Y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn

CRC yw cytuniad hawliau dynol rhyngwladol a fabwysiadwyd ym 1989. Cytunodd y DU i’w ddilyn ym 1991.

Drwy ddilyn CRC, mae’r DU yn cytuno y dylai cyrff cyhoeddus ystyried buddion gorau’r plentyn wrth wneud unrhyw beth sydd yn effeithio ar blant. Mae’r CRC yn amddiffyn hawliau plant ymhob maes eu bywyd, gan gynnwys eu hawl i:

  • fywyd, goroesi a datblygu
  • rhyddid rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustod
  • mynegi eu safbwyntiau mewn materion sydd yn effeithio arnynt, gan gynnwys achosion cyfreithiol
  • addysg
  • safon byw ddigonol

Traciwr hawliau dynol

Chwiliwch ein traciwr hawliau dynol i ddod o hyd i bob argymhelliad y CU ar gyfer CRC a chytuniadau eraill. Mae gan dudalen y CRC wybodaeth benodol ar sut y caiff ei fonitro ac os yw’r DU yn bodloni safonau rhyngwladol.

Sut mae’r DU yn ei wneud

Archwiliodd y CU ddiwethaf ar ba mor llwyddiannus mae’r DU yn rhoi’r cytuniad ar waith ym mis Mai 2016 a chyhoeddi ei argymhellion ym mis Mehefin 2016. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • cryfhau statws y CRC ac ymgorffori’r cytuniad i gyfraith ddomestig y DU
  • adsefydlu targedau ar gyfer gostwng tlodi plant, ac asesu effaith cronnus diwygiadau nawdd cymdeithasol ar blant
  • casglu data cynhwysfawr ar iechyd meddwl plant a chynyddu buddsoddiad ym maes Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS)
  • lleihau effaith cefndir cymdeithasol neu anableddau ar gyrhaeddiad addysgol plant
  • sicrhau bod addysg rywiol ac iechyd atgenhedlu ystyrlon yn rhan o’r cwricwlwm ysgol gorfodol
  • cryfhau diogeliadau hawliau plant yn ceisio am loches, yn ffoi ac yn mewnfudo
  • codi lleiafswm oedran cyfrifoldeb troseddol
  • diddymu defnyddio ataliaeth yn erbyn plant ar gyfer dibenion disgyblu

Ein gwaith ar CRC

Mae’r gwaith diweddaraf yr ydym wedi’i gynhyrchu fel rhan o’n gwaith monitro CRC yn cynnwys:

 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Jan 2023