Gallai graddio rhagfynegol yn ystod COVID-19 gyfyngu ar ddyfodol pobl ifanc
3 Gorffennaf 2020
Rydym wedi ymateb i ymgynghoriad ffurfiol Cymwysterau Cymru ar drefniadau ar gyfer cyfres arholi haf 2020.
Adroddiad newydd: Effaith Integreiddio Cyfreithiol Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru
Rydym yn falch i lansio adroddiad ymchwil Cymru newydd. Archwilia’r adroddiad hwn effaith Integreiddio Cyfreithiol Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru.
Comisiynwyd yr adroddiad gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac fe’i cynhaliwyd gan Dr Simon Hoffman (Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc) a Sean O’Neill (Plant yng Nghymru) rhwng mis Rhagfyr 2017 a Mawrth 2018.
Polisi Hawl i Rentu yng Nghymru a’r Alban wedi’i herio’n llwyddiannus
1 Mawrth 2019
Cafodd polisi Hawl i Rentu Llywodraeth y DU ei ddyfarnu heddiw o fod yn anghydnaws â hawliau dynol ac yn mynd yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r dyfarniad yn atal llywodraeth y DU rhag rowlio allan y polisi dadleuol yng Nghymru a’r Alban.
Cryfhau hawliau dynol: dysgu gan Gymru
Mawrth 2019
Cyfle oedd y digwyddiad i archwilio opsiynau i gryfhau amddiffynfeydd hawliau dynol yng Nghymru, gan gynnwys o bosib gosod cytuniadau CU pellach i gyfraith Gymreig.
Aelod Pwyllgor Cymru’r Comisiwn, Dr Alison Parken, yn cael ei OBE
Llongyfarchiadau i Aelod Pwyllgor Cymru’r Comisiwn, Dr Alison Parken, a oedd ym Mhalas Buckingham heddiw yn cael ei OBE am wasanaethau i gydraddoldeb ac amrywiaeth.
Meddai Dr Alison Parken OBE:
‘Rwy wrth fy modd yn cael y dyfarniad hwn. Fy enw i sydd arno ond mae’n ganlyniad arwyr cydraddoldeb ymroddedig ac ysbrydoledig o bob agwedd bywyd yr wyf wedi mwynhau gweithio gyda nhw yng Nghymru dros nifer o flynyddoedd. Mae cymaint eto i’w wneud!’
Meddai Cadeirydd Pwyllgor Cymru’r Comisiwn, June Milligan:
‘Mae’n llawn haeddu’r anrhydedd hon. Bu Alison yn arwr diflino dros gydraddoldeb a hawliau dynol am nifer o flynyddoedd. Mae eu hymchwil wedi helpu llywio’r ffordd rydym yn deall a thaclo anghydraddoldeb yng Nghymru.
‘Rwy’n falch iawn i weld arbenigedd ac angerdd Alison yn cael eu cydnabod - mae’r rhain yn nodweddion y daw Alison â nhw i’w rôl fel Aelod Pwyllgor Cymru’r Comisiwn. Rwy’n siŵr y bydd Alison yn parhau ar flaen y gad yn ei hymdrechion i greu Cymru decach.’
Hawliau Dynol yn yr 21ain Ganrif – darlith flynyddol ar hawliau dynol
Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd David Isaac, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yn cyflwyno ein darlith flynyddol ar hawliau dynol. Bydd y ddarlith, Hawliau Dynol yn yr 21ain Ganrif, yn cael ei chynnal am 5.30pm ar 20 Chwefror 2018 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.
Bydd David yn trafod effaith bosib Brexit ar ein hawliau dynol ac yn amlinellu rhai o'r prosiectau allweddol sy'n cael eu gwneud gan y Comisiwn ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Mae'r tocynnau yn gyfyngedig. Sicrhewch eich tocyn trwy glicio yma.
