Canllaw newydd ar aflonyddu rhywiol ac aflonyddu yn y gweithle
Mae gan bob cyflogwr ddyletswydd gofal i ddiogelu’u gweithwyr a byddant yn gyfrifol dros aflonyddu rhywiol yn y gweithle os nad ydynt wedi cymryd camau rhesymol i’w atal. Cyniga ein canllaw eglurhad cyfreithiol ac enghreifftiau gwirioneddol ar sut i daclo ac ymateb yn effeithiol i aflonyddu.
Darllen y canllaw: Aflonyddu rhywiol ac aflonyddu yn y gwaith
Darllen ein canllaw 7 cam i gyflogwyr: Atal aflonyddu rhywiol yn y gwaith: canllaw i gyflogwyr
Gwyliwch ein fideo byr sydd yn amlygu sut i atal aflonyddu drwy gymryd 4 cam:
Fe ddigwydd aflonyddu rhywiol pan fo unigolyn yn ymwneud ag ymddygiad o natur rywiol sydd heb ei ddymuno. Mae ganddo’r pwrpas neu effaith o:
- dreisio urddas rhywun
- creu amgylchedd arswydus, gelyniaethus, diraddiol, gwaradwyddus neu ymosodol i’r unigolyn dan sylw
Gall ‘o natur rywiol’ gynnwys ymddygiad llafar, heb fod yn llafar neu ymddygiad corfforol, gan gynnwys cais heb ei ddymuno i ddenu rhywun yn rhywiol, cyffwrdd â rhywun yn amhriodol, ffurfiau o ymosodiadau rhywiol, cellwair rhywiol, arddangos ffotograffau neu luniau pornograffig, neu anfon e-byst gyda deunydd o natur rywiol. Am fwy o wybodaeth ar aflonyddu a’r hyn a olyga, gweler ein tudalen ar wahaniaethu ar sail rhyw.
Dioddef aflonyddu rhywiol yw un o’r sefyllfaoedd mwyaf anodd a wyneba person yn y gweithle. Nid oes un gweithle sydd yn ddiogel rhag aflonyddu rhywiol ac nid yw diffyg achosion sydd wedi’u hadrodd amdanynt yn angenrheidiol yn meddwl nad ydynt wedi digwydd. Mae tystiolaethau uchel eu proffil yn ddiweddar a rhannu profiadau ar y cyfryngau cymdeithasol wedi amlygu aflonyddu rhywiol mewn ystod o weithleoedd, a’r rhwystrau gwirioneddol y mae llawer yn eu dioddef wrth adrodd amdanynt.
Mae cyflogwyr yn gyfrifol dros sicrhau nad yw gweithwyr yn wynebu aflonyddu yn eu gweithle. Mae rhwymedigaeth ganddynt i gymryd camau rhesymol i ddiogelu’u gweithwyr a byddant yn atebol os byddant yn methu gwneud felly.
Ein gwaith hyd yn hyn
Ym mis Ionawr y 2020 ysgrifennom at gyflogwyr mawr (PDF) ledled Prydain i ofyn iddyn nhw gymryd camau ataliol i ddiogelu’u cyflogeion rhag aflonyddu, yn dilyn y cyngor ymarferol a gafodd ei amlinellu yn ein canllaw. Mae hyn yn dilyn adborth gan oddeutu 1,000 o unigolion a chyflogwyr rhwng mis Rhagfyr 2017 a Chwefror 2018 a gyhoeddwyd yn ein hadroddiad Trowch y byrddau.
Cymorth i gyflogwyr
Mae gwefan ACAS yn cynnwys gwybodaeth am drin cwynion aflonyddu rhywiol ac yn cynnwys llinell gynghori os ydych am wybodaeth bellach.
Gallwch hefyd lawr lwytho ein canllaw i atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle: canllaw i gyflogwyr a’n canllaw ar ddefnyddio cytundebau cyfrinachedd mewn achosion gwahaniaethu.
Cymorth i unigolion
Mae nifer o sefydliadau sydd yn cynnig cymorth i bobl sydd efallai wedi dioddef aflonyddu gan gynnwys:
Elusen annibynnol yw Cymorth i Ddioddefwyr sydd yn darparu cymorth cyfrinachol, rhad ac am ddim ac sydd wedi’i deilwra i ddioddefwyr trosedd, waeth a gafodd y drosedd ei hadrodd amdani neu beidio neu ba mor hir yn ôl y digwyddodd.
Sefydliad ffeministaidd yw Rape Crisis England & Wales sydd yn hybu anghenion a hawliau menywod a merched sydd wedi dioddef trais rhywiol, i wella gwasanaethau iddynt ac i weithio tuag at ddileu trais rhywiol.
Cewch fanylion y llinell gynghori a’ch gwasanaeth agosaf ar wefan Rape Crisis.
Elusen yw’r Samariaid sydd yn gallu darparu cymorth emosiynol i weithwyr sydd yn ei chael yn anodd ymgodymu ac angen rhywun i wrando arnynt.
Ffoniwch 999 os ydych chi neu rywun arall mewn perygl enbyd neu os oes trosedd yn digwydd. Ffoniwch 101 i gysylltu â’r heddlu os nad yw’r drosedd yn un argyfwng. Ar gyfer yr heddlu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ymwelwch â www.police.uk a’r heddlu yn yr Alban ar www.scotland.police.uk.
Os ydych o’r farn eich bod efaillai wedi’ch trin yn annheg ac eisiau cyngor pellach, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.
Sefydliad tegwch yw Rights of Women sydd yn gweithio i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb y mae menywod yn ei wynebu mewn cymdeithas. Maen nhw’n darparu Gwasanaeth Cynghori Cyfreithiol Rhad ac am Ddim ar Aflonyddu Rhywiol yn y Gwaith yng Nghymru a Lloegr, gwasanaeth arbenigol a diduedd a gynlluniwyd ar gyfer menywod yn y sefyllfa hon.
Prosiect unigryw ac ar y cyd yw Canolfan Hawliau Menywod yn yr Alban sydd yn darparu gwybodaeth, cyngor a chynrychiolaeth rhad ac am ddim i fenywod sydd wedi dioddef trais a chamdriniaeth. Maen nhw’n darparu Gwasanaeth Cyfreithiol ar Aflonyddu Rhywiol sydd yn darparu gwybodaeth, cyngor a chynrychiolaeth i fenywod sydd wedi dioddef neu ddod ar draws aflonyddu rhywiol yn y gweithle, ar-lein ac ym myd addysg bellach.
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Jan 2020