Canllaw craidd: Llywodraeth leol a gwasanaethau canolog

Cyngor a Chanllawiau

I bwy mae'r dudalen hon?

  • Individuals using a service

Y gwledydd y mae'n berthnasol iddynt?

    • Lloegr flag icon

      Lloegr

    • |
    • Yr Alban flag icon

      Yr Alban

    • |
    • Cymru flag icon

      Cymru

Defnyddiwch y rhestr hon i ddweud wrthych sut y gallwch ddisgwyl cael eich trin gan gyngor lleol neu adran o'r llywodraeth neu gyrff cyhoeddus eraill.

Gofalwch eich bod yn deall beth yw ystyr:

  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • beichiogrwydd a mamolaeth (sy’n cynnwys bwydo o’r fron)
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol

Byddwch wedyn yn gwybod sut rydych yn ffitio i bob un o’r nodweddion gwarchodedig hyn.

Gweld rhestr fanwl o'r nodweddion gwarchodedig

Gall gwahaniaethu anghyfreithiol, mewn geiriau eraill, trin rhai pobl yn waeth nac eraill oherwydd nodwedd warchodedig, ddigwydd mewn sawl ffurf:

  • Ni ddylai darparwr gwasanaethau eich trin yn waeth nag unrhyw un arall oherwydd un neu fwy o’ch nodweddion gwarchodedig (gelwir hyn yn wahaniaethu uniongyrchol)

Er enghraifft

Os yw corff cyhoeddus yn gwrthod ymchwilio cwyn unigolyn oherwydd bod ganddynt gyflwr iechyd meddwl.

  • Mae’n rhaid i ddarparwr gwasanaethau beidio gwneud rhywbeth sy’n cael (neu a fyddai’n cael) effaith waeth arnoch chi ac ar bobl eraill sy’n rhannu nodwedd warchodedig neilltuol nac ar bobl sydd heb y nodwedd honno. Oni bai y gall y darparwr gwasanaethau ddangos bod yr hyn y maent wedi’i wneud, wedi’i gyfiawnhau’n wrthrychol, bydd hyn yr hyn a elwir yn wahaniaethu anuniongyrchol. Gall ‘gwneud rhywbeth’ gynnwys gwneud penderfyniad, neu weithredu rheol neu ffordd o wneud pethau.

Er enghraifft:

Mae cyngor lleol yn penderfynu gweithredu rheol ‘dim hetiau na phenwisg arall’ ar gyfer unrhyw un sy’n dod i mewn i’w adeiladau. Os yw’r rheol yn cael ei gweithredu yn union yr un ffordd i bob defnyddiwr gwasanaethau, ni fydd Sikhiaid, Iddewon, Mwslimiaid a Rastaffariaid all orchuddio eu pennau fel rhan o’u crefydd yn cael yr hawl i ddefnyddio adeiladau’r cyngor. Oni bai y gall y cyngor roi cyfiawnhad gwrthrychol dros ddefnyddio’r rheol hon, bydd hyn yn wahaniaethu anuniongyrchol.

  • Os ydych yn unigolyn anabl, mae’n rhaid i ddarparwr gwasanaethau beidio eich trin yn anffafriol oherwydd rhywbeth sy’n gysylltiedig â’ch anabledd ble na allant ddangos bod yr hyn y maent yn ei wneud wedi’i gyfiawnhau’n wrthrychol. Nid yw hyn ond yn berthnasol ond os yw’r sefydliad yn gwybod neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo wybod eich bod yn unigolyn anabl. Gelwir hyn yn wahaniaethu sy’n deillio o anabledd.

Er enghraifft:

Mae unigolyn anabl â Syndrom Tourette yn cael ei eithrio o gyfarfod cyhoeddus oherwydd bod y trefnydd yn credu fod gwingiad lleisiol unigolyn yn tynnu sylw’r gynulleidfa. Mae’r unigolyn yn cael ei drin yn anffafriol oherwydd ei wingiad lleisiol, sy’n rhywbeth sy’n codi o’i anabledd. Oni bai y gall y darparwr gwasanaeth sy’n cynnal y cyfarfod ddangos fod cyfiawnhad gwrthrychol i’r penderfyniad i eithrio’r unigolyn, bydd hyn yn wahaniaethu yn deillio o anabledd.

  • Mae’n rhaid i ddarparwr gwasanaethau beidio eich trin yn waeth na rhywun arall oherwydd eich bod yn gysylltiedig ag unigolyn sydd â nodwedd warchodedig.

Er enghraifft:

Nid yw aelod o’r staff sy’n gweithio i gorff cyhoeddus yn cymeradwyo perthnasoedd rhwng pobl o grefyddau neu gredoau gwahanol. Maen nhw’n rhoi gwasanaeth gwael i Gristion maen nhw’n darganfod sy’n briod â Mwslim. Mae hyn yn debyg o fod yn wahaniaethu uniongyrchol oherwydd crefydd neu gred, yn seiliedig ar gysylltiad y Cristion gyda’u cymar Mwslimaidd.

  • Mae’n rhaid i ddarparwr gwasanaethau beidio eich trin yn waeth oherwydd eu bod yn credu’n anghywir fod gennych nodwedd warchodedig (canfyddiad).

Er enghraifft:

Mae aelod o staff yn credu’n anghywir fod dyn yn hoyw. Oherwydd hyn maen nhw’n dweud wrtho nad yw gwasanaeth ar gael iddo. Mae’n debyg fod y dyn wedi dioddef gwahaniaethu anghyfreithiol oherwydd cyfeiriadedd rhywiol, er nad yw’n hoyw.

  • Mae’n rhaid i ddarparwr gwasanaethau beidio eich trin yn wael na’ch erlid oherwydd eich bod wedi cwyno am wahaniaethu neu wedi helpu rhywun arall i gwyno neu wedi gwneud unrhyw beth i gynnal eich hawliau cyfraith cydraddoldeb eich hun neu hawliau rhywun arall.

Er enghraifft:

Mae unigolyn yn cwyno na ymgynghorwyd yn iawn ag ef am ddatblygiad adeiladu newydd a bod hyn oherwydd ei hil. Pe bai’r cyngor wedyn yn tynnu unrhyw wasanaeth oddi arno neu’n ei drin yn waeth nac unrhyw ddefnyddiwr gwasanaethau arall, byddai hyn bron yn sicr o fod yn erledigaeth.

  • Mae’n rhaid i ddarparwr gwasanaethau beidio eich aflonyddu.

Er enghraifft:

Mae aelod o staff cynnal darparwr gwasanaethau yn cam-drin defnyddiwr gwasanaethau yn eiriol o ran nodwedd warchodedig.

Sylwer: Hyd yn oed pan nad yw’r ymddygiad yn dod o fewn diffiniad cyfraith cydraddoldeb o aflonyddu (er enghraifft, oherwydd ei fod yn gysylltiedig â chrefydd neu gred neu gyfeiriadedd rhywiol), mae’n dal yn debyg y bydd yn wahaniaethu uniongyrchol anghyfreithiol oherwydd bod y darparwr gwasanaethau yn rhoi’r gwasanaeth ichi ar delerau gwaeth nac y byddai’n ei roi i rywun heb yr un nodwedd warchodedig.

Ar ben hynny, os ydych yn unigolyn anabl, i sicrhau y gallwch ddefnyddio’r gwasanaethau cyhoeddus mor bell ag sy’n rhesymol i’r un safon â phobl nad ydynt yn anabl, mae’n rhaid i ddarparwr gwasanaethau wneud addasiadau rhesymol.

Nid yw’r darparwr gwasanaethau yn cael hawl i aros nes eich bod chi neu unigolyn anabl arall eisiau defnyddio ei wasanaethau, ond mae’n rhaid iddo feddwl ymlaen llaw am yr hyn allai pobl ag ystod o anhwylderau fod yn rhesymol ei angen, fel pobl ag anhwylder gweld, anhwylder symud neu anabledd dysgu.

Er enghraifft:

Mae swyddfa treth cyngor yn danfon holiaduron at bobl sy’n hawlio budd-daliadau treth cyngor ynghyd â’r ffurflenni cais yn gofyn a oes ganddynt unrhyw anghenion yn gysylltiedig ag anabledd y maen nhw eisiau rhoi gwybod i’r swyddfa ac a all y swyddfa gymryd unrhyw gamau i gynorthwyo gyda’u hawliadau. Mae hyn yn dangos fod y swyddfa yn ystyried yr angen i wneud addasiadau rhesymol, sy’n enghraifft o’r ffordd iawn o weithredu.

Gallwch ddarllen fwy am addasiadau rhesymol i ddileu rhwystrau i bobl anabl

herwydd nodwedd warchodedig, ni ddylai darparwr gwasanaethau:

  • Wrthod rhoi gwasanaeth ichi na gwrthod eich derbyn yn ddefnyddiwr gwasanaethau.

Er enghraifft:

Mae awdurdod lleol yn gwrthod symud cerbyd sydd wedi’i adael y tu allan i gartref unigolyn oherwydd bod ganddynt nodwedd warchodedig, ond byddant fel arall wedi symud y cerbyd.

Mae’n rhaid iddynt beidio rhoi’r gorau i roi gwasanaeth ichi neu weithio ichi os ydynt yn dal i roi gwasanaeth neu weithio i ddefnyddwyr gwasanaethau eraill nad oes ganddynt yr un nodwedd warchodedig.

Er enghraifft:

Mae awdurdod lleol yn rhoi’r gorau i gasglu gwastraff gardd o gartref unigolyn oherwydd bod ganddynt nodwedd warchodedig benodol, ond mae’n dal i gasglu gwastraff gardd oddi wrth drigolion nad oes ganddynt y nodwedd warchodedig honno.

Mae’n rhaid iddynt beidio rhoi ichi wasanaeth is ei ansawdd neu mewn ffordd waeth nac y byddent yn darparu’r gwasanaeth fel arfer.

Er enghraifft:

Mae awdurdod lleol yn cymryd dwywaith yr amser i benderfynu a yw’n mynd i roi caniatâd cynllunio i unigolyn oherwydd bod ganddynt nodwedd warchodedig benodol o’i gymharu â’r amser a gymer gyda thrigolion eraill.

Mae’n rhaid iddynt beidio rhoi amodau gwasanaeth gwaeth ichi nac y byddent yn eu cynnig fel arfer.

Er enghraifft:

Mae llyfrgell yn codi dirwyon uwch ar ddefnyddwyr a chanddynt rai nodweddion gwarchodedig nac y byddai ar ddefnyddwyr heb y nodweddion hynny.

Mae’n rhaid iddynt beidio eich rhoi o dan unrhyw anfantais arall.

Er enghraifft:

Mae derbynnydd yn neuadd y dref yn ddigymwynas pan ofynnir iddi am wybodaeth am randiroedd gardd gan unigolyn lleol oherwydd bod ganddo nodwedd warchodedig benodol. Mae’r derbynnydd yn barod iawn ei chymwynas i holwyr eraill nad oes ganddynt y nodwedd warchodedig honno.

Mae’n dal yn bosib i ddarparwr gwasanaethau ddweud wrthych pa safonau ymddygiad maen nhw’n eu disgwyl gennych fel defnyddiwr gwasanaethau. Er enghraifft, dangos parch i’w staff ac i ddefnyddwyr gwasanaethau eraill.

Weithiau, efallai y bydd cysylltiad rhwng y ffordd y mae rhywun yn ymddwyn â nodwedd warchodedig.

Os yw darparwr gwasanaethau yn gosod safonau ymddygiad ar gyfer eu defnyddwyr gwasanaethau sy’n cael effaith waeth ar bobl a chanddynt nodwedd warchodedig benodol nac ar bobl nad yw’r nodwedd honno ganddynt, mae angen iddynt ofalu y gallant gyfiawnhau’r hyn a wnaethant yn wrthrychol. Fel arall, bydd yn wahaniaethu anuniongyrchol.

Os ydynt yn gosod safonau ymddygiad, mae’n rhaid iddynt wneud addasiadau rhesymol i’r safonau ar gyfer pobl anabl ac osgoi gwahaniaethu yn deillio o anabledd.

Cofiwch y gall darparwr gwasanaethau wrthod gwasanaeth ichi oherwydd eu barn am eich anghenion fel defnyddiwr gwasanaethau. Gallant hefyd roi gwasanaeth ichi sy’n wahanol i’r un a ddarparant i bobl eraill.

Y cwestiwn pwysig yw a yw’r hyn a wnaeth y darparwr gwasanaethau yn wahanol oherwydd asesiad o’ch anghenion fel defnyddiwr gwasanaethau. Neu a yw’n dod o fewn y diffiniad o wahaniaethu anghyfreithiol a esbonnir ynghynt yn y canllaw hwn.

Mae’n debygol y bydd y rheswm pam y gweithredodd y darparwr gwasanaethau fel y gwnaeth yn bwysig.

  • A wnaethant rywbeth oherwydd nodwedd warchodedig sy’n:
    • perthyn ichi
    • perthyn i rywun y mae gennych gysylltiad â nhw, neu’n
    • nodwedd warchodedig yr oeddent yn credu’n anghywir oedd gennych chi?
  • Neu a gafodd yr hyn a wnaethant effaith waeth arnoch chi a phobl eraill a chanddynt yr un nodwedd warchodedig? Os felly, gallai eu rheswm eich helpu i benderfynu a oes cyfiawnhad gwrthrychol i’r hyn a wnaethant.
  • Neu, os ydych yn unigolyn anabl, a gawsoch eich trin yn wael oherwydd rhywbeth sy’n gysylltiedig â (neu fel y dywed y gyfraith, yn codi o’ch) anabledd? Neu a yw’r darparwr gwasanaethau wedi methu gwneud addasiadau rhesymol?
  • Neu a yw’r hyn a wnaethant yn cyfrif yn driniaeth fwy ffafriol i bobl anabl (nad yw’n wahaniaethu anghyfreithiol yn eich erbyn os ydych yn unigolyn nad yw’n anabl), neu’n weithredu cadarnhaol, neu a yw’n dod o fewn unrhyw un o’r eithriadau a esbonnir yn ddiweddarach yn y canllaw hwn?
  • Os ydych yn credu fod yr hyn a wnaethant yn aflonyddu, a yw’n gysylltiedig â nodwedd warchodedig?

Os ydych yn credu y cawsoch eich erlid, beth wnaethoch chi i gynnal eich hawliau cyfraith cydraddoldeb eich hunan neu hawliau rhywun arall sydd wedi arwain yn awr at gael eich trin yn waeth?

Os ydych eisiau cymorth yn ceisio gweld a yw’r darparwr gwasanaethau yn gweithredu o fewn cyfraith cydraddoldeb, neu i gwyno am yr hyn a wnaethant, gallwch ddarllen mwy am sut i wneud hyn. Beth i wneud os ydych o'r farn eich bod wedi dioddef gwahaniaethu.

Arfer da cydraddoldeb: beth i chwilio amdano os yw darparwr gwasanaethau yn gwneud mwy nac y mae cyfraith gydraddoldeb yn ei ddweud y mae’n rhaid iddynt wneud

Mae’r canllaw hwn yn rhoi gwybod ichi beth mae’n rhaid i ddarparwr gwasanaethau ei wneud a pheidio’i wneud i osgoi gwahaniaethu anghyfreithiol.

Os ydych eisiau bod yn sicr bod darparwr gwasanaethau yn cymryd cydraddoldeb o ddifrif, holwch a yw’n:

  • defnyddio polisi cydraddoldeb i’w helpu i wirio a yw wedi meddwl am gydraddoldeb yn y ffordd y mae’n cynllunio’r hyn mae’n ei wneud a sut mae’n ei wneud
  • rhoi hyfforddiant cydraddoldeb i bawb sy’n delio â defnyddwyr gwasanaethau neu sy’n gwneud penderfyniadau am y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu i sicrhau eu bod yn gwybod beth mae cyfraith cydraddoldeb yn ei olygu iddyn nhw.

Diweddarwyd ddiwethaf: 02 Mar 2020

Further information

If you think you might have been treated unfairly and want further advice, you can contact the Equality Advisory and Support Service.

Phone: 0808 800 0082
Textphone: 0808 800 0084

You can email using the contact form on the EASS website.

Also available through the website are BSL interpretation, web chat services and a contact us form.

Post:
FREEPOST
EASS HELPLINE
FPN6521

Opening hours:

9am to 7pm Monday to Friday
10am to 2pm Saturday
closed on Sundays and Bank Holidays

Alternatively, you can visit our advice and guidance page.