Traethawd Ruth Coombs ar gyfer wythnos wrth-fwlio a gyhoeddwyd yn y Western Mail
Mae’r thema ar gyfer wythnos wrth-fwlio eleni - ‘Pawb yn Wahanol, Pawb yn Gyfartal’ – yn darparu cyfle gwirioneddol i amlygu bod llawer gormod o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael eu bwlio yn yr ysgol oherwydd eu hil, ffydd, anabledd, rhywioldeb neu hunaniaeth rhyweddol.
Bwlio ar sail hunaniaeth yw unrhyw ffurf ar fwlio sydd yn ymwneud â’r nodweddion a ystyrir yn rhan o hunaniaeth person neu grŵp hunaniaeth a ganfyddir. Gall gynnwys stigmateiddio myfyriwr anabl, defnyddio iaith homoffobig, ceisio tynnu hijab myfyriwr Mwslimaidd i ffwrdd neu ddisgyblion yn destun i gyffwrdd nad ydynt ei eisiau.
Yr wythnos hon rydym wedi lansio animeiddiad to i dynnu sylw at faint ac effaith bwlio yn yr ysgol. Dengys tystiolaeth o’n hadroddiad A yw Cymru’n Decach? y bydd hyd at bum deg y cant o ddisgyblion yn dioddef bwlio yng Nghymru, gyda rai grwpiau o blant a phobl ifanc hyd yn oed yn fwy tebygol o gael eu bwlio. Gall bwlio ar sail hunaniaeth fod â goblygiadau hir dymor. Gall niweidio lles plant a phobl ifanc ac effeithio ar eu cyrhaeddiad addysgol a photensial. O ystyried y dystiolaeth hon rydym wedi blaenoriaethu’r angen i leihau bwlio ar sail hunaniaeth.
Nodau’r wythnos wrth-fwlio eleni yw:
- Rhoi grym i blant a phobl ifanc i ddathlu’r hyn sydd yn eu gwneud nhw, ac eraill, yn wahanol
- Helpu plant a phobl ifanc ddeall pa mor bwysig yw i bob plentyn deimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i gynnwys yn yr ysgol, yn gallu bod eu hunain, heb ofni bwlio
- Annog rhieni a gofalwyr i weithio gyda’u hysgol a siarad â’u plant ynglŷn â bwlio, gwahaniaeth a chydraddoldeb
- Galluogi athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill dros blant i ddathlu’r hyn sydd yn gwneud ‘pawb yn wahanol, pawb yn gyfartal’ a dathlu gwahaniaeth a chydraddoldeb. Eu hannog i gymryd camau unigol ac ar y cyd i atal bwlio, creu amgylcheddau diogel lle gall plant fod eu hunain.
Dylai taclo bwlio ar sail hunaniaeth fod yn flaenoriaeth i bob ysgol yng Nghymru. Mae fframwaith arolygu newydd Estyn yn cydnabod yr angen hwn.
Rwy wedi croesawu’n fawr iawn y cyfle i weithio mewn partneriaeth â’r Comisiynydd Plant i ddatblygu adnodd gwrth-fwlio i ysgolion uwchradd yng Nghymru. Mae Stori Sam – fe fydd e’n gwella yn cynnwys pum sesiwn addysgu a dysgu rhyngweithiol i’w cyflenwi yn yr ysgol i godi ymwybyddiaeth o fwlio ar sail hunaniaeth. Mae’r adnodd yn cynnwys yr awgrymiadau gorau i brifathrawon daclo bwlio ar sail hunaniaeth. Byddwn yn annog pob ysgol yng Nghymru i ddefnyddio’r awgrymiadau hyn.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn rheoleiddio Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED), sydd yn ei wneud yn ofynnol i ysgolion weithredu i wella deilliannau i ddisgyblion â nodweddion gwarchodedig gwahanol. Golyga fod rhaid i ysgolion wrth wneud penderfyniadau a gweithgareddau o ddydd i ddydd eraill ystyried yn ymwybodol yr angen i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu a gelyniaeth, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin perthynas dda.
