Norman Lamb

Atal marwolaethau oedolion â chyflyrau iechyd meddwl yn y ddalfa

Yn 2015, cyhoeddodd y Comisiwn adroddiad ar ein hymchwil i farwolaethau annaturiol oedolion â chyflyrau iechyd meddwl mewn carchardai, yn nalfa’r heddlu ac ysbytai seiciatrig yn y blynyddoedd 2010-13. Dangosodd ein dadansoddiad o’r dystiolaeth fod camgymeriadau sylfaenol yn cael eu gwneud dro ar ôl tro, a datblygom gyfres o argymhellion ar gyfer asiantaethau perthnasol er mwyn gwella’r sefyllfa. Mae’r adolygiad cynnydd hwn yn asesu a chafodd camau eu cymryd i roi’r argymhellion hyn ar waith ac atal marwolaethau gocheladwy pellach. 

Help a chymorth

Mae INQUEST yn darparu cyngor yn rhad ac am ddim i bobl alarus gan farwolaeth yn y ddalfa.

Mae IPCC (Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu) yn goruchwylio’r system cwynion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r Ombwdsmon dros Garchardai a Phrawf (PPO) yn cynnal archwiliadau annibynnol i farwolaethau a chwynion yn y ddalfa.

Os hoffech wybodaeth bellach am ein Hymchwiliad anfonwch e-bost atom i adultdeathsinquiry@equalityhumanrights.com