
Cyflwynom yr adroddiad hwn i’r Pwyllgor yn erbyn Arteithio fel gwaith dilynol i’w Gasgliadau Terfynol ar chweched adroddiad cyfnodol y DU ym mis Mai 2019.
Mae’r cyflwyniad yn canolbwyntio ar:
- atebolrwydd dros unrhyw arteithio a cham-drin a gyflawnodd personél y Deyrnas Unedig yn Irac o 2003 i 2009, a
- gweithrediad cyffredinol y Casgliadau Terfynol.
Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion a fydd yn cryfhau ymrwymiad y DU i’r fframwaith hawliau dynol rhyngwladol a’r Confensiwn yn erbyn Arteithio (CAT).