- Hafan
- Amdanom ni
- Swyddi
Swyddi
Swyddi gwag cyfredol
Ar gyfer swyddi gwag eraill o fewn y Gwasanaeth Sifil, gweler Civil Service jobs.
Gwybodaeth bellach i ymgeiswyr
Ymgeiswyr Gwasanaeth Sifil a mewnol
Cynigir eu cyflog cyfredol i ymgeiswyr ar drosglwyddiad cyfartal, neu bwynt cychwyn y band cyflog, p’un bynnag yw’r uchaf. Cynigir y cyflog cychwynnol i ymgeiswyr ar ddyrchafiad ar gyfer y rôl. Cynyddir cyflog ymgeisydd Gwasanaeth Sifil i’r pwynt cyflog agosaf ar y raddfa cyflog briodol.
Ymgeiswyr allanol
Gwneir penodiadau fel arfer ar bwynt cychwyn y raddfa cyflog, fodd bynnag gallai cyflog uwch fod ar gael i ymgeisydd arbennig.
Pob ymgeisydd
Darllen ein canllaw gwneud cais (40KB, Word).
Os cynigir swydd ichi, gofynnir ichi geisio am dystysgrif Datgelu Sylfaenol yr Alban a’i darparu.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Swyddi Gwasanaeth Sifil.
Buddion
Fel sefydliad sector cyhoeddus mawr sydd yn wirioneddol yn gwerthfawrogi’i gyflogeion, rydym yn cynnig pecyn ardderchog o fuddion i staff. Mae’r rhain yn amrywio o weithio amser hyblyg a hawliadau gwyliau hael, i dalebau gofal plentyn a dewis o gynlluniau pensiwn. Rydym, hefyd, yn cynnig cyfleoedd dysgu a datblygu gwych, Rhaglen Gynhorthwy i Gyflogeion a hyd yn oed fenthyciadau di-log ar gyfer tocynnau tymor a beiciau, dan amodau.
Oriau gweithio a gweithio hyblyg
Mae’n gweithwyr llawn amser yn gweithio ar gontract 36 awr yr wythnos. Rydym yn cynnig patrymau gweithio hyblyg lle bo’n bosibl i gynorthwyo gyda chydbwysedd gwaith/bywyd ac mae croeso i geisiadau gan bobl sy’n dymuno rhannu swydd neu weithio’n rhan-amser. Hefyd, mae gennym gynllun amser hyblyg sydd yn eich galluogi i amrywio eich amser dechrau a gorffen gwaith ac adennill yr oriau sydd eiddo ichi. Rydym yn hapus i drafod gweithio hyblyg o’r cychwyn deg.
Gwyliau blynyddol
Bydd pob gweithiwr llawn amser yn cael 30 diwrnod o wyliau bob blwyddyn yn ychwanegol at y gwyliau banc a’r gwyliau cyhoeddus. Bydd hyn yn pro rata i weithwyr rhan amser.
Cynllun pensiwn
Mae gennym gynllun pensiwn y gwasanaeth sifil ac rydym yn cynnig cynlluniau pensiwn rhanddeiliaid hefyd. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.civilservice-pension.gov.uk. Cewch fwy o wybodaeth ar ôl i chi ddechrau gweithio gyda ni.
Dysgu a datblygu
Rydym yn awyddus i bawb lwyddo i’w llawn botensial yn y Comisiwn, ac rydym yn cydnabod y digwydd hynny ond drwy fuddsoddiad arwyddocaol ar ein rhan ni ac ymrwymiad parhaus ar eich rhan chi. Yn y misoedd cyntaf, byddwch yn ymgymryd â’n rhaglen sefydlu gorfforaethol, sydd wedi’i chynllunio i’ch helpu i ymgartrefu’n gyflym a rhoi sylfaen gadarn i chi o waith y Comisiwn. Hefyd, rydym yn cynnig ystod o weithgareddau dysgu a datblygu, a rhaglen ar gyfer ein rheolwyr i ddatblygu eu sgiliau rheoli ac arwain. Hefyd mae opsiynau i ennill cymwysterau proffesiynol pellach, unwaith i chi gyflawni’r cyfnod prawf yn llwyddiannus.
Rhaglen Gymorth i Weithwyr
Mae’r Comisiwn yn rhoi cyfle i’w holl weithwyr, eu cymheiriaid a’u plant hyd at 21 mlwydd oed, i fanteisio ar wasanaeth cyfrinachol sydd yn darparu gwybodaeth, cymorth ac arweiniad proffesiynol o ran rheoli trafferthion yn y cartref neu yn y gweithle. Bydd cyngor cwnsela arbenigol byr dymor ar gael hefyd drwy’r rhaglen, ar sail wyneb i wyneb.
Undebau
Mae’r Comisiwn yn cydnabod yr undebau PCS ac Unite ill dau.
Benthygiadau tocynnau tymor
Os ydych chi’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio i’r gwaith yn y Comisiwn, yna fe allwch chi gael benthyciad di-log i brynu’ch tocyn tymor.
Benthyciad ar gyfer beic
Er lles yr amgylchedd, rydym yn bwriadu cynnig benthyciad di-log i unrhyw gyflogeion sydd yn dymuno prynu beic er mwyn teithio i ac o’r gwaith.
Talebau gofal plentyn
Mae gennym dalebau gofal i helpu gweithwyr sydd â dyletswyddau gofal plant ac sy’n dymuno parhau â’u gyrfa. Yn destun i amodau.
Ad-daliad profion llygaid
Bydd y Comisiwn yn ad-dalu hawliadau profi golwg, i fyny at uchafswm gwerth. Darperir cymorth ychwanegol lle bo angen lensys ar gyfer defnydd Cyfarpar Sgrin Arddangos (DSE) yn unig.
Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Ymunwch â ni a byddwch yn rhan o sefydliad sydd nid yn unig yn hyrwyddo hawliau dynol ond yn ymdrechu i ddileu gwahaniaethu, ac sydd hefyd yn dathlu’r ffaith ein bod i gyd yn gyfartal wahanol.
Mae’r Comisiwn yn croesawu ymholiadau gan bawb ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithle. Mae ymroddiad i hybu amrywiaeth a datblygu amgylchedd yn y gweithle lle ymdrinnir pob aelod staff ag urddas a pharch yn ganolog i’n proses recriwtio.
Rydym yn annog pob ymgeisydd i lenwi ein ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal a ddarperir gyda phob pecyn ymgeisio am swydd, i’n cefnogi wrth i ni gyflenwi yn unol â’n Cynllun Cydraddoldeb.
Defnyddiwch y ffurflen ymholiad os oes gennych unrhyw ymholiad ynghylch recriwtio.
Rydym yn gyflogwr 'Disability Confident'
Rydym wedi arwyddo i fod yn gyflogwr 'Disability Confident'.
Golyga hyn ein bod yn gweithio i sicrhau fod gan bobl anabl a’r rheini â chyflyrau iechyd hir dymor y cyfleoedd i gyflawni’u potensial a gwireddi’u huchelgeisiau.
Diogelu’ch gwybodaeth
Mae’r Comisiwn yn gyfrifol am benderfynu sut mae’n dal a defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch chi. Rydym yn cydymffurfio ag egwyddor a chyfraith diogelu data.
Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Sep 2023