Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol (ICCPR)

Mae’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol (ICCPR) yn gytuniad rhyngwladol ar hawliau dynol a fabwysiadwyd gan y Cenhedloedd Unedig ym 1966. Cytunodd y DU i ddilyn ICCPR yn 1976. Mae’n galluogi pobl i fwynhau ystod eang o hawliau dynol, gan gynnwys y rheini’n ymwneud â:

  • rhyddid rhag artaith a thriniaeth neu gosb greulon, annynol neu ddiraddiol arall
  • hawliau treial teg
  • rhyddid i feddwl, crefydd a mynegiant
  • preifatrwydd, cartref a bywyd teuluol
  • cydraddoldeb a pheidio â dioddef gwahaniaethu

Traciwr hawliau dynol

Defnyddiwch ein traciwr hawliau dynol i ddod o hyd i holl argymhellion y CU ar gyfer ICCPR a chytuniadau eraill. Mae gan y dudalen ICCPR wybodaeth benodol ar sut y caiff ei fonitro ac os yw’r DU yn bodloni safonau rhyngwladol.

 

Sut mae’r DU yn ei wneud

Archwiliodd y CU ddiwethaf ar ba mor dda mae’r DU yn rhoi’r ICCPR ar waith ym mis Mehefin 2015 a chyhoeddodd ei argymhellion ym mis Awst 2015. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth a basiwyd i ddisodli Deddf Hawliau Dynol 1998 yn cryfhau amddiffynfeydd dros hawliau dynol yn y DU
  • cynnal cydbwysedd digonol rhwng diogelwch cenedlaethol ac atebolrwydd dros gamdriniaethau hawliau dynol a honnir iddynt gael eu cyflawni gan Luoedd Prydain
  • cryfhau ymdrechion i atal hiliaeth a senoffobia
  • cryfhau mesurau i atal trais yn erbyn menywod a merched
  • gweithredu i atal rhag hunanladdiadau a hunan niweidio gan oedolion a phobl ifanc yn cael eu cadw’n gaeth gan y wladwriaeth
  • sefydlu terfyn amser ar gadw mewnfudwyr yn gaeth mewn dalfeydd, a sicrhau bod diwygiadau i’r system hawliadau carlam yn cydymffurfio’n llawn â chyfraith hawliau dynol rhyngwladol
  • adolygu’r cyfreithiau gwyliadwriaeth fel bo unrhyw ymyriad â’r hawl i breifatrwydd yn gyfreithiol, cymesur ac yn angenrheidiol

Ein gwaith ar ICCPR

Mae’r gwaith diweddaraf a wnaed gennym fel rhan o’n monitro ICCPR yn cynnwys:

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Mar 2020