Yn 2013 gwnaethom gomisiynu NatCen i ymgymryd â gwerthusiad annibynnol o’r Ddyletswydd yng Nghymru. Ein nod oedd casglu a dadansoddi data er mwyn llunio adroddiad ar sut mae awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru yn cyflawni eu dyletswyddau penodol a chyffredinol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r casgliadau ac yn archwilio effaith y Ddyletswydd. Mae wedi ein caniatáu i fesur cynnydd a chael braslun o sut mae’r Ddyletswydd yn gweithredu fel catalydd er newid.
Mae amrywiaeth o sefydliadau ar draws Cymru, sefydliadau datganoledig a’r rhai sydd heb eu datganoli, wedi cymryd rhan yn yr ymchwil ac mae hyn wedi cynorthwyo i ddangos sut mae’r Ddyletswydd yn gweithio’n effeithiol yng Nghymru. Caiff heriau ac atebion eu nodi yn yr adroddiad yn ogystal ag astudiaethau achos o ble mae’r Ddyletswydd wedi gwella deilliannau i ddefnyddwyr gwasanaeth a staff. Gall awdurdodau cyhoeddus ddefnyddio ac addasu’r astudiaethau achos hyn.
Cynnwys cysylltiedig
Adolygiad o Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus: Adroddiad Llawn
Adolygiad o Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus: Crynodeb Gweithredol
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Feb 2019