Gwasanaeth cyfieithu ar-lein Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)

Os ydych angen cysylltu â ni ac rydych yn ddefnyddiwr Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL), gallwch gysylltu â ni, gan ddefnyddio gwasanaeth cyfieithu ar-lein.

Argaeledd gwasanaeth

Oriau ein gwasanaeth dehongli fideo BSL yw 08.00 i 24:00, 7 diwrnod yr wythnos. Y tu allan i’r oriau hyn cysylltwch â ni i neilltuo dehonglydd o flaen llaw a all fod ar-lein cyn pen 30 munud.

Yr hyn sydd ei angen arnoch i gael mynediad i’r gwasanaeth

Apple neu Android Mobile Device:

Dyfais cyfrifiadur neu liniadur

 

Gofynion technoleg

Mae’r gwasanaeth hwn yn hygyrch drwy ddyfeisiau a ategir gan Windows ac Apple Mac.

Mae’r gwasanaeth hwn yn gydnaws â’r porwyr a ganlyn: 

  • Google Chrome fersiwn 46 a diweddarach
  • Firefox fersiwn 45 a diweddarach
  • Opera fersiwn 39 a diweddarach
  • Safari 9
  • Internet Explorer 11

Os ydych yn defnyddio Safari 9 neu Internet Explorer 11, lawr lwythwch y plugin pan anogir chi ei wneud. Dim ond unwaith y bydd rhaid i chi ei wneud, y tro nesaf cewch eich cymryd yn syth i’r botwm galw. 

Sylwer: os yw eich cyswllt band eang yn llai na 120kbps, yna, bydd y gwasanaeth yn sain yn unig. Mae galwadau fideo yn gofyn am gyswllt band eang isafswm o 192kbps.

Cymorth a Chywiro diffygion

Os ydych yn cael anhawster i gysylltu â gwasanaeth dehongli fideo BSL gwyliwch ein canllaw Cywiro diffygion neu ddarllen trawsgrifiad o ganllaw cywiro diffygion ein gwasanaeth dehongli fideo BSL.

Fel arall, cysylltwch â’n darparwr gwasanaeth BSL am gymorth pellach neu i ddarparu adborth ar y gwasanaeth.

Preifatrwydd

Mae gwasanaeth dehongli fideo BSL wedi’i ardystio i ISO 27001 a ISO 9001, a phrosesir pob data a’i ddal yn ddiogel. Fel sefydliad ardystiedig rydym wedi amrywio i welliant parhaus ac asesir ni yn flynyddol i sicrhau bod cynnydd yn cael ei gynnal. 

 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 08 Mar 2023