Gyda gostyngiadau mawr mewn gwariant cyhoeddus, bydd rhaid i sefydliadau’r sector cyhoeddus wneud penderfyniadau ariannol anodd.
Mae gan eich awdurdod ddyletswyddau cyfreithiol ynghylch dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin perthynas dda ar sail nodweddion gwarchodedig megis, rhywedd, hil, anabledd neu oed. Nid yw’r dyletswyddau hyn yn eich atal rhag lleihau gwasanaethau pan fo rhaid, ond maen nhw’n cynnig ffordd o ddatblygu cynhigion sy’n ystyried anghenion pawb yn eich cymuned.
Mae’r Comisiwn wedi llunio’r deunyddiau yn yr adran hon i helpu’r sawl sy’n cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus i wneud penderfyniadau sy’n deg i bawb.
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Jan 2017