Cytuniad hawliau dynol rhyngwladol yw CEDAW a fabwysiadwyd ym 1979. Cytunodd y DU i’w ddilyn ym 1986.
Drwy ddilyn CEDAW, mae’r DU yn cytuno i gymryd mesurau i sicrhau bod menywod yn mwynhau'r un hawliau dynol â dynion ar sail gydradd, gan gynnwys:
- dileu rolau stereoteipio i fenywod a dynion
- sicrhau cyfranogiad cydradd mewn bywyd cyhoeddus
- cydraddoldeb o dan y gyfraith
- cael gwared â gwahaniaethu ym maes cyflogaeth
Traciwr hawliau dynol
Traciwr hawliau dynol
Chwiliwch ein traciwr hawliau dynol i ddod o hyd i bob argymhelliad y CU ar gyfer CEDAW a chytuniadau eraill. Mae gan dudalen CEDAW wybodaeth benodol ar sut y caiff ei fonitro ac os yw’r DU yn bodloni safonau rhyngwladol.
Sut mae’r DU yn ei wneud
Sut mae’r DU yn ei wneud
Archwiliodd y CU ddiwethaf ar sut mae’r DU yn rhoi CEDAW ar waith ym mis Chwefror 2019 a chyhoeddi’i argymhellion ym mis Mawrth 2019. Roedd y rhain yn cynnwys:
- ymgorffori CEDAW i gyfraith ddomestig a chreu mecanwaith cenedlaethol i oruchwylio’i weithrediad
- sicrhau bod hawliau menywod yn cael eu hamddiffyn yn ystod cyfnod ymadael yr Undeb Ewropeaidd
- cadarnhau Confensiwn Istanbwl, a chymryd pob cam sydd yn angenrheidiol i ddiogelu menywod a merched rhag dioddef trais rhyweddol
- asesu effaith gwariant cyhoeddus, diwygiadau treth a lles ar hawliau menywod, a chymryd camau i leihau a datrys unrhyw effeithiau negyddol
- cymryd camau i ddileu stereoteipio rhyweddol negyddol a hybu cynrychiolaethau positif ac amrywiol o rywedd yn yr ysgol, ymgyrchoedd cyhoeddus ac yn y cyfryngau
- gofyn i bob cyflogwr ddiogelu menywod rhag dioddef aflonyddu rhywiol yn y gweithle
Ein gwaith ar CEDAW
Ein gwaith ar CEDAW
Mae’r gwaith diweddaraf a gynhyrchom fel rhan o’n gwaith monitro CEDAW yn cynnwys:
- ein hadolygiad mwyaf erioed i hawliau menywod – Pwyso am gynnydd: hawliau menywod a chydraddoldeb rhywiol yn 2018 (Gorffennaf 2018)
- adroddiad wedi’i ddiweddaru, cyflwyno tystiolaeth bellach i Bwyllgor CEDAW (Chwefror 2019)
- llythyr at lywodraeth y DU yn gofyn iddyn nhw amlinellu sut fyddan nhw’n rhoi argymhellion y CU ar waith. Gallwch lawr lwytho copi o’i hymateb i ni (Word)
- adroddiad dilynol, cyflwyno tystiolaeth bellach i Bwyllgor CEDAW (Gorffennaf 2021)
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Oct 2021