Cytuniad hawliau dynol rhyngwladol yw ICESCR a fabwysiadwyd ym 1966. Cytunodd y DU i ddilyn ICESCR ym 1976. Mae’n sicrhau y gellir mwynhau hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, gan gynnwys yr hawl i:
- addysg
- amodau gwaith teg a chyfiawn
- safon digonol o fyw
- y safon iechyd uchaf posib
- nawdd cymdeithasol
Traciwr hawliau dynol
Traciwr hawliau dynol
Chwiliwch ein teclyn olrhain hawliau dynol i ddod o hyd i bob argymhelliad y CU ar gyfer ICESCR a chytuniadau eraill. Mae gan dudalen ICESCR wybodaeth benodol ar sut y caiff ei fonitro ac a yw’r DU yn bodloni safonau rhyngwladol.
Sut mae’r DU yn ei wneud
Sut mae’r DU yn ei wneud
Archwiliodd y CU ddiwethaf ar sut mae’r DU yn rhoi ICESCR ar waith a chyhoeddi argymhellion ym mis Gorffennaf 2016. Roedd y rhain yn cynnwys:
- cynyddu statws hawliau cymdeithasol economaidd ym maes cyfraith ddomestig a pholisi
- darparu mynediad i gyfiawnder a chymorth cyfreithiol ar gyfer unigolion a grwpiau sydd dan anfantais ac ar y cyrion
- gweithredu i wella mynediad i dai o ansawdd da, priodol a hygyrch
- ymgymryd ag asesiad effaith cronnus o ddiwygiadau treth a nawdd cymdeithasol ers 2010, a sicrhau bod pob diwygiad polisi treth a nawdd cymdeithasol yn y dyfodol yn destun i asesiadau cymharol
- gwarantu mynediad i waith, ac amodau gweithio cyfiawn a ffafriol nad yw’n gwahaniaethu
- darparu adnoddau digonol i’r sector iechyd meddwl i sicrhau hygyrchedd, argaeledd ac ansawdd gofal iechyd meddwl
- gweithredu i leihau bylchau cyrhaeddiad addysgol, yn enwedig ymysg plant teuluoedd incwm isel
Ein gwaith ar ICESCR
Ein gwaith ar ICESCR
Mae’r gwaith diweddaraf a gynhyrchom fel rhan o’n gwaith monitro ICESCR yn cynnwys:
- adroddiad ar gynnydd hawliau cymdeithasol economaidd ym Mhrydain (Mawrth 2018)
- ein cyflwyniad a ddiweddarwyd ar weithrediad y DU o ICESCR (Ebrill 2016)
- ein datganiad i Bwyllgor y CU ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (Hydref 2015)
- ein cyflwyniad i Bwyllgor y CU ar hawliau cymdeithasol economaidd yn y DU (Awst 2015)
- cyfres o diwtorialau fideo (YouTube) ar y cyd â Phrifysgol Nottingham a deunyddiau ysgrifenedig (gwefan Prifysgol Nottingham) i godi ymwybyddiaeth o hawliau cymdeithasol economaidd
- llythyr i’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, gan annog y llywodraeth i roi casgliadau terfynol y CU ar waith. Cawsom ymateb gan Sir Oliver Heald QC MP (Ionawr 2017)
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Jan 2023