European Union flag hanging on a flag pole European Union flag hanging on a flag pole

Beth mae Brexit yn ei olygu i gydraddoldeb a hawliau dynol yn y DU?

Sut fydd gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn effeithio ar gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain?

Sut mae ein haelodaeth o’r UE yn effeithio ar gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain?

Tra bôn ni’n parhau yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd (UE) bydd cydraddoldeb a hawliau dynol yng nghyfraith yr UE yn ein hamddiffyn ym Mhrydain. Mae’r rhain yn cynnwys:

Tan i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol, mae cyfraith yr UE yn gymwys yn y DU naill ai’n uniongyrchol mewn rhai achosion, neu phan ysgrifennir hi yng nghyfraith y DU, megis pan gaiff Deddf Seneddol ei phasio i’w chymhwyso i  gyfarwyddeb yr UE.

Beth yw Siarter Hawliau Sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd?

Mae Siarter Hawliau Sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd yn dwyn ynghyd hawliau dynol hanfodol pawb yn byw yn yr Undeb Ewropeaidd.

Pan fydd Prydain yn gadael yr UE, dywedodd y Llywodraeth na fydd gan y Siarter mwyach unrhyw effaith ar gyfraith y DU.

Canfod rhagor am Siarter Hawliau Sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd.

Beth yw’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR)?

Mae’r ECHR yn amddiffyn hawliau dynol pobl yn byw mewn gwledydd sydd yn perthyn i Gyngor Ewrop, sefydliad sydd yn gwbl wahanol i’r UE. Bydd y DU yn dal wedi’i harwyddo i’r ECHR pan fydd yn gadael yr UE.

Ym Mhrydain mae ein hawliau dynol o dan yr ECHR yn cael eu hamddiffyn gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

Canfod rhagor am y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Beth yw’r Ddeddf Hawliau Prydeinig?

Nid oes Deddf Hawliau Prydeinig gennym ar hyn o bryd. Cafodd hon ei chynnwys ym maniffesto etholiad 2015 y llywodraeth Geidwadol. Fe’i cynlluniwyd fel deddfwriaeth newydd yn lle’r Ddeddf Hawliau Dynol.

Sut fydd Brexit yn effeithio ar gyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol y DU?

Nid yw gadael yr UE yn effeithio ar ein hawliau o dan yr ECHR, gan eu bod yn dod o Gyngor Ewrop, nid yr UE.

Bydd effaith Brexit ar ein cydraddoldeb a hawliau dynol yn dibynnu ar y deddfau a chaiff eu pasio i ddelio â gadael yr UE.

Cyhoeddodd y Llywodraeth Bapur Gwyn ar y Bil Diddymu Mawr ar 30 Mawrth 2017. Mae’r Papur Gwyn yn rhoi peth eglurder ar sut y bydd pryderon cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu taclo. Er enghraifft:

  • caiff cyfraith yr UE sydd yn bodoli ar yr adeg y bydd y DU yn gadael yr UE ei chadw ‘pryd bynnag y bydd yn bosibl’
  • caiff yr amddiffynfeydd yn Neddfau Cydraddoldeb 2006 a 2010 eu cadw ar ôl i ni adael yr UE
  • bydd hawliau gweithwyr sydd yn codi o gyfraith yr UE yn parhau yn y DU
  • caiff cyfraith achos cyfredol y Llys Ewropeaidd ei chadw, ond ni fydd y Bil Diddymu Mawr yn darparu unrhyw rôl i’r CJEU o ran dehongliad y cyfreithiau newydd, ac ni fydd y Bil yn gofyn i’n llysoedd i ystyried cyfraith achos y CJEU yn y dyfodol
  • Dilëir y Siarter Hawliau Sylfaenol o gyfraith y DU

Rydym yn disgwyl y caiff y Bil Diddymu Mawr – neu Fil amgenach yn deddfu dros ein perthynas â’r UE yn y dyfodol – ei cyhoeddi yn Araith y Frenhines yn y Senedd newydd.

Os caiff y darpariaethau hynny eu dwyn i gyfraith, caiff nifer o amddiffynfeydd presennol o dan gyfraith yr UE eu cadw.

At hynny, mae cryn nifer o’r amddiffynfeydd yng nghyfraith yr UE, yn enwedig yr hawliau cydraddoldeb, wedi cael eu hysgrifennu eisoes i gyfraith y DU gan ddeddfwriaeth, a fydd yn aros yr un peth heblaw iddyn nhw gael eu dileu gan y Senedd.

Yng ngolau bwriadau’r llywodraeth a eglurir yn y Papur Gwyn,  mae’n debygol mai effaith fwyaf arwyddocaol Brexit ar gydraddoldeb a hawliau dynol  fydd:

  • colli’r Siarter Hawliau Sylfaenol sydd yn cynnwys rhai hawliau nad ydyn nhw yn y Ddeddf Hawliau Dynol, er enghraifft ar hawliau’r plentyn a hawl gyffredinol i beidio â dioddef gwahaniaethu. Mae Siarter hefyd yn darparu ffordd gryfach o orfodi hawliau dynol, mewn rhai achosion, na’r Ddeddf Hawliau Dynol.
  • colli’r warant dros hawliau cydraddoldeb a ddarperir gan gyfraith yr UE. O ganlyniad i Brexit gallai llywodraeth yn y dyfodol geisio pasio deddfau sydd yn diddymu neu’n gwanhau ein hawliau presennol yn is na safon hawliau cyfraith yr UE.

Pa gyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol sydd yn dod o’r UE?

Yn sgil cyfraith yr UE cafwyd newidiadau yng nghyfraith y DU, sydd yn amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • diogelu data: gan gynnwys amddiffynfeydd gwell ar gyfer unigolion ynghylch yr wybodaeth a ddelir amdanyn nhw
  • masnachu pobl: gan gynnwys amddiffynfeydd gwell ar gyfer dioddefwyr masnachu pobl
  • hawliau dioddefwyr trosedd: sicrhau bod dioddefwyr trosedd a’u teuluoedd yn cael yr wybodaeth briodol, cymorth a diogelwch
  • hawliau anabledd: gan gynnwys amddiffynfeydd gwell yn y gwaith a labeli Braille ar gyfer moddion
  • gwahaniaethu yn y gweithle: gan gynnwys diogelwch ar sail crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol ac oed
  • cyflog cyfartal: sicrhau bod dynion a menywod yn cael cyflog cyfartal am waith cyfwerth.

Pa gyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol na ddaeth o’r UE?

  • y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR): daeth o Gyngor Ewrop, nid yr UE
  • peidio â dioddef gwahaniaethu ym myd cyflogaeth ar sail rhyw, hil ac anabledd: roedd yn bodoli eisoes yng nghyfraith y DU
  • dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus: yn dod o gyfraith ddomestig yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Canfod rhagor am ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus
  • peidio â dioddef gwahaniaethu o ran darpariaeth nwyddau a gwasanaethau: yn bodoli eisoes yng nghyfraith y DU.

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Jul 2017