Coronafeirws: rhwymedigaethau adrodd y PSED
Oherwydd y pandemig Covid-19, rydym wedi adolygu rhwymedigaethau adrodd dyletswydd benodol y PSED.
Mae gofynion y ddyletswydd gyffredinol yn parhau mewn grym ac yn hanfodol wrth sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn ystyried anghenion pobl â nodweddion gwarchodedig wrth iddynt ymateb i’r pandemig.
Eleni, ar gyfer awdurdodau cyhoeddus yn Lloegr, fe wnaethom ohirio ein gweithgaredd cydymffurfio arfaethedig ar ddyletswydd benodol y bwlch cyflog rhwng y rhywiau tan 5 Hydref 2021.
Fodd bynnag, dylai pob awdurdod cyhoeddus gyhoeddi’u gwybodaeth cydraddoldeb erbyn 30 Mawrth 2021. Dylent hefyd gyhoeddi nodau cydraddoldeb, a ddylai fod yn benodol, mesuradwy a phrydlon.
Beth yw’r ddyletswydd cydraddoldeb?
Cefndir
Ar 5 Ebrill 2011, daeth dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus (y ddyletswydd cydraddoldeb) i rym. Cafodd y ddyletswydd cydraddoldeb ei chreu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Disodlodd y ddyletswydd cydraddoldeb y dyletswyddau ar hil, anabledd a rhyw. Deilliodd y cyntaf o’r dyletswyddau hyn, y ddyletswydd cydraddoldeb hiliol, yn 2001 yn sgil Adroddiad Macpherson ar lofruddiaeth Stephen Lawrence, bachgen du yn ei arddegau. Yn dilyn diffygion archwiliad llofruddiaeth Lawrence, datgelodd yr adroddiad hiliaeth sefydliadol yng ngwasanaeth Heddlu’r Metropolitan. Yn glir roedd angen ailfeddwl yn radicalaidd o ran yr ymagwedd a gymerai sefydliadau’r sector cyhoeddus at fynd i’r afael â gwahaniaethu a hiliaeth.
Cyn cyflwyno’r ddyletswydd cydraddoldeb hiliol, roedd deddfwriaeth cydraddoldeb yn canolbwyntio ar unioni achosion gwahaniaethu ac aflonyddu wedi iddynt ddigwydd, ac nid eu hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf. Cafodd y ddyletswydd cydraddoldeb hiliol ei chreu i symud y baich oddi ar unigolion at sefydliadau, gan osod am y tro cyntaf rwymedigaeth ar awdurdodau cyhoeddus i hyrwyddo cydraddoldeb mewn modd cadarnhaol, ac nid i osgoi gwahaniaethu yn unig.
Yn dilyn cyflwyniad y ddyletswydd hiliol, roedd yn glir y gellid gwneud cynnydd mewn meysydd cydraddoldeb eraill hefyd drwy gyflwyno dyletswyddau tebyg. Daeth y ddyletswydd anabledd i rym yn 2006, ac yna’r ddyletswydd cydraddoldeb rhyweddol yn 2007.
Y ddyletswydd cydraddoldeb
Cafodd y ddyletswydd cydraddoldeb ei datblygu er mwyn cysoni’r dyletswyddau cydraddoldeb a’i hymestyn ar draws y nodweddion gwarchodedig. Mae’n cynnwys dyletswydd cydraddoldeb gyffredinol, wedi’i hategu gan ddyletswyddau penodol a gaiff eu gosod gan is-ddeddfwriaeth. Yn gryno, mae rhaid i’r rhai sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd cydraddoldeb, wrth arfer eu swyddogaethau, roi sylw dyledus i’r angen i:
- Ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth ac ymddygiadau eraill a waherddir o dan y Ddeddf.
- Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r sawl nad ydyw.
- Meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rheiny nad ydynt.
Cyfeirir at y rhain weithiau fel tri nod neu dair braich y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol. Yn ddefnyddiol mae’r Ddeddf yn egluro bod rhoi sylw dyledus i hyrwyddo cydraddoldeb yn cynnwys:
- Dileu neu leihau’r anfanteision a ddioddefir gan bobl oherwydd eu nodweddion gwarchodedig.
- Cymryd camau i ddiwallu anghenion pobl o grwpiau gwarchodedig lle mae’r rhain yn wahanol i anghenion pobl eraill.
- Annog pobl o grwpiau gwarchodedig i gymryd rhan mewn bywyd cymdeithasol neu mewn gweithgareddau eraill lle mae eu cyfranogaeth yn anghymesur o isel.
Mae’r Ddeddf yn datgan bod diwallu anghenion gwahanol yn cynnwys camau i gymryd cyfrif o anableddau pobl anabl. Mae’n disgrifio meithrin perthynas dda fel taclo rhagfarn a hybu dealltwriaeth rhwng pobl o grwpiau gwahanol. Dywed y gall cydymffurfio â’r ddyletswydd gynnwys trin rhai pobl yn fwy ffafriol nag eraill.
Mae’r ddyletswydd cydraddoldeb yn cwmpasu’r naw nodwedd warchodedig: oed, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Mae angen i awdurdodau cyhoeddus hefyd roi sylw dyledus i’r angen i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon yn erbyn rhywun oherwydd ei statws priodasol neu bartneriaeth sifil. Golyga hyn fod braich gyntaf y ddyletswydd yn gymwys i’r nodwedd hon ond nid yw’r breichiau eraill (hyrwyddo cydraddoldeb a meithrin perthynas dda) yn gymwys.
Pwrpas y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol
Pwrpas eang y ddyletswydd cydraddoldeb yw integreiddio ystyriaeth o gydraddoldeb a pherthynas dda i weithrediadau bob dydd awdurdodau cyhoeddus. Os na fyddwch yn ystyried sut y gall swyddogaeth effeithio ar grwpiau gwahanol mewn ffyrdd gwahanol, bydd yn annhebyg o lwyddo fel y’i bwriadwyd. Gall hyn gyfrannu at anghydraddoldeb fwy a deilliannau sâl.
Mae’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol felly yn gofyn i sefydliadau ystyried sut y gallant gyfranogi’n bositif er hyrwyddo cydraddoldeb a pherthynas dda. Mae’n gofyn i ystyriaethau cydraddoldeb gael eu hadlewyrchu yng nghynlluniau polisïau ac wrth gyflenwi gwasanaethau, gan gynnwys polisïau mewnol, ac i’r rhain gael eu hadolygu’n gyson.
Mae cydymffurfio â’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol yn rhwymedigaeth gyfreithiol, ond mae’n synnwyr busnes da hefyd. Dylai sefydliad sy’n gallu darparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion amrywiol ei ddefnyddwyr ganfod yn gyntaf ei fod yn ymgymryd â’i fusnes craidd yn fwy effeithlon. Mae gweithlu sydd ag amgylchedd gweithio cefnogol yn fwy cynhyrchiol. Canfu llawer o sefydliadau hefyd ei fod yn fuddiol i fanteisio ar ystod ehangach o dalent ac i gynrychioli’n well y gymuned y maent yn ei gwasanaethu. Yn ei sgil hefyd daw gwybodaeth well i wneud penderfyniadau a llunio polisiau. Yn gyffredinol, gall arwain at wasanaethau sy’n fwy priodol i’r defnyddwyr, a gwasanaethau sy’n fwy effeithiol ac sy’n arbed arian. Yn sgil hyn daw pobl yn fwy bodlon o’r gwasanaethau cyhoeddus.
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Feb 2023