Eich hawliau i dai hygyrch a chymwysadwy
Rydym wedi llunio canllawiau i bobl anabl yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, a’r sefydliadau sydd yn eu cefnogi.
Amlinella’r canllawiau hyn eich hawliau a chyfrifoldebau, gwybodaeth ac awgrymiadau ar:
- rentu gan landlord preifat neu asiantaeth gosod eiddo
- addasu’ch cartref
- ble i gael help
Eich hawliau i dai hygyrch a chymwysadwy yng Nghymru
Canllawiau hawdd eu darllen
Rydym hefyd wedi llunio rhai canllawiau hawdd eu darllen gyda gwybodaeth i bobl anabl. Gwneir canllawiau hawdd eu darllen yn haws i’w darllen.
Gwneud newidiadau i’ch cartref oherwydd eich anabledd
I bobl anabl mae’r wybodaeth hon. Mae’n ymwneud â gwneud newidiadau i’ch cartref os oes eu hangen arnoch oherwydd anabledd. Addasu eich cartref yw gwneud newidiadau i’ch cartref.
Eich hawliau pan fyddwch yn rhentu gan landlord preifat: gwybodaeth i bobl anabl
Mae’r canllaw hwn yn ymwneud â’ch hawliau pan fyddwch yn rhentu tŷ gan landlord preifat. Pan fyddwch yn rhentu tŷ gan y person sydd biau’r tŷ.
Tai cymdeithasol a’ch hawliau: gwybodaeth i bobl anabl
Mae’r canllaw hwn yn ymwneud â rhentu tai cymdeithasol yn ogystal â’ch hawliau. Tai cymdeithasol yw tai sy’n cael eu rhedeg gan gynghorau a chymdeithasau tai.
Canllaw i awdurdodau lleol
Os ydych yn awdurdod lleol yng Nghymru neu Loegr neu aelod etholedig yn yr Alban, gweler ein pecynnau cymorth:
Tai a phobl anabl: beth ddylai awdurdodau lleol ei wneud?
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Feb 2020