Beth yw trosedd casineb?
Troseddau casineb yw unrhyw droseddau a dargedir at berson oherwydd gelyniaeth neu ragfarn tuag at anabledd y person hwnnw neu’i ethnigrwydd, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth draws.
Gellir ei wneud yn erbyn person neu eiddo.
Nid oes rhaid i’r dioddefwr fod yn aelod o’r grŵp y cafodd yr elyniaeth ei thargedu ato. Mewn gwirionedd, gallai unrhyw un fod yn ddioddefwr o drosedd casineb.
Rydym wedi cynhyrchu’r ffilm fer hon gydag artist y gair llafar, George the Poet, lle mae’n archwilio elfennau gwahanol trosedd casineb a pham ei bod mor bwysig i ni oll i ddod ynghyd i herio anoddefgarwch ac adrodd am achosion o drosedd casineb.
Pam ddylwn i sôn am drosedd casineb?
Gall troseddau casineb ac achosion casineb frifo pobl a’u gadael yn ddryslyd ac mewn dychryn. Drwy adrodd am droseddau casineb gallai person atal yr achosion hyn rhag digwydd i rywun arall. Bydd hefyd yn helpu’r heddlu i ddeall maint y drosedd casineb yn eich ardal leol fel y gallan nhw ymateb iddo’n well.
Sut alla i adrodd am drosedd casineb?
Gallwch adrodd am drosedd casineb ar-lein drwy True Vision yn report-it.org.uk
Yn yr Alban, gallwch ddefnyddio ffurflen adrodd ar-lein Heddlu’r Alban.
Mae canolfannau adrodd trydydd parti eraill yn cynnwys:
Gweithio yn y Deyrnas Unedig
Yn dilyn y twf yn nhroseddau casineb ar sail hil a fu ar ôl refferendwm yr UE darparom ganllaw ar yr hyn i’w wneud os ydych yn gofidio am hiliaeth, a sut i adrodd amdano.
Mae ein hymgyrch ar y cyd, a gefnogir gan sefydliadau yn cynnwys y TUC, FSB a CBI, yn darparu cyngor ar hawliau cyflogeion yn y gwaith a thu allan iddo ac mae’n rhoi gwybodaeth bwysig am le gall pobl fynd i gael help, gan gynnwys sut i adrodd am achosion o gasineb hiliol. Ysgrifennodd Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, David Isaac, wrth gyflogwyr (PDF) i lansio’r canllaw.
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Jun 2017