y DU â CAT (PDF) (Ionawr 2016)
- gwaith dilynol ar Gasgliadau Terfynol gan y Pwyllgor yn erbyn Arteithio (PDF) ar y DU (Medi 2014)
- ymateb wedi’i ddiweddaru i restr faterion y Pwyllgor yn erbyn Arteithio (Word) (Ebrill 2013)
- ein hymateb i restr faterion y Pwyllgor yn erbyn Arteithio (PDF) (Awst 2012)
Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Feb 2021