Y gwahaniaeth mewn cyflog ar gyfartaledd rhwng y dynion a’r menywod yn eich gweithlu yw’r bwlch cyflog rhyweddol.
Mae’n wahanol i gyflog cyfartal, sydd yn golygu bod rhaid i chi dalu dynion a menywod yr un cyflog am wneud gwaith tebyg neu gyfwerth.
Os ydych yn gyflogwr gyda 250 neu fwy o gyflogeion, mae rhaid i chi bellach gyhoeddi’ch data bwlch cyflog rhyweddol bob blwyddyn.
Pa reoliadau sydd yn gymwys i mi?
Mae Rheoliadau 2017 (Gwybodaeth Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau) Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gymwys i bob cyflogwr y sector preifat a’r sector gwirfoddol gyda 250 neu fwy o gyflogeion.
Mae Rheoliadau 2017 (Dyletswyddau Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus) Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gymwys i awdurdodau penodedig yn Lloegr, awdurdodau traws-ffin penodedig ac awdurdodau penodedig heb eu datganoli ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban.
Beth sydd angen i mi ei gyfrifo a chyhoeddi?
Mae angen i gyflogwyr gyhoeddi chwe chyfrifiad yn dangos:
- bwlch cyflog rhyweddol cymedrig o ran tâl yr awr
- canolrif bwlch cyflog rhyweddol o ran tâl yr awr
- bwlch cyflog rhyweddol bonws cymedrig
- canolrif bwlch cyflog rhyweddol bonws
- cyfran o wrywod a benywod yn cael tâl bonws
- cyfran o wrywod a benywod ymhob chwartel tâl
Cymedr yw cyfradd tâl yr awr ar gyfartaledd, wedi’i gyfrifo drwy adio’r gyfradd tâl yr awr i gyflogeion ac yna rhannu â nifer y cyflogeion.
Canolrif yw cyfradd ganol tâl yr awr, pan gaiff eich cyfraddau tâl eu trefnu o’r isaf i’r uchaf.
Mae Acas a Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth (GEO) wedi cyhoeddi canllaw ymarferol a defnyddiol ar reoli adrodd cyflog rhyweddol.
Ble rwy’n cyhoeddi fy nata bwlch cyflog rhyweddol?
Mae rhaid i chi ei gyhoeddi ar eich gwefan eich hun a thrwy gwefan adrodd bwlch cyflog rhyweddol y Llywodraeth.
Pryd mae rhaid i mi gyhoeddi’r data?
Yn ôl y gyfraith, rhaid i chi gyhoeddi eich data bwlch cyflog rhyweddol bob blwyddyn cyn pen 12 mis o’r dyddiad cipolwg perthnasol.
Byddem yn eich annog i gyflwyno adroddiadau erbyn y terfyn amser arferol 30 Mawrth 2021, fodd bynnag ni fydd gorfodi’n dechrau tan 5 Hydref 2021 oherwydd y coronafeirws. Gwybodaeth bellach.
Ar gyfer cyflogwyr y sector preifat a’r sector gwirfoddol, y dyddiad cipolwg yw 5 Ebrill bob blwyddyn. Byddem yn eich annog i gyflwyno adroddiadau erbyn y terfyn amser arferol 4 Ebrill 2021, fodd bynnag ni fydd gorfodi’n dechrau tan 5 Hydref 2021 oherwydd y coronafeirws. Gwybodaeth bellach.
Beth fydd yn digwydd os na wnaf gyhoeddi fy adroddiad bwlch cyflog rhyweddol?
Yn ôl y gyfraith, rhaid i chi gyhoeddi’ch data bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar neu cyn y terfyn amser bob blwyddyn.
Mae gennym y grym i gymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw gyflogwr sydd ddim yn cydymffurfio â’u cyfrifoldebau adrodd. Mae ein polisi gorfodi yn amlinellu’r ymagwedd y byddwn yn ymgymryd ag ef yn y cyswllt hwn.
Byddwn yn gyntaf yn cynnal archwiliad a ydych yn mynd yn groes i’r rheoliadau. Os ydych, gwnawn geisio am orchymyn llys yn ei gwneud yn ofynnol i chi unioni’r torcyfraith. Mae methu â chydymffurfio â’r gorchymyn llys yn drosedd, a’r gosb yw diryw diderfyn os cewch eich dyfarnu’n euog.
Caiff manylion unrhyw gyflogwr y byddwn yn ei archwilio eu cyhoeddi ar ein gwefan.
Pam mae rhaid i fi adrodd ar fylchau cyflog rhyweddol?
Mae adrodd ar fylchau cyflog yn helpu sefydliadau i ddeall maint ac achosion eu bylchau cyflog a nodi unrhyw broblemau sydd angen mynd i’r adael â nhw.
Nid yw bod â bwlch cyflog rhyweddol o anghenraid yn golygu bod gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd. Bydd cyhoeddi a monitro bylchau cyflog yn helpu cyflogwyr i ddeall y rhesymau dros unrhyw fwlch ac ystyried a oes angen iddyn nhw lunio cynlluniau gweithredu i daclo’r achosion. Er enghraifft, os yw menywod yn bennaf ar lefelau cyflog isel yn y sefydliad, gallai’r cyflogwr ddymuno i ddatblygu rhaglen gweithredu bositif i annog a chefnogi menywod i ymgeisio am uwch rolau.
Bydd parhau i gyhoeddi a monitro’r bwlch cyflog rhyweddol, yn unol â’r rheoliadau, yn helpu cyflogwyr i fonitro pa mor effeithiol oedd eu camau wrth ei leihau.
Gwybodaeth bellach
Darllenwch canllaw Acas a GEO ar reoli adrodd cyflog rhyweddol.
Ymweld â gwefan y llywodraeth ar adrodd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Darllen ein polisi ar gyfer gorfodi’r rheoliadau bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Beth am edrych ar ein hymchwil bylchau cyflog a strategaeth ar gyfer gostwng bylchau cyflog ym Mhrydain.
Diweddarwyd ddiwethaf: 01 Apr 2022