Adnoddau cydraddoldeb a hawliau dynol i gynghorwyr

Cyngor a Chanllawiau

I bwy mae'r dudalen hon?

  • the advice sector
  • solicitors
  • trade unions
  • ombudsman schemes
  • other organisations that support individuals with their problems

Y gwledydd y mae'n berthnasol iddynt?

    • Prydain Fawr flag icon

      Prydain Fawr

Mae’r adnoddau a’r dolenni ar y dudalen hon ar gael ar wefan y Comisiwn ac o ffynonellau detholedig. Nod y tudalennau hyn yw dwyn y deunyddiau hynny ynghyd mewn un lle i gynghorwyr, fel na fo rhaid iddynt chwilio amdano.

Sylwer, mae’r cyfeiriadau i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i’r prif ddarpariaethau’n unig, gallai eithriadau, atodlenni a darpariaethau eraill fod yn gymwys yn dibynnu ar gyd-destun arbennig eich ymholiad.   

Cynghorir i chi gysylltu â’n gwasanaeth cymorth ar y ffôn, Cymorth y Comisiwn i Gynghorwyr, os oes unrhyw amheuaeth gennych.

Deddfwriaeth bwysig

Y prif gyfreithiau sydd yn berthnasol i achosion cydraddoldeb a hawliau dynol.

Os oes angen help neu gyngor arnoch, cysylltwch â llinell gymorth y Comisiwn i gynghorwyr

Llawlyfr

Trosolwg byr o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i gynghorwyr a chanllaw ar gyfrifo hawliadau gwahaniaethu.

Codau ymarfer a chyfarwyddyd technegol

Codau statudol yw ein Codau Ymarfer, wedi’u dyroddi o dan adran 14 Deddf Cydraddoldeb 2006. Golyga hyn eu bod wedi’u cymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’u gosod gerbron y Senedd. Rhaid i dribiwnlysoedd a llysoedd gymryd i gyfrif unrhyw ran o’r Cod sydd yn ymddangos iddynt yn berthnasol i unrhyw gwestiynau yn codi mewn achosion.

Cafodd ein Canllaw Technegol ei baratoi a’i ddyroddi ar sail ei bwerau i ddarparu gwybodaeth a chyngor o dan a13 Deddf Cydraddoldeb 2006. Nid codau statudol mohonynt, fodd bynnag gallant ddal gael eu defnyddio mewn tystiolaeth, ac os dilyna darparwyr addysg hwy, bydd y codau yn eu helpu i osgoi cael penderfyniadau anffafriol ei wneud yn eu herbyn mewn achos cyfreithiol.

Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn cynnwys dyletswydd cydraddoldeb gyffredinol a dyletswyddau penodol, sydd yn helpu awdurdodau i gyflawni’r ddyletswydd gyffredinol.

Nod y ddyletswydd gyffredinol yw ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb i fusnes beunyddiol awdurdodau cyhoeddus. Rhaid i’r rheiny sydd yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd cydraddoldeb roi sylw dyledus i’r angen i:

  • ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth, ac ymddygiad arall a waherddir o dan y Ddeddf
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sydd yn rhannu nodwedd warchodedig a’r sawl nad ydyw
  • meithrin perthynas dda rhwng pobl sydd yn rhannu nodwedd a’r sawl nad ydyw

Mae dyletswyddau penodol, ychwanegol sydd yn gymwys i awdurdodau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru a’r Alban. Gweler ein codau sydd yn benodol i wlad.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein hadran ar y PSED isod.

 

Os oes angen help neu gyngor arnoch, galwch linell gymorth yr EHRC i gynghorwyr

Chwilio yn ôl pwnc

Rydym wedi dwyn cyngor a chyfarwyddyd ynghyd ar rai o’r pynciau mwyaf cyffredinol. Cysylltwch â ni os na allwch ganfod yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch, yr ydych am gyfarwyddyd pellach, neu i ddweud wrthym am unrhyw bwnc arall yr hoffech ei weld yn cael ei amlygu.

Cewch wybodaeth am y pynciau a ganlyn:

  • hawliau dynol
  • gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus
  • addysg
  • cyflogaeth
  • dