Mind the gap: painted on the floor at an underground station

Bwlch cyflog rhwng y rhywiau: ein camau gorfodi

Mae'n ofyniad cyfreithiol i bob cyflogwr perthnasol gyhoeddi eu gwybodaeth bwlch cyflog rhwng y rhywiau bob blwyddyn.

Y dyddiad cau i gyflogwyr adrodd am eu gwybodaeth bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw’r canlynol

  • ar gyfer y rhan fwyaf o gyflogwyr y sector cyhoeddus: 23:59 ar 30 Mawrth
  • ar gyfer cyflogwyr y sector preifat a gwirfoddol a chyflogwyr eraill yn y sector cyhoeddus: 23:59 ar 4 Ebrill

Gweler ein tudalennau adrodd bwlch cyflog rhwng y rhywiau i gael rhagor o wybodaeth ynghylch pwy sy’n gorfod adrodd a sut i gyfrifo’ch bwlch cyflog.

Beth ydym yn ei wneud am sefydliadau nad ydynt yn dilyn y rheolau?

Mae ein polisi ymgyfreitha a gorfodi yn esbonio sut rydym yn penderfynu pa gamau i’w cymryd yn erbyn cyflogwyr nad ydynt yn dilyn y rheolau.

Mae gennym y pŵer i gymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw gyflogwr nad yw'n cydymffurfio â'i ddyletswyddau adrodd.

Yn gyntaf byddwn yn anfon hysbysiadau rhybuddio at sefydliadau sydd wedi methu ag adrodd. Efallai y byddwn wedyn yn cynnal ymchwiliad i gadarnhau a ydych yn torri’r rheoliadau. Os ydych, gallwn anfon ‘hysbysiad gweithred anghyfreithlon’ statudol atoch, sef llythyr yn dweud wrthych am gydymffurfio â’ch rhwymedigaethau adrodd.

Os ydych yn gorff cyhoeddus efallai y byddwn yn cynnal asesiad sector cyhoeddus neu’n anfon ‘hysbysiad cydymffurfio statudol’ atoch, yn ôl yr angen.

Os bydd unrhyw sefydliad yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio statudol, efallai y byddwn yn ceisio gorchymyn llys yn eich erbyn. Mae methu â chydymffurfio â’r gorchymyn llys yn drosedd, a gellir eich cosbi â dirwy ddiderfyn os cewch eich dyfarnu’n euog.

Byddwn yn sicrhau bod manylion unrhyw gyflogwyr y byddwn yn ymchwilio iddynt ar gael ar ein gwefan.

Pa sefydliadau sydd heb adrodd ar eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn 2022?

Nid yw 28 o sefydliadau wedi adrodd ar eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau eleni.

Fe'u rhestrir isod.

  • Achieving for Children Community Interest Company
  • Adare Sec Limited
  • Alaraby Television Network Limited
  • Anglian Windows Limited
  • BD Together Ltd.
  • Buck Consultants Limited
  • Costco Wholesale UK Limited
  • Genius Foods Limited
  • ICE Data Services Europe Limited
  • Inspireall Leisure And Family Support Services
  • JELD-WEN UK Limited
  • NSF Safety and Quality UK Limited
  • Petrogas Group UK Limited
  • Pollo Limited
  • Poole High School
  • Premiere Coffee Limited
  • Quadient UK Limited
  • Ralph Coleman International Limited
  • Rico Logistics Ltd.
  • Scarsdale Vets (Derby) Limited
  • Secured Express Limited
  • Shuropody Retail Limited
  • St. Cloud Care Limited
  • Swissport GB Limited
  • Synergy Health Managed Services Limited
  • The Rosedale Hewens Academy Trust
  • Tile Giant Limited
  • Umbrella Contracts Limited

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Jul 2022