Beth yw eich cyfrifoldebau?
Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr ac aelodau etholedig yn yr Alban i ddiogelu a hybu hawliau pobl anabl o dan Confensiwn y CU ar Hawliau Personau ag Anableddau (CRPD).
O dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus rhaid iddynt hefyd roi sylw dyledus ar:
- ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon
- cyflymu cyfle cyfartal
- meithrin perthynas dda
Golyga ‘rhoi sylw dyledus’ wneud eich hun yn gwbl ymwybodol o – a deall – yr hyn sydd ei angen, a rhoi’r wybodaeth honno ar waith pan fo’n berthnasol.
Pecynnau cymorth i awdurdodau lleol
Rydym wedi llunio canllaw ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr ac i aelodau etholedig yn yr Alban, yn enwedig y rheini sy’n ymwneud â thai a chynllunio.
Bwriad y pecynnau cymorth yw eu cefnogi i:
- ystyried tai ar gyfer pobl anabl o ran eu strategaethau a’u cynlluniau
- cynnwys pobl anabl mewn ffordd ystyrlon
- helpu gyda chraffu arferion a pholisïau tai awdurdodau lleol
Tai a phobl anabl: pecyn cymorth i awdurdodau lleol yng Nghymru
Tai a phobl anabl: pecyn cymorth i awdurdodau lleol yn Lloegr
Tai a phobl anabl: pecyn cymorth i aelodau etholedig yn yr Alban
Sut y gallwn gynnwys pobl anabl yn ein gwaith cynllunio?
Rydym wedi llunio rhai rhestri gwirio cynllunio digwyddiadau, pethau i’w hystyried wrth gynllunio digwyddiad ymgysylltu â phobl anabl.
Canllaw i unigolion a sefydliadau cymorth
Os ydych yn berson anabl, os ydych yn cefnogi person anabl neu’n perthyn i sefydliad sy’n cefnogi pobl anabl, gweler ein canllaw:
Diweddarwyd ddiwethaf: 01 Feb 2019