Young man broadcasting Young man broadcasting

Ffeithiau a ffugion hawliau dynol

Mae llawer o gamddealltwriaeth ynghylch y Ddeddf Hawliau Dynol. Mae llawer ohonom ond yn clywed am hawliau dynol pan yw’r cyfryngau’n trafod achosion proffil uchel. Yn rhy aml o lawer mae hyn yn golygu ailadrodd yr un mythau a chamddealltwriaethau. Nid yw’n rhyfedd ei fod yn anodd gwahaniaetthu rhwng ffeithiau a ffugion.

Rydym am gadarnhau 10 myth cyffredin isod ac egluro’r hawliau a rhyddidau mae’r Ddeddf yn eu cwmpasu.

‘Gorfodwyd cyfraith hawliau dynol arnom gan Ewrop’

Ddim yn wir. Pasiwyd y Ddeddf Hawliau Dynol gan ein Senedd ein hunain yn ôl ym 1998 â chymorth gan yr holl brif bleidiau gwleidyddol. Mae’r Ddeddf ond yn cymhwyso’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol i gyfraith y DU. Ymhellach, roedd y Confensiwn ei hunan wedi’i ddrafftio i raddau helaeth gan gyfreithwyr Prydeinig wedi’r Ail Ryfel Byd; roedd Winston Churchill yn ddylanwadol iawn o ran sicrhau iddo ddigwydd. Nid oes gan y Confensiwn unrhyw beth i ymwneud ag aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd – cafodd ei greu gan Gyngor Ewrop ym 1950, gorff a sefydlwyd i hyrwyddo democratiaeth, hawliau dynol a rheol gyfreithiol yn Ewrop.

‘Mae hawliau dynol ar gyfer terfysgwyr a throseddwyr yn unig, nid pobl gyffredin’

Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn diogelu hawliau dynol pawb. Gallwch chi, eich teulu, ffrindiau neu unrhyw un rydych yn ei adnabod, gael ei siomi oherwydd triniaeth annheg neu ddiofal gan awdurdod cyhoeddus. Rhai enghreifftiau fyddai ysbyty’n peidio â pharchu urddas claf neu’r heddlu’n peidio ag ymchwilio i honiadau o dreisio’n briodol. Mae’r Ddeddf yn berthnasol i sawl agwedd ar ein bywydau ac mae yno ichi pan fydd arnoch ei angen.

‘Mae deddfau hawliau dynol yn atal terfysgwyr a throseddwyr rhag cael eu cosbi’n iawn’

Mae hyn yn gwbl ffug. Nid oes unrhyw beth yn y Ddeddf Hawliau Dynol sy’n atal y llysoedd rhag carcharu troseddwyr a therfysgwyr a gollfarnir. I’r gwrthwyneb yn llwyr – mae’r Ddeddf yn mynnu bod yr heddlu’n ymchwilio i droseddau difrifol fel llofruddiaeth, terfysgaeth a threisio. Hefyd gall ddal yr heddlu’n gyfrifol os na fyddant yn cynnal yr ychwiliadau hyn yn iawn.

‘Mae deddfau hawliau dynol yn ein hatal rhag allgludo pobl sy’n cyflwyno bygythiad i’n diogelwch cenedlaethol’

Nid yw hyn yn wir yn y mwyafrif mawr o achosiion. Mae’n wir ei bod yn atal llysoedd Prydeinig rhag allgludo pobl i wledydd lle maent yn wynebu risg wirioneddol o arteithio neu driniaeth annynol. Ond mae arteithio’n achos arbennig. Ni ellir ei gyfiawnhau mewn cymdeithasau gwareiddiedig. Mewn gwirionedd, mae’r gyfraith eisoes wedi atal Prydain rhag allgludo pobl yn y sefyllfa hon cyn bod y Ddeddf Hawliau Dynol yn bodoli. Mae llawer o bobl yn ystyried ei fod yn well i’w herlyn, ac, os ydynt yn euog, eu carcharu ym Mhrydain.

