Gwasanaeth cynghori annibynnol yw’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS). Nid y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sydd yn ei weithredu. Anelir ef at unigolion sydd angen gwybodaeth arbenigol, cyngor a chymorth ar broblemau gwahaniaethu a hawliau dynol a’r gyfraith berthnasol, yn enwedig pan fydd hyn yn fwy na all asiantaethau cyngor eraill a sefydliadau lleol ddarparu.
Cysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)
Manylion cyswllt ar gyfer y gwasanaeth yw:
Ffôn: 0808 800 0082
Ffôn testun: 0808 800 0084
Gallwch anfon e-bost gan ddefnyddio’r ffurflen gysylltu ar wefan EASS.
Ar gael hefyd drwy’r wefan mae cyfieithu Iaith Arwyddion Prydeinig, gwasanaethau sgwrsio ar y wefan a ffurflen gysylltu â ni.
Post:
FREEPOST
EASS HELPLINE
FPN6521
Oriau ar agor:
9am i 7pm dydd Llun i ddydd Gwener
10am i 2pm dydd Sadwrn
ar gau ddydd Sul a Gwyliau’r Banc
Am yr EASS
Caiff yr EASS ei gomisiynu gan y llywodraeth ac mae’n gweithio ar y cyd â sefydliadau cyngor eraill y mae’n cael atgyfeiriadau ganddyn nhw, a chyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Nid yw’r Comisiwn yn gallu ymateb i ymholiadau unigol am gyngor a chymorth, gan mai rôl yr EAAS yw hynny. Os nad ydych yn fodlon â’r gwasanaeth a ddarparodd EASS dilynwch broses gwyno EASS.
Gall yr EASS:
- Roi cyngor pwrpasol i unigolion ar draws Prydain Fawr ar faterion gwahaniaethu
- Egluro hawliau ac atebion cyfreithiol o fewn deddfwriaeth gwahaniaethu, ar draws y tair cenedl
- Egluro opsiynau ar gyfer datrysiadau anffurfiol a helpu pobl i’w dilyn
- Atgyfeirio pobl nad ydyn nhw’n dymuno dilyn y trywydd hwnnw at wasanaethau cymrodeddu neu gyflafareddu
- Helpu pobl sydd angen neu’n dymuno ceisio datrysiad cyfreithiol drwy helpu sefydlu cymhwysedd ar gyfer cymorth cyfreithiol ac, os nad ydyn nhw’n gymwys, dod o hyd i wasanaeth cyfreithiol hygyrch neu i baratoi a chyflwyno achos eu hunain.
Ond ni all:
- Ddarparu cyngor cyfreithiol
- Darparu cynrychiolaeth mewn unrhyw achosion cyfreithiol
- Darparu cyngor ar weithdrefnau llys neu dribiwnlys unwaith bod hawliad wedi ei gyflwyno
- Cynghori ar gryfder achos neu’r dystiolaeth sydd ei angen i brofi achos
- Darparu cyngor i gyflogwyr
- Darparu cyngor i gyfreithwyr a chynghorwyr proffesiynol eraill
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Sep 2019