Y Confensiwn ar Hawliau Personau ag Anableddau (CRPD)

Cytuniad hawliau dynol rhyngwladol yw’r CRPD a fabwysiadwyd yn 2006. Cytunodd y DU i’w ddilyn yn 2009.

Drwy ddilyn y CRPD, mae’r DU yn cytuno i amddiffyn a hyrwyddo hawliau dynol pobl anabl, gan gynnwys:

  • cael gwared â gwahaniaethu ar sail anabledd
  • galluogi pobl anabl i fyw’n annibynnol yn y gymuned
  • sicrhau system addysg cynhwysol
  • sicrhau bod pobl anabl yn cael eu hamddiffyn rhag pob ffurf o gam-fanteisio, trais a chamdriniaeth

Traciwr hawliau dynol

Defnyddiwch ein traciwr hawliau dynol i ddod o hyd o bob argymhelliad y CU ar gyfer CRPD a chytuniadau eraill. Mae gan y dudalen CRPD wybodaeth benodol ar sut y caiff ei fonitro ac os yw’r DU yn bodloni safonau rhyngwladol.

A flow chart showing the various milestones of the CRPD treaty cycle

Sut mae’r DU yn ei wneud

Archwiliodd y CU ddiwethaf ar ba mor dda mae’r DU yn rhoi’r cytuniad ar waith ym mis Awst 2017 a chyhoeddi’i  argymhellion.  Roedd y rhain yn cynnwys:

  • cydnabod a gorfodi hawl pobl anabl i fyw’n annibynnol, cael eu cynnwys yn y gymuned, a dewis ble maen nhw’n byw a gyda phwy
  • sicrhau bod polisiau nawdd cymdeithasol yn diogelu incwm pobl anabl a’u teuluoedd, gan ystyried y costau ychwanegol a ddaw gydag anabledd
  • dileu rhwystrau i sicrhau y gall pobl anabl gael mynediad i waith gweddus a chyflog cyfartal
  • gweithredu i ymladd yn erbyn unrhyw stereoteipiau gwahaniaethol neu negyddol neu ragfarn yn erbyn pobl anabl yn gyhoeddus ac yn y cyfryngau
  • sicrhau bod gan bobl anabl hawliau cyfartal i gyfiawnder drwy ddarparu cyngor a chymorth cyfreithiol priodol
  • cynnwys pobl anabl a sefydliadau pobl anabl wrth gynllunio a rhoi holl gyfreithiau a pholisïau sydd yn effeithio ar bobl anabl ar waith
  • ymgorffori CRPD i gyfraith ddomestig i sicrhau y gall pobl gyflwyno achos cyfreithiol os torrir eu hawliau

Ein gwaith ar y CRPD

Mae’r gwaith diweddaraf a wnaed gennym fel rhan o’n monitro CRPD yn cynnwys:

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Jan 2020