
Mae’r adroddiad hwn yn bwrw golwg ar effaith newidiadau i wariant cyhoeddus ar grwpiau gwarchodedig yng Nghymru, Lloegr a’r Alban i fyny hyd at flwyddyn dreth 2021 i 2022.
Gwna argymhellion i Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban i:
- leihau effeithiau negyddol newidiadau gwariant cyhoeddus
- cynnal asesiadau effaith ar gydraddoldeb pob cynllun gwario
Cynhaliwyd yr ymchwil gan Landman Economics a Aubergine Analysis.
Mae’n dilyn ein hadroddiad ar effaith gronnol diwygiadau lles a threth, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2018.