‘Erbyn hyn mae gan bobl ‘hawl ddynol’ i unrhyw beth’

Ddim yn wir. Nid yw’r Ddeddf Hawliau Dynol yn diogelu rhestr ddiddiwedd o hawliau. Mae ond yn diogelu 15 o hawliau a rhyddidau sylfaenol. Cymerwch gipolwg ar y rhain yma. Yr hawl i fywyd, er enghraifft, neu’r hawl i briodi a chychwyn teulu.Mae’r rhain yn hawliau sy’n hanfodol ar gyfer ein lles. Mae llawer o wledydd eraill yn diogelu ystod lawer ehangach o hawliau. Nid yw ein deddfau hawliau dynol, er enghraifft, yn creu hawl i fyw yn y DU, nag i ddderbyn budd-daliadau.

‘Mae deddfau hawliau dynol wedi arwain at rai penderfyniadau chwerthinllyd’

Yn ôl pob tebyg nid oes gan y penderfyniadau ‘chwerthinllyd’ hyn ond ychydig o sail mewn gwirionedd. A ydych wedi clywed yr un am y dyn na allem ei allgludo oherwydd bod ganddo cath anwes? Nid yw’n wir. Roedd cath y dyn yn amherthnasol – caniatäwyd iddo aros gan fod y Swyddfa Gartref wedi methu â gweithredu ei chyfarwyddyd ei hunan ar bartneriaid dibriod o bobol oedd wedi ymsefydlu yn y DU. Neu efallai rydych wedi clywed am y lleidr a oedd, wrth wrthsefyll cael ei arestio ar do, yn mwynhau sigareti a chyw iâr wedi’i ffrio a roddwyd gan yr heddlu a oedd yn poeni am ei hawliau dynol? Nid oedd yn unrhyw beth i ymwneud ag hawliau dynol – roedd yr heddlu ond yn ei ddarparu ag eitemau fel rhan o’u tactegau negodi arferol.

‘Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol wedi costio miliynau i drethdalwyr Prydain ac o les i gyfreithwyr yn unig’

Mewn gwirionedd mae’r Ddeddf wedi torri costau dwyn achosion hawliau dynol i’r llys. Cyn iddi gael ei chyflwyno, roedd rhaid i bobl fynd i’r Llys Hawliau Dynol yn Strasbourg i orfodi eu hawliau. Erbyn hyn mae llysoedd Prydain yn gwrando ar yr achosion hyn, sy’n fwy effeithlon ac yn costio llai. Ond nid yw’n ymwneud â chyfreithwyr a llysoedd yn unig. Mae’r Ddeddf yn annog awdurdodau cyhoeddus megis ysgolion ac ysbytai i ddarparu gwasanaethau gwell, tecach. Mae ei dylanwad yn golygu bod miloedd o bobl wedi gallu diogelu eu hawliau heb y gost o fynd i’r llys.

‘Mae llysoedd Prydeinig yn rhwym wrth Lys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbourg’

Anwir eto. Mae ein Deddf Hawliau Dynol yn glir nad yw’n ofynnol i lysoedd Prydeinig ddilyn penderfyniadau Llys Hawliau Dynol Ewrop heb eu cwestiynu. Maent ond yn gorfod eu ‘cymryd i gyfrif’. Gall barnwyr – ac yn aml dyma beth maent yn ei wneud – wyro oddi wrth cyfraith achos Strasbourg i gymryd i gyfrif ddeddfau a thraddodiadau’r Dyrnas Unedig ei hunan. 

‘Mae Llys Hawliau Dynol Ewrop yn dyfarnu yn erbyn Llywodraeth y DU yn y mwyafrif o achosion’

Nid yn ôl yr ystadegau. Mewn gwirionedd mae’r DU ond yn colli oddeutu 1% or hawliadau a ddygir yn ei herbyn yn Llys Hawliau Dynol Ewrop.

‘Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn rhoi gormod o bŵer i farnwyr nad ydynt wedi’u hethol’

Fe wnaeth gwleidyddwyr etholedig bleidleisio o blaid ein Deddf Hawliau Dynol, ni chafodd ei dyfeisio gan farnwyr. Mae’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i farnwyr i ddiogelu ein hawliau yn erbyn camddefnydd gan y Llywodraeth neu awdurdodau cyhoeddus. Ond os yw un o’r lllysoedd uwch yn canfod bod deddf mewn deddfwriaeth sylfaenol yn torri ar hawliau dynol rhywun, ni all ei wrthdroi – fe’i atgyfeirir i’r Senedd am benderfyniad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 04 May 2016