
Mae’r adroddiad hwn yn bwrw golwg ar y data sydd ar gael ar amrywiaeth ymgeiswyr a swyddogion etholedig ar lefelau etholiad y DU, cenedlaethol a lleol. Ei nod yw nodi lle mae bylchau data a chyfyngiadau.
Mae’r adroddiad yn dod â’r data cyfredol gorau at ei gilydd ar nodweddion gwarchodedig ymgeiswyr a oedd yn sefyll yn yr etholiadau ym Mhrydain yn 2016 a 2017.
Mae hefyd yn amlinellu ein hargymhellion ar gyfer gwella’r gwaith monitro ar amrywiaeth cynrychiolaeth wleidyddol.
Mae adroddiad gwahanol yn cynnwys y rhwystrau i gyfranogiad o ran sefyll ar gyfer etholiad i lywodraeth leol yn yr Alban.