Defnyddio’r wefan hon
Mae’r datganiad hwn yn gymwys i gynnwys a gyhoeddwyd ar y parth www.equalityhumanrights.com.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sydd yn rhedeg y wefan hon.
Rydym am gymaint o bobl â phosib i allu defnyddio’r wefan hon.
Rydym yn gweithio’n rheolaidd i wneud ein gwefan mor hygyrch a defnyddiadwy â phosib.
Er enghraifft, golyga hynny y dylech allu:
- newid lliwiau, cyferbynnu lefelau a ffontiau
- chwyddo mewn i fyny at 300% heb i’r testun ddiflannu o’r sgrîn
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenwr sgrîn (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi ceisio gwneud testun y wefan yn hawdd i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes anabledd gennych.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Gwyddom nad yw pob rhan y wefan hon yn gwbl hygyrch:
- nid yw’r rhan fwyaf o’r dogfenni PDF, Word, Excel a PowerPoint yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
- mae’r porwr cyngor a chanllaw yn defnyddio Javascript ac mae’n anodd i we-lywio drwyddo drwy ddefnyddio bysellfwrdd a meddalwedd darllen sgrin yn unig - gallwch ddefnyddio swyddogaeth chwilio’r safle yn ei le i ddod o hyd i’r hyn rydych yn ei geisio
- mae rhai o’n ffurfiau ar-lein yn anodd i’w gwe-lywio wrth ddefnyddio bysellfwrdd a meddalwedd darllen sgrin yn unig - gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion isod i ofyn am fformatau amgenach
- mae’r llif Twitter ar ein tudalen hafan yn anodd i’w we-lywio wrth ddefnyddio bysellfwrdd a meddalwedd darllen sgrin yn unig - gallwch ymweld â @ehrc ar Twitter i weld ein trydar
- gallai’n fideos hŷn heb fod â nodweddion sgrindeitlo
- mae llawer o’n fideos wedi’u hymwreiddio o YouTube a gallent gynnwys labeli gan YouTube ei hunan, nad ydynt yn gywir neu heb ddisgrifiadau digonol - gallwch ymweld â’n sianel YouTube i weld mwy o’n fideos
- mae ein infograffics rhyngweithiol yn anodd i’w gwe-lywio wrth ddefnyddio bysellfwrdd a meddalwedd darllen sgrin yn unig:
- Anabledd: sut olwg sydd ar y bwlch cyflog?
- Ethnigrwydd: sut olwg sydd ar y bwlch cyflog?
- Rhywedd: sut olwg sydd ar y bwlch cyflog?
- Sut fydd diwygiadau treth a llesiant yn effeithio ar grwpiau gwahanol?
- Llinell amser ein llwyddiannau
Beth i’w wneud os na fedrwch gael mynediad i rannau’r wefan hon
Os ydych angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol - fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, cofnod sain neu braille – cysylltwch â’n tîm ymholiadau cyffredinol.
Gwnawn ystyried eich cais a’n nod yw eich ateb cyn pen 20 diwrnod gwaith.
Adrodd ar broblemau hygyrch y wefan hon
Ein bwriad yw ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon yn rheolaidd.
Os dewch ar draws unrhyw broblemau na restrwyd ar y dudalen hon neu rydych o’r farn nad ydym yn cyflawni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â’r tîm gwefan:
- gan ddefnyddio’n ffurflen adborth ar-lein
- anfon e-bost i’n tîm gwefan
Gweithdrefn gorfodi
Rydym ni (y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol) yn gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd.
Os nad ydych yn fodlon â sut wnaethom ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogaeth Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol
Darparwn wasanaeth cyfnewid testun i bobl sydd yn F/fyddar, pobl a nam ar eu clyw neu nam ar eu lleferydd.
Os ydych angen cysylltu â ni ac rydych yn ddefnyddiwr Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL), gallwch gysylltu â ni drwy ddefnyddio ein gwasanaeth cyfieithu neu gyfnewid testun i leferydd ar-lein.
Mae dolenni sain gan ein swyddfeydd, neu os cysylltwch â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL).
Canfod sut i gysylltu â ni.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd (Rhif 2) (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) Cyrff Sector Cyhoeddus 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefan fersiwn 2.1 safon AA, oblegid yr achosion a restrir isod lle nad ydym yn cydymffurfio.
Ddim yn cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Problemau â thestun
Ni fydd rhai testun dolenni yn gwneud synnwyr pan ddarllenir ef wrth ei hunan (er enghraifft, ‘darllenwch fan’ma’).
Rydym yn adolygu’r cynnwys hwn fel rhan o ail-ddatblygu mawr y wefan, sydd ar hyn o bryd yn cael ei wneud ac yn debygol o gael ei orffen erbyn haf 2021. Fel rhan o’r gwaith ail-ddatblygu gwnawn osod amserlen ar gyfer adolygu’n holl dudalennau a thrwsio’r dolenni hyn.
Pan wnawn gyhoeddi’r cynnwys newydd gwnawn sicrhau bod testun y dolenni yn bodloni safonau hygyrchedd.
