Daeth Deddf Cydraddoldeb newydd i rym ar 1 Hydref 2010. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn dod â dros 116 o ddarnau deddfwriaeth gwahanol at ei gilydd yn un Ddeddf sengl. Wedi’u cyfuno, maent yn gwneud Deddf newydd sydd yn darparu fframwaith cyfreithiol i ddiogelu hawliau unigolion a hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb.
Mae’r Ddeddf yn symleiddio, cyfnerthu ac yn cysoni’r ddeddfwriaeth gyfredol i ddarparu Prydain â chyfraith gwahaniaethu newydd sy’n diogelu unigolion rhag triniaeth annheg ac yn hybu cymdeithas decach a mwy cyfartal.
Y naw prif ddarn o ddeddfwriaeth sydd wedi'u cyfuno yw:
- Deddf Cyflog Cyfartal 1970
- Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975
- Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976
- Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995
- Rheoliadau Cyflogaeth Cyfartal (Crefydd neu Gred) 2003
- Rheoliadau Cyflogaeth Cyfartal (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2003
- Rheoliadau Cyflogaeth Cyfartal (Oed) 2006
- Deddf Cydraddoldeb 2006, Rhan 2
- Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2007
Cynnydd
Mae elfennau pellach yn y Ddeddf na ddaeth i rym ym mis Hydref 2010, ond gallent wneud yn y dyfodol. Rydym yn aros am ddiweddariadau oddi wrth y Llywodraeth ar y datblygiadau hyn. Enghreifftiau yw:
- Dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i ddarnau cyffredin prydles ac eiddo daliadaeth ar y cyd a rhannau cyffredin yn yr Alban
- Darpariaethau yn gysylltiedig â chymhorthion ategol yn yr ysgol
- Pleidiau gwleidyddol yn adrodd ar amrywiaeth
- Darpariaethau yn ymwneud â hygyrchedd tacsis
- Gwaharddiad ar wahaniaethu ar sail oed ym maes gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus
- Partneriaethau sifil ar eiddo crefyddol
Elfennau’r Ddeddf na fydd yn dod i rym:
- Gwahaniaethu deublyg: penderfynodd y llywodraeth i beidio â dod â hwn i rym fel ffordd o leihau cost rheoliadau i fusnesau.
- Anghydraddoldeb cymdeithasol economaidd o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Canllaw ar y Ddeddf Cydraddoldeb
Rydym wedi cyhoeddi canllaw i helpu cyflogwyr, gweithwyr, darparwyr gwasanaeth, defnyddwyr gwasanaeth a darparwyr addysg i ddeall y Ddeddf Cydraddoldeb. Fe’i cewch yn yr yr adran canllaw ar y Ddeddf Cydraddoldeb..
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Apr 2022