Dylai fod nod PSED gan ysgolion i daclo bwlio ar sail hunaniaeth ac amlinellu’r camau y byddan nhw’n eu cymryd i wireddu hyn, gan gynnwys monitro a chofnodi bwlio ar sail hunaniaeth. Wrth wneud felly, bydd ysgolion yn gallu nodi’n well a yw’r camau y maen nhw’n eu cymryd yn llwyddiannus.
Gobeithio bydd ein hadnoddau yn helpu ysgolion i daclo bwlio ar sail hunaniaeth.
Dewch i ni ddathlu gwahaniaeth a helpu mwy o blant a phobl ifanc i deimlo’n ddiogel a gwireddu’u potensial.
Ruth Coombs, Pennaeth Cymru’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Addewid Llywodraeth Cymru i Weithio Ymlaen ar hawliau beichiogrwydd a mamolaeth yn y gwaith
Meddai Shan Morgan, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru:
“Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru yn arwyddo addewid Gweithio Ymlaen ar hawliau beichiogrwydd a mamolaeth. Rwy’n meddwl ei fod yn fenter bwysig iawn. Rydym eisoes wedi gwneud nifer o newidiadau positif gan gynnwys galluogi menywod i gadw offer TG megis ffonau symudol a gliniaduron yn ystod eu habsenoldeb mamolaeth i’w galluogi i ddychwelyd yn ddidrafferth i’r gwaith yn ogystal â gwella ein trefniadau ariannol i sicrhau bod hyblygrwydd gwell i ariannu rhywun i wneud y gwaith yn ystod y cyfnod mamolaeth. Trwy ein Cynllun Gweithredu Amrywiaeth a Chynhwysiad rydym yn ymrwymo i gefnogi menywod yn ystod eu beichiogrwydd, absenoldeb mamolaeth ac wrth iddyn nhw ddychwelyd i’r gwaith. Dyma ran ein cyfrifoldeb fel cyflogwr da a sicrhau y gall menywod wrth ddychwelyd i’r gwaith yn Llywodraeth Cymru ffynnu a chyfrannu i’r eithaf.”
Meddai June Milligan, Comisiynydd y Comisiwn a Chadeirydd Pwyllgor Cymru’r Comisiwn:
“Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gymryd camau i ddenu, datblygu a dargadw menywod yn y gweithle fel rhan o Weithio Ymlaen. Daw Llywodraeth Cymru yn un o fwy na 150 o sefydliadau yn gwneud yr ymrwymiad hwn, gan gynnwys cyflogwyr sector preifat a sector cyhoeddus sylweddol eraill yng Nghymru. Mae’r cam hwn yn ymateb i ymchwil gweithle’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a’r dystiolaeth o ba gamau y gellir eu cymryd i sicrhau bod doniau menywod yn cael eu meithrin a’u gwerthfawrogi.”
Mae Gweithio Ymlaen, a sefydlwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dilyn ei ymchwil carreg filltir sydd yn dangos bod anfantais a gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth yn y gwaith yn effeithio ar oddeutu 390,000 o fenywod beichiog a mamau newydd ledled Prydain bob blwyddyn.
Mae’n amlygu er bod y mwyafrif o gyflogwyr yng Nghymru (87 y cant) yn dweud eu bod yn gefnogwyr selog o staff benywaidd yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd ac yn ei chael yn hawdd cydymffurfio â’r gyfraith, dywed 71 y cant o famau eu bod wedi cael profiad negyddol neu wahaniaethol o bosib yn y gwaith.
