A pair of eyes A pair of eyes

Sut diogelir eich hawliau?

Diogelir hawliau dynol yn Mhrydain gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Diogelir pawb sydd ym Mhrydain Fawr am unrhyw reswm gan y Ddeddf hon, heb ystyried statws dinasyddiaeth neu fewnfudo.

Ni wnaeth y Ddeddf greu hawliau dynol ar gyfer pobl Brydeinig. Sefydlwyd yr hawliau a rhyddidau mae’n eu cwmpasu yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, gytuniad sydd wedi bod mewn grym ers 1953. Mae’r Ddeddf yn ei wneud yn haws i ddiogelu’r hawliau hyn trwy eu cymhwyso i’n cyfraith ddomestig ein hunain. Hefyd mae’n golygu y gallwch wneud cwynion ynghylch toriadau ar hawliau dynol i lys Prydeinig yn hytrach na gorfod mynd i Strasbourg yn Ffrainc.

Pa hawliau a ddilgelir?

Mae 16 o hawliau sylfaenol a ddiogelir gan y Ddeddf Hawliau Dynol. Fel y byddech yn ei ddisgwyl, maent yn ymwneud â materion megis bywyd, rhyddid a rhyddid rhag caethwasiaeth a thriniaeth greulon. Ond hefyd maent yn cwmpasu hawliau syn gymwys i fywyd dyddiol, megis yr hyn gallwn ei ddweud a’i wneud, ein credau a’r hawl i briodi a magu teulu. Gallwch weld rhagor o fanylion ar ein tudalennau Deddf Hawliau Dynol.

Pwy sy’n gorfod cydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol?

Mae’r Ddeddf yn gymwys i:

  • bob awdurdod cyhoeddus (megis adrannau’r llywodraeth ganolog, awdurdodau lleol ac Ymddiriedolaethau GIG), a
  • phob corff arall ai’n gyhoeddus neu breifat, sy’n cyflawni
  • swyddogaethau cyhoeddus megis cyflenwi gofal a ariennir yn gyhoeddus a gweithredu charchardai.

Rhaid i awdurdodau cyhoeddus ddilyn y Ddeddf Hawliau Dynol ym mhopeth maent yn ei wneud. Rhaid iddynt barchu a diogelu’ch hawliau dynol pan ydynt yn gwneud penderfyniadau unigol amdanoch. Hefyd rhaid iddynt ddilyn y Ddeddf Hawliau Dynol pan ydynt yn cynllunio gwasanaethau ac yn gwneud polisïau.

Nid yw’r ddyletswydd i gydymffurfio â’r Ddeddf yn gymwys yn uniongyrchol i unigolion neu gwmnïau preifat nad ydynt yn cynnal swyddogaethau cyhoeddus. Ond mae sefyllfaoedd lle mae gan awdurdod cyhoeddus ddyletswydd i atal camdriniaeth o hawliau dynol gan unigolyn neu gwmni. Er enghraifft, mae gan awdurdod cyhoeddus sy’n ymwybodol o gam-drin plant ddyletswydd i ddiogelu’r plentyn rhag triniaeth creulon neu ddiraddiol.

Gellir gorfodi’r hawliau yn y Ddeddf o dan y gyfraith. Mae hyn yn golygu, os yw unigolyn yn ystyried bod eu hawliau wedi’u torri, gallant ddwyn y sefydliad dan sylw gerbron y llys. Gweler ein tudalen sut i ymarfer eich hawliau dynol am ragor o wybodaeth.

A all hawliau dynol gael eu cyfyngu o gwbl?

Mae rhai hawliau dynol – megis yr hawl i beidio â chael eich arteithio – yn absoliwt. Ni ellir ymyrryd â’r hawliau ‘absoliwt’ hyn o gwbl o dan unrhyw amgylchiadau.

Ond nid yw’r mwyafrif o hawliau dynol yn absoliwt. Disgrifir rhai fel ‘cyfyngedig’ sy’n golygu y gellir cyfyngu arnynt o dan amgylchiadau penodol fel a nodir yn Erthygl perthnasol y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Er enghraifft, gellir cyfyngu ar yr hawl i ryddid os yw person yn cael ei gollfarnu a’i anfon i’r carchar.

Disgrifir hawliau eraill fel ‘amodol’. Mae hyn yn golygu y gellir cyfyngu arnynt dim ond er mwyn diogelu hawliau pobl eraill neu os yw er lles y cyhoedd am resymau penodol megis atal troseddu. Er enghraifft, gall y Llywodraeth gyfyngu ar yr hawl i ryddid mynegiant os yw person yn annog casineb hiliol.

Nid yw Deddf Hawliau Dynol 1998 yn cwmpasu’ch holl hawliau dynol. Cynhwysir eraill yn y cytuniadau rhyngwladol ar hawliau dynol mae’r Deyrnas Unedig wedi’u llofnodi a’u cadarnhau. Mae’r hawliau cytuniad hynny’n orfodol ar y DU o dan gyfraith ryngwladol, sy’n golygu bod y DU wedi cytuno iddynt a bod rhaid i’r Llywodraeth gydymffurfio â hwy. Fodd bynnag, mae’r dull ar gyfer dal y Llywodraeth i gyfrif am ei chydymffurfiad â hawliau cytuniad yn wahanol i’r dull gorfodi ar gyfer y Ddeddf Hawliau Dynol. I gael gwybod sut diogelir yr hawliau dynol eraill hyn gweler dolen i’r adran fonitro cytuniadau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 04 May 2016