Woman sat at desk typing

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Golwg cyffredin ar Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Cafodd Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (y Ddyletswydd Cydraddoldeb) ei chreu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 er mwyn cysoni’r dyletswyddau cydraddoldeb hil, anabledd a rhywedd blaenorol ac i ymestyn diogelwch i’r nodweddion gwarchodedig newydd a restrir yn y Ddeddf. Disodlodd y Ddyletswydd Cydraddoldeb y dyletswyddau hyn a daeth i rym ar 5 Ebrill 2011.

Mae’r ddyletswydd yn cwmpasu oed, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol. Mae’n gymwys yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Amlinellir y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol yn adran 149 Deddf Cydraddoldeb 2010.

Yn gryno, rhaid i’r rheini sydd yn destun i’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol roi sylw dyledus i’r angen i:

  • Ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth ac ymddygiadau eraill sydd wedi’u gwahardd gan y Ddeddf.
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd a’r rhai and ydynt
  • Meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd a’r rhai and ydynt Darganfod mwy o wybodaeth am Ddyletswydd Gydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Weithiau cyfeirir at y rhain fel tri nod y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol. Yn ddefnyddiol mae’r Ddeddf yn egluro bod rhoi sylw dyledus i hyrwyddo cydraddoldeb yn ymwneud â:

  • Dileu neu leihau’r anfanteision i’r eithaf y mae pobl yn eu dioddef oherwydd eu nodweddion gwarchodedig.
  • Cymryd camau i ddiwallu anghenion pobl o grwpiau gwarchodedig pan y bônt yn wahanol i anghenion pobl eraill.
  • Annog pobl o grwpiau gwarchodedig i gyfranogi mewn bywyd cyhoeddus neu mewn gweithgareddau eraill lle bo’u cyfranogiad yn anghymesur o isel.

Dywed y Ddeddf fod diwallu anghenion gwahanol yn ymwneud â chymryd camau i gymryd cyfrif o anableddau pobl anabl. Disgrifia meithrin perthynas dda fel taclo rhagfarn a hybu dealltwriaeth rhwng pobl o grwpiau gwahanol. Dywed y gallai cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd cydraddoldeb ymwneud â thrin rhai pobl yn fwy ffafriol nag eraill.

Mae’r ddyletswydd i roi sylw dyledus i’r angen i ddileu gwahaniaethu yn cwmpasu priodas a phartneriaeth sifil yn y gweithle.

Ceir rhagor o wybodaeth am Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn adran Cyngor a Chanllaw ein gwefan.   

Beth a gynhwysir yn y Ddyletswydd?

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn cynnwys dyletswydd cydraddoldeb gyffredinol a dyletswyddau penodol, sydd yn helpu awdurdodau i gyflawni’r ddyletswydd gyffredinol.

Nod y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol yw integreiddio ystyriaethau o hyrwyddo cydraddoldeb i fuses awdurdodau cyhoeddus o ddydd i ddydd. Yn gryno, rhaid i’r rheini sydd yn destun i’r ddyletswydd cydraddoldeb, wrth ymarfer eu swyddogaethau, roi sylw dyledus i’r angen i :

  • Ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth ac ymddygiadau eraill sydd wedi’u gwahardd gan y Ddeddf.
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd a’r rhai and ydynt
  • Meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd a’r rhai nad ydynt

 

Darganfod rhagor am Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

 

 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Oct 2019