Mae aelodau, sydd yn cynnwys cyflogwyr sefydliadau mawr a bach ar draws y sector preifat a’r sector cyhoeddus, yn helpu gyrru newid diwylliannol hir dymor drwy arwyddo i weithredu mewn o leiaf dau faes megis:
- Arddangos arweinyddiaeth o’r brig i lawr
- Sicrhau gweithwyr hyderus
- Hyfforddi a chefnogi rheolwyr llinell
- Cynnig ymarferion gweithio hyblyg
Mae mwy na 150 o sefydliadau ar hyd a lled Prydain yn aelodau o Weithio Ymlaen. Mae cyflogwyr o Gymru yn cynnwys: Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, BT, Ysgol Fusnes Prifysgol Cymru, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Coleg y Cymoedd, Deloitte, Dwr Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Ford, Legal & General, Colegau NPT, QLS, Heddlu De Cymru a Wales and West Utilities.
Mae Gweithio Ymlaen yn cynnig adnoddau a deunyddiau i aelodau sydd yn addas i’w anghenion busnes a’r cyfle i ddod yn rhan o gymuned aelodau sydd yn cynyddu, rhannu awgrymiadau, cyngor a gwybodaeth i wneud profiadau’n well i fenywod beichiog a mamau newydd.
Am fwy o wybodaeth ac i addo’ch cefnogaeth heddiw, ymwelwch â thudalen ymgyrch Gweithio Ymlaen.
Dyfarnwyd OBE i Kate Bennett, cyn Cyfarwyddwr Cenedlaethol i Gymru, yn rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines
Mae Comisiynydd y Comisiwn i Gymru, June Milligan, wedi llongyfarch Kate Bennett, cyn Cyfarwyddwr Cenedlaethol y Comisiwn i Gymru, ar ôl iddi ennill OBE yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.
Dyfarnwyd yr anrhydedd i Kate am wasanaethau i gydraddoldeb a hawliau dynol yn dilyn bron ugain mlynedd o wasanaeth yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a gyrfa wedi’i hymrwymo i greu cymdeithas decach.
Cynhadledd 2017 y Gyfnewidfa Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Rydym wedi enwi dyddiad ar gyfer Cynhadledd ein Cyfnewidfa Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Eleni byddwn yn cynnal y gynhadledd yn Stadiwn Dinas Caerdydd, ar 6 Gorffennaf 2017.
Byddwn yn rhannu mwy o fanylion ynghylch cynnwys y gynhadledd yn yr wythnosau i ddod.
Os oes unrhyw gwestiynau gennych cysylltwch ni at wales@equalityhumanrights.com
Pennaeth newydd y Comisiwn yng Nghymru
Yn dilyn ymarfer recriwtio cystadleuol, pleser yw cyhoeddi y bydd Ruth Coombs yn ymuno â ni ar 3 Ebrill fel Pennaeth newydd y Comisiwn yng Nghymru.
Mae Ruth yn dra phrofiadol o ran gweithio ar lefel strategol o fewn sefydliadau dylanwadol y sector cyhoeddus ac elusennol, ac o arwain timau amrywiol drwy amrywiaeth o heriau a thuag at gyflawni llwyddiant.
Ar hyn o bryd, Pennaeth Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru yw Ruth, lle mai hi yw wyneb a phresenoldeb y sefydliad yng Nghymru, gan weithio ar y cyd i godi, nid yn unig ei broffil, ond hefyd, effaith gyfunol gwasanaethau Cymru benbaladr. Mae dealltwriaeth arbenigol ganddi o’r cyd-destun Cymreig a chyfoeth o brofiad yn y sector cydraddoldeb wedi’i feithrin drwy ei hanes gyrfaol amrywiol, gan gynnwys rolau yn Mind Cymru a chyfnod sabothol clodwiw yn gweithio i Gymdeithas Menywod Mitengo yn Zambia, y cyfan wedi gyrfa lwyddiannus iawn fel athrawes a phrifathrawes.
Rydym yn llongyfarch Ruth ac yn edrych ymlaen at ei chroesawu i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Diweddarwyd ddiwethaf: 03 Jul 2020