Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru

Cyngor a Chanllawiau

I bwy mae'r dudalen hon?

  • Public sector

Y gwledydd y mae'n berthnasol iddynt?

    • Cymru flag icon

      Cymru

Rhwymedigaethau adrodd PSED

Mae gofynion y ddyletswydd gyffredinol yn parhau mewn grym ac yn hanfodol wrth sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn ystyried anghenion pobl â nodweddion gwarchodedig wrth iddynt ymateb i goronafeirws. 

  • Ni chaiff y terfyn amser 1 Hydref 2020 ar gyfer cyrff rhestredig i fod wedi cyhoeddi’u cynlluniau cydraddoldeb strategol (SEPs) a nodau cydraddoldeb ei ymestyn yn bellach. Argymhellwn yr adolygir y SEP yng ngolau effaith y pandemig coronafeirws, i sicrhau ffocws parhaus ar yr anghydraddoldebau mwyaf yng Nghymru.
  • Rhaid cyhoeddi adroddiadau blynyddol ar gyfer 2021-2022 erbyn 31 Mawrth 2023.

Mae canllaw cynhwysfawr ar yr hyn y dylid ei gynnwys yn eich SEPs a nodau cydraddoldeb ar dudalen canllaw PSED Cymru.  

Mae’r Comisiwn yn rheoleiddio’r Ddyletswydd, a’n hymagwedd yw gweithio gydag awdurdodau cyhoeddus i ysgogi, rhoi arweiniad, monitro a rheoleiddio gweithgaredd ar ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.

Caiff y Ddyletswydd ei defnyddio i ddylanwadu a chraffu ar y ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn ymddwyn 

  • Mae sefydliadau’r trydydd sector wedi defnyddio’r Ddyletswydd i godi proffil materion penodol ac i dynnu sylw at le gall gostyngiadau cyllidebol gael effaith anghymesur.
  • Caiff y Ddyletswydd ei defnyddio i gynyddu tryloywder ac atebolrwydd. Mae cyhoeddi Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb yn arbennig wedi helpu i ddal awdurdodau cyhoeddus i gyfrif dros eu penderfyniadau.

Ym mis Hydref 2015, ysgrifennodd Kate Bennett, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymru’r Comisiwn, at brif weithredwyr ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i fyfyrio ar bedair blynedd gyntaf Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, ac ar welliannau sydd angen eu gwneud wrth inni fynd rhagddi i’r pedair blynedd nesaf.   

Gall Llywodraeth Cymru hyrwyddo ei rôl arweiniol i sicrhau bod y Ddyletswydd yn cyflenwi deilliannau cryfach

  • Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd benodol i gyhoeddi adroddiad ar sut mae awdurdodau cyhoeddus datganoledig yn cyflawni eu dyletswydd gyffredinol. Mae rhaid i hyn osod golwg gyffredinol ar y cynnydd a wnaed gan awdurdodau cyhoeddus a chynigion i gydlynu gweithgareddau yng Nghymru. Mae’r rhain yn nodau heriol sydd yn arwyddocaol yn mynd y tu hwnt i ddisgrifio mewnbynnau ac enghreifftiau positif.

Byddai datganoli’r Ddyletswydd i Gymru yn diogelu’r ymagwedd wahanol i gydraddoldeb a hawliau dynol a sicrhau ei llwyddiant.

Mae’r trosolwg hwn wedi’i seilio ar yr wybodaeth a gasglwyd gan ein gwaith ymchwil a monitro.

Cynnwys cysylltiedig

Adolygiad o Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru: Adroddiad Llawn 

Adolygiad o Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru: Crynodeb Gweithredol

Y PSED a diogelu data

Adroddiad Monitro ar Awdurdodau Lleol

Adroddiad Monitro ar y Sector Iechyd

Adroddiad Monitro ar Brifysgolion

Adroddiad Monitro ar y Gwasanaeth Tân ac Achub

Gwaith ymchwil a monitro o ran Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus: Enghreifftiau Awdurdodau Cyhoeddus

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Feb 2023

Further information

If you think you might have been treated unfairly and want further advice, you can contact the Equality Advisory and Support Service.

Phone: 0808 800 0082
Textphone: 0808 800 0084

You can email using the contact form on the EASS website.

Also available through the website are BSL interpretation, web chat services and a contact us form.

Post:
FREEPOST
EASS HELPLINE
FPN6521

Opening hours:

9am to 7pm Monday to Friday
10am to 2pm Saturday
closed on Sundays and Bank Holidays

Alternatively, you can visit our advice and guidance page.