Problemau gyda dogfenni PDF ac eraill
Nid yw amryw o’n dogfenni PDF, Word, Excel a PowerPoint hŷn yn ateb safonau hygyrchedd. Er enghraifft, efallai nad ydynt wedi’u nodi fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrîn.
Yn ôl y rheoliadau hygyrchedd nid yw’n ofynol i ni drwsio dogfenni PDF neu eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol wrth i ni ddarparu’n gwasanaeth. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu trwsio adroddiadau ymchwil hŷn.
Rydym yn adolygu’n holl PDFs a dogfennau fel rhan o ail-ddatblygu mawr y wefan, sydd yn mynd rhagddi ar hyn o bryd ac yn debygol o gael ei orffen erbyn haf 2021. Fel rhan y gwaith ail-ddatblygu gwnawn nodi amserlen ar gyfer adfer dogfennau a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 sydd yn boblogaidd neu’n bwysig i’n gwaith. Er enghraifft, darnau poblogaidd neu bwysig o ganllaw.
Bydd unrhyw ddogfenni PDF neu Word newydd a gyhoeddwn yn ateb safonau hygyrchedd.
Problemau gyda delweddau, fideo a sain
Efallai na fydd nodweddion sgrindeitlo gan rai o’n fideos hŷn.
Mae llawer o’n fideos wedi’u hymwreiddio o YouTube a gallent gynnwys labeli gan YouTube ei hunan, nad yw’n gywir neu heb ddisgrifiadau digonol - gallwch ymweld â’n sianel YouTube i weld mwy o’n fideos
Problemau gyda chyfarpar a thrafodion rhyngweithiol
Efallai bydd yn anodd gwe-lywio rhai o’n ffurflenni rhyngweithiol wrth ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd darllen sgrin yn unig.
Caiff ein ffurflenni eu dylunio a’u cynnal drwy feddalwedd trydydd parti a dylunnir nhw i edrych fel ein gwefan.
Mae ein infograffics rhyngweithiol yn anodd i’w gwe-lywio wrth ddefnyddio bysellfwrdd a meddalwedd darllen sgrin yn unig:
- Anabledd: sut olwg sydd ar y bwlch cyflog?
- Ethnigrwydd: sut olwg sydd ar y bwlch cyflog?
- Rhywedd: sut olwg sydd ar y bwlch cyflog?
- Sut fydd diwygiadau treth a llesiant yn effeithio ar grwpiau gwahanol?
- Llinell amser ein llwyddiannau
Rydym yn cynnig fformatau amgenach. Os ydych angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformatau gwahanol cysylltwch â’n tîm ymholiadau cyffredinol.
Rydym yn adolygu’r cynnwys hwn fel rhan o ail-ddatblygu mawr y wefan, sydd yn mynd rhagddi ar hyn o bryd ac yn debygol o gael ei orffen cyn pen 2020. Fel rhan y gwaith ail-ddatblygu gwnawn benderfyniad ar b’un ai a chadw’r cynnwys hwn a, os gwnawn, sut orau i’w gyflwyno ochr yn ochr ag unrhyw fformatau amgenach.
Sut wnaethom brofi’r wefan hon
Cafodd y wefan hon ei phrofi diwethaf ar 8 Chwefror 2019 gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC).
Wrth bennu tudalennau i’w profi, gwnaethom hynny ar sail:
- ein tudalennau mwyaf poblogaidd
- tudalennau y soniwyd wrthym eisoes drwy adborth gan bobl yn defnyddio’n gwefan
- tudalennau a oedd yn esiampl dda o bob un o’n templedi
- rhai tudalennau yn cynnwys delweddau, cynnwys amlgyfryngau ac elfennau rhyngweithio
- rhai tudalennau yn cynnwys ffurflenni gwe
Gwnaethant brofi ein prif wefan www.equalityhumanrights.com.
Gallwch ddarllen adroddiad llawn y prawf hygyrchedd (2.1MB, PDF).
Yr hyn a wnawn i wella hygyrchedd
Mae’r problemau a nodwyd yn adroddiad y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (uchod) yn cael eu datrys yn weithredol.
Fe wnawn ddysgu gwersi’r adroddiad hwn a’u cymryd yn eu blaen wrth i ni gynnal ailddatblygiad mawr i’n gwefan, sydd ar hyn o bryd yn cael ei wneud ac yn debygol o gael ei orffen erbyn haf 2021.
Mae’r gwaith ail-ddatblygu, ymhob cam y broses, wedi cynnwys profion gan ddefnyddwyr ag ystod o anghenion hygyrchedd.
Mae hyn yn cynnwys y rheiny â:
- nam ar y golwg
- anawsterau motor
- namau gwybyddol neu anableddau dysgu
- byddardod neu nam ar y clyw
Caiff archwiliad llawn annibynnol ei chynnal ar y wefan a ail-ddatblygwyd cyn ei lansio.
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 4 Hydref 2016. Cafodd ei diweddaru diwethaf ar 22 Medi 2020.
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Apr 2021