Sut i adrodd ar gwestiynau ynghylch eich iechyd neu anabledd cyn y cynigir swydd i chi

Cyngor a Chanllawiau

I bwy mae'r dudalen hon?

  • People applying for jobs
  • Employees

Y gwledydd y mae'n berthnasol iddynt?

    • Prydain Fawr flag icon

      Prydain Fawr

Ni chaniateir i gyflogwyr, fel arfer, ofyn cwestiynau ynghylch eich iechyd neu anabledd cyn y cynigir swydd i chi. Gelwir y rhain yn aml yn ‘gwestiynau iechyd cyn cyflogaeth’. Os gofynnir y math hwn o gwestiwn i chi, gallwch sôn amdano wrthym.

Beth yw cwestiynau iechyd cyn cyflogaeth?

Mae Adran 60 Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn gyffredinol yn anghyfreithlon i rywun ofyn cwestiynau i chi ynghylch eich iechyd neu anabledd cyn y cynigir swydd i chi (ar sail amodol neu ddiamod) neu cyn i chi gael eich gosod mewn cronfa o ymgeiswyr llwyddiannus i dderbyn cynnig o swydd pan ddaw un i law.

Atal gwybodaeth am eich anabledd neu iechyd rhag cael ei defnyddio i wrthod eich cais am swydd yw’r rheswm amdano, heb i chi yn gyntaf, cael y cyfle i ddangos bod y sgiliau gennych i wneud y swydd.  

Mae rhai eithriadau i’r rheol hon. Dylech gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) ar gyfer gwybodaeth a chyngor ar bryd nad yw’r rheol yn berthnasol.

Sut ddylwn i adrodd amdano?

Os gofynnwyd cwestiwn i chi ynghylch eich iechyd neu anabledd wrth i chi wneud cais am swydd mae diddordeb gennym i glywed amdano.  

Efallai, gwnawn drafod y mater yn gyffredinol gyda’r cyflogwr, ond ni wnawn roi unrhyw fanylion iddynt amdanoch chi.

Ni allwn eich cynghori ar unrhyw hawliad unigol y gallech chi ddymuno dwyn yn erbyn y cyflogwr. Dylech gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) yn uniongyrchol os oes angen cyngor neu gymorth pellach arnoch.

Wnewch chi lenwi’r ffurflen os ydych yn adrodd am gwestiwn neu arolwg iechyd cyn cyflogaeth. Os oes copi o’r ffurflen gais gennych yn cynnwys y cwestiynau iechyd, gallwch ei lwytho neu’i dorri a’i bastio i’r ffurflen.

Mae hyn yn gymwys i geisiadau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn unig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Nov 2019

Further information

If you think you might have been treated unfairly and want further advice, you can contact the Equality Advisory and Support Service.

Phone: 0808 800 0082
Textphone: 0808 800 0084

You can email using the contact form on the EASS website.

Also available through the website are BSL interpretation, web chat services and a contact us form.

Post:
FREEPOST
EASS HELPLINE
FPN6521

Opening hours:

9am to 7pm Monday to Friday
10am to 2pm Saturday
closed on Sundays and Bank Holidays

Alternatively, you can visit our advice and guidance page.