Yr hyn y mae’r Ddeddf yn ei ddweud am wahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol
Dywed Deddf Cydraddoldeb 2010 fod rhaid i chi beidio â chael eich gwahaniaethu’n eich erbyn oherwydd
- eich bod yn heterorywiol, hoyw, lesbiaidd neu ddeurywiol.
- bod rhywun yn meddwl bod cyfeiriadedd rhywiol penodol gennych. Gwahaniaethu drwy ganfyddiad yw hyn.
- eich bod yn gysylltiedig â rhywun sydd â chyfeiriadedd rhywiol penodol. Gwahaniaethu drwy gydgysylltiad yw hyn.
Yn y Ddeddf Cydraddoldeb mae cyfeiriadedd rhywiol yn cynnwys sut rydych yn dewis mynegi’ch cyfeiriadedd rhywiol, megis drwy eich diwyg neu’r lleoedd rydych yn ymweld â nhw.
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Oct 2016