Gofynion adrodd bwlch cyflog rhyweddol

Cyngor a Chanllawiau

I bwy mae'r dudalen hon?

  • Private and voluntary sector employers with 250 or more employees
  • Listed public sector employers with 250 or more employees

Y gwledydd y mae'n berthnasol iddynt?

    • Prydain Fawr

      Prydain Fawr

Y gwahaniaeth mewn cyflog ar gyfartaledd rhwng y dynion a’r menywod yn eich gweithlu yw’r bwlch cyflog rhyweddol.

Mae’n wahanol i gyflog cyfartal, sydd yn golygu bod rhaid i chi dalu dynion a menywod yr un cyflog am wneud gwaith tebyg neu gyfwerth.

Os ydych yn gyflogwr gyda 250 neu fwy o gyflogeion, mae rhaid i chi bellach gyhoeddi’ch data bwlch cyflog rhyweddol bob blwyddyn. 

Pryd ddaeth y gofynion i rym?

O ddydd Gwener 31 Mawrth 2017 i gyrff cyhoeddus yn Lloegr gyda 250 neu fwy o gyflogeion.

O ddydd Iau 6 Ebrill 2017 i gyflogwyr preifat a gwirfoddolwyr gyda 250 neu fwy o gyflogeion.

Mae awdurdodau cyhoeddus yn yr Alban ac yng Nghymru eisoes yn ddarostyngedig i reoliadau sydd yn cynnwys adrodd bwlch cyflog rhyweddol. 

Beth sydd angen i gyflogwyr gyfrifo a chyhoeddi?

Mae angen i gyflogwyr gyhoeddi chwe chyfrifiad yn dangos:

  • bwlch cyflog rhyweddol cymedrig o ran tâl yr awr
  • canolrif bwlch cyflog rhyweddol o ran tâl yr awr
  • bwlch cyflog rhyweddol bonws cymedrig
  • canolrif bwlch cyflog rhyweddol bonws
  • cyfran o wrywod a benywod yn cael tâl bonws
  • cyfran o wrywod a benywod ymhob chwartel tâl

Cymedr yw cyfradd tâl yr awr ar gyfartaledd, wedi’i gyfrifo drwy adio’r gyfradd tâl yr awr i gyflogeion ac yna rhannu â nifer y cyflogeion.

Canolrif yw cyfradd ganol tâl yr awr, pan gaiff eich cyfraddau tâl eu trefnu o’r isaf i’r uchaf.

Mae Acas a Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth (GEO) wedi cyhoeddi canllaw ymarferol a defnyddiol ar reoli adrodd cyflog rhyweddol.

Ble rwy’n cyhoeddi fy nata bwlch cyflog rhyweddol?

Dylech ei gyhoeddi ar eich gwefan eich hun a thrwy gwefan adrodd bwlch cyflog rhyweddol y Llywodraeth. 

Pryd mae rhaid i mi gyhoeddi’r data?

Yn ôl y gyfraith, rhaid i chi gyhoeddi eich data bwlch cyflog rhyweddol bob blwyddyn cyn pen 12 mis o’r dyddiad cipolwg perthnasol.

I awdurdodau cyhoeddus a gwmpasir o dan Reoliadau 2017 (Dyletswyddau Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus) Deddf Cydraddoldeb 2010: cyn pen 12 mis o 31 Mawrth.

I bob cyflogwr sector preifat, gwirfoddol a chyhoeddus perthnasol a gwmpasir o dan Reoliadau Rheoli Adrodd Cyflog Rhyweddol 2017 (Gwybodaeth Bwlch Cyflog Rhyweddol) Deddf Cydraddoldeb 2010 : cyn pen 12 mis o 5 Ebrill.

Pam mae rhaid i fi adrodd ar fylchau cyflog rhyweddol?

Mae adrodd ar fylchau cyflog yn helpu sefydliadau i ddeall maint ac achosion eu bylchau cyflog a nodi unrhyw broblemau sydd angen mynd i’r adael â nhw.

