
Mae’r adroddiad hwn yn bwrw golwg ar sut all tystiolaeth o wyddoniaeth ymddygiadol gynnig ffyrdd newydd ac arloesol i newid ymddygiad cyflogwyr a menywod.
Cyflwyna’r adroddiad ymchwil a gynhaliwyd yn nyddiau cynnar 2016 gan y Tîm Dirnadaeth Ymddygiadol (BIT) i’r Comisiwn.
Mae’n ystyried y tair her a ddewisodd y Comisiwn i ganolbwyntio arnynt, yn seiliedig ar ganfyddiadau ymchwil cynharach:
- gweithio hyblyg
- iechyd a diogelwch
- recriwtio
Mae’n defnyddio dull ‘TEST’ pedwar cam BIT:
- targedu
- archwilio
- datrysiad
- treial