Cytuniad hawliau dynol rhyngwladol yw CERD a fabwysiadwyd ym 1965. Cytunodd y DU i ddilyn CERD ym 1969 i weithredu ar ddileu gwahaniaethu hiliol ymhob ffurf, gan gynnwys:
- cael gwared â chasineb hiliol ac anogaeth i gasineb
- ymladd rhagfarnau sydd yn arwain i wahaniaethu hiliol
- gwarantu y gellir mwynhau hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol heb wahaniaethu ar sail hil, lliw neu dras genedlaethol neu ethnig
Traciwr hawliau dynol
Traciwr hawliau dynol
Chwiliwch ein teclyn olrhain hawliau dynol i ddod o hyd i bob argymhelliad y CU ar gyfer CERD a chytuniadau eraill. Mae gan dudalen CERD wybodaeth benodol ar sut y caiff ei fonitro ac a yw’r DU yn bodloni safonau rhyngwladol.
Sut mae’r DU yn ei wneud
Sut mae’r DU yn ei wneud
Archwiliodd y CU ddiwethaf ar sut mae’r DU yn rhoi’r cytuniad ar waith a chyhoeddi’i argymhellion ym mis Hydref 2016. Roedd y rhain yn cynnwys:
- cryfhau ymdrechion i leihau a thaclo pob ffurf o drosedd casineb hiliol
- mynd i’r afael â chadw, ataliaeth, neilltuaeth a meddyginiaethau anghymesur pobl Ddu neu bobl o leiafrifoedd ethnig yn yr ystâd seiciatrig
- adolygu mesurau gwrthderfysgaeth i sicrhau bod diogeliadau digonol i ddiogelu rhag gwahaniaethu a cham-drin hiliol
- sicrhau y gall aelodau lleiafrifoedd ethnig gael mynediad i gymorth cyfreithiol
- cymryd camau i gael gwared â phob bwlio ac aflonyddu hiliol yn yr ysgol
- archwilio a dileu rhagfarn a thuedd yn y system cyfiawnder troseddol
- gosod terfyn amser ar gyfer cadw mewnfudwyr yn y ddalfa a chymryd camau i ddileu cadw plant mewn dalfeydd mewnfudo
Ein gwaith ar CERD
Ein gwaith ar CERD
Mae’r gwaith diweddaraf yr ydym wedi’i gynhyrchu fel rhan o’n gwaith monitro CERD yn cynnwys:
- cyflwyniad wedi’i ddiweddaru i Bwyllgor y CU ar Ddileu Gwahaniaethu Hiliol (Awst 2017)
- ein datganiad o ran archwilio’r DU o dan CERD (Awst 2016)
- ein cyflwyniad i Bwyllgor y CU ar Ddileu Gwahaniaethu Hiliol (Gorffennaf 2016) -
- adroddiad o’r enw Uno Prydain ranedig: yr angen am strategaeth cydraddoldeb hiliol cynhwysfawr (Awst 2016)
- canllaw i egluro CERD, ar y cyd â’r Runnymede Trust (Tachwedd 2015)
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Oct 2019