Nid yw bod â bwlch cyflog rhyweddol o anghenraid yn golygu bod gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd. Bydd cyhoeddi a monitro bylchau cyflog yn helpu cyflogwyr i ddeall y rhesymau dros unrhyw fwlch ac ystyried a oes angen iddyn nhw lunio cynlluniau gweithredu i daclo’r achosion. Er enghraifft, os yw menywod yn bennaf ar lefelau cyflog isel yn y sefydliad, gallai’r cyflogwr ddymuno i ddatblygu rhaglen gweithredu bositif i annog a chefnogi menywod i ymgeisio am uwch rolau. 

Bydd parhau i gyhoeddi a monitro’r bwlch cyflog rhyweddol, yn unol â’r rheoliadau, yn helpu cyflogwyr i fonitro pa mor effeithiol oedd eu camau wrth ei leihau. 

Beth fydd yn digwydd os na wnaf gyhoeddi fy adroddiad bwlch cyflog rhyweddol?

Yn ôl y gyfraith, rhaid i chi gyhoeddi eich data bwlch cyflog rhyweddol bob blwyddyn. Bydd angen i chi wneud hyn cyn pen 12 mis o’r dyddiad cipolwg perthnasol.

Mae adrodd ar fylchau cyflog yn helpu sefydliadau i ddeall maint ac achosion eu bylchau cyflog a nodi unrhyw broblemau sydd angen mynd i’r adael â nhw. Nid yw bod â bwlch cyflog rhyweddol o anghenraid yn golygu bod gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd. Bydd cyhoeddi a monitro bylchau cyflog yn helpu cyflogwyr i ddeall y rhesymau dros unrhyw fwlch ac ystyried a oes angen iddyn nhw lunio cynlluniau gweithredu i daclo’r achosion. Er enghraifft, os yw menywod yn bennaf ar lefelau cyflog isel yn y sefydliad, gallai’r cyflogwr ddymuno i ddatblygu rhaglen gweithredu bositif i annog a chefnogi menywod i ymgeisio am uwch rolau. Rydym yn cyhoeddi ymchwil newydd ar fylchau cyflog ar sail rhywedd, ethnigrwydd ac anabledd law yn llaw â strategaeth ar gyfer taclo achosion bylchau cyflog sydd yn nodi camau ar gyfer llywodraeth, asiantaethau a chyflogwyr. Gobeithio bydd cyflogwyr yn eu cael yn ddefnyddiol wrth ddeall achosion posibl eu bylchau cyflog a’r hyn sydd angen iddyn nhw ei wneud i fynd i’r afael â nhw.

Bydd parhau i gyhoeddi a monitro’r bwlch cyflog rhyweddol yn unol â’r rheoliadau yn helpu cyflogwyr i fonitro effeithiolrwydd eu camau i leihau’r bwlch dros amser.

Lle cawn dystiolaeth na fo cwmnïau yn cyhoeddi eu data bwlch cyflog rhyweddol yn ôl y gofyn, gwnawn gymryd camau i fynd i’r afael ag ef.

Sut mae’r Comisiwn yn monitro’r bwlch cyflog rhyweddol?

Canfu ein hymchwil fod bylchau cyflog sylweddol o hyd ledled Prydain. Yn 2016, 18.1% oedd y bwlch cyflog rhyweddol.

Byddwn, eleni, yn cyhoeddi adroddiad a fydd yn helpu cyflogwyr i edrych ar achosion posibl  eu bwlch cyflog ac awgrymu camau y gallan nhw eu cymryd i’w leihau. Byddwn hefyd yn gwneud argymhellion i lywodraeth i helpu cau’r bwlch cyflog rhyweddol ar draws Prydain. 

Gwybodaeth bellach

Darllen canllaw Acas a’r GEO ar reoli adrodd ar gyflog rhyweddol.

Ymweld â gwefan y llywodraeth ar adrodd ar fwlch cyflog rhyweddol.

Os ydych yn rhan o anghydfod cyflogaeth neu’n ceisio gwybodaeth ar reolau a hawliau cyflogaeth, gallwch ymweld â gwefan Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) neu ffonio am gyngor.

Rhadffôn: 0300 123 1100 (8am i 8pm ddydd Llun i ddydd Gwener a 9am i 1pm ar ddydd Sadwrn)

Gwasanaeth cyfnewid testun: 18001 0300 123 1100.

Diweddarwyd ddiwethaf: 09 May 2018