Y Ddeddf a'i chodau ymarfer
Yn unol â’n pwerau statudol, rydym wedi llunio Codau Ymarfer ar gyfer Cyflogaeth, Gwasanaethau a Chyflog Cyfartal. Prif bwrpas y Codau Ymarfer yw darparu eglurhad manwl o’r darpariaethau yn y Ddeddf ac i gymhwyso’r cysyniadau cyfreithiol sydd ynddi at sefyllfaoedd bob dydd. Bydd hyn yn gymorth i lysoedd a thribiwnlysoedd wrth ddehongli’r gyfraith a bydd yn cynorthwyo cyfreithwyr, cynghorwyr, cynrychiolyddion undebau llafur, adrannau adnoddau dynol ac eraill wrth weithredu’r gyfraith. Fel gyda’r Ddeddf, mae’r Codau’n gymwys i Gymru, Yr Alban a Lloegr.
Mae’r Codau’n amlinellu’n glir ac yn union yr hyn y mae’r ddeddfwriaeth yn ei golygu. Maent yn dibynnu ar gynsail ac achosion cyfraith ac maent yn egluro goblygiadau pob cymal mewn termau technegol. Y codau statudol hyn yw’r ffynhonnell gyngor awdurdodol i unrhyw un sydd eisiau dadansoddiad trylwyr o fanylion y ddeddfwriaeth. Byddant yn amhrisiadwy yn arbennig i gyfreithwyr, eiriolwyr ac arbenigwyr adnoddau dynol.
Daeth y Codau Ymarfer hyn i rym ar 6 Ebrill 2011.
Gallwch brynu copiau printiedig o’r Codau o wefan y Stationery Office (TSO) neu eu lawr lwytho o'r dolenni isod.
Cod Ymarfer ar Gyflog Cyfartal
- Cod Ymarfer ar Gyflog Cyfartal
- Tudalennau cysylltiedig - Cyflog cyfartal
Cod Ymarfer ar Gyflogaeth
Cod Ymarfer ar Wasanaethau, Swyddogaethau Cyhoeddus a Chymdeithasau
Adroddiad Codau Ymarfer ôl ymgynghori
Mae ein hadroddiad ôl ymgynghori yn amlygu’r pryderon a gododd rhanddeiliaid â ni yn ystod cyfnod ymgynghori Codau Ymarfer y Ddeddf Cydraddoldeb yn 2010. Mae’r adroddiad yn egluro sut yr aethom i’r afael â’r pryderon hyn a sut mae mewnbwn y rhanddeiliaid wedi gwella fersiwn terfynol y Codau hyn yn y pendraw.
Yn SaesnegDiweddarwyd ddiwethaf: 19 Feb 2019