Y Gwahaniaeth mewn cyflog
Y Gwahaniaeth mewn cyflog
Er bod cyflog cyfartal a’r bwlch rhwng y rhywiau yn ymwneud â'r gwahaniaeth yn y cyflog a gaiff merched yn y gweithle, maent yn ddau fater gwahanol:
Cyflog cyfartal:
Mae cyflog cyfartal yn golygu bod rhaid i ddynion a merched yn yr un gyflogaeth sy'n perfformio gwaith cyfartal gael cyflog cyfartal, yn unol â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010.
Bwlch cyflog rhwng y rhywiau:
Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn fesur o’r gwahaniaeth rhwng enillion cyfartalog dynion a merched ar draws sefydliad neu'r farchnad lafur. Caiff ei ddatgan fel canran o enillion dynion.
Yn gyffredinol ym Mhrydain, mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn 18.1%.
Achosion y bwlch cyflog rhwng y rhywiau
Mae achosion y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn gymhleth a gallant orgyffwrdd, ond dyma rai o’r ffactorau:
Sectorau gyda’r mwyafrif o weithwyr yn ddynion yw’r sectorau a delir y cyflogau gorau
Bydd genethod yn aml iawn yn cael canlyniadau llwyddiannus yn yr ysgol, ond maent yn tueddu i ganfod gwaith mewn sectorau cyflogaeth sy'n cynnig llai o gyfle am wobrwyon ariannol. Ar y llaw arall, mae llawer o’r sectorau sy’n talu'r cyflogau gorau yn cynnwys canran anghymesur o gyflogeion gwrywaidd.
Effaith gweithio rhan amser
Y gwahaniaeth yn y blynyddoedd o brofiad o waith amser llawn – neu’r effaith negyddol ar gyflogau yn sgil bod wedi gweithio’n rhan amser yn flaenorol neu wedi bod yn absennol o’r farchnad am gyfnod i ofalu am deulu.
Stereoteipio
Stereoteipio anymwybodol, a rhagdybiaethau nad yw menywod yn dymuno derbyn dyrchafiadau, neu na allant eu derbyn, yn enwedig os oes ganddynt gyfrifoldebau gofalu. Mae 47% o’r gweithlu yn fenywod, ond dim ond 34% o reolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch swyddogion sy’n fenywod.
Adrodd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau
Gweler ein canllaw ar adrodd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau i ganfod beth yw’r gofynion, i bwy maent yn gymwys a beth sydd angen i chi ei wneud.
Gwybodaeth Bellach
Os ydych yn ymwneud ag anghydfod cyflogaeth neu’n ceisio gwybodaeth ar hawliau a rheolau cyflogaeth, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas):
www.acas.org.uk/helplineonline
Rhadffôn: 0300 123 1100 (8yb-8yh Llun i Wener a 9yb-1yh Sadwrn)
Gwasanaeth Cyfnewid Testun: 18001 0300 123 1100.
Diweddarwyd ddiwethaf: 01 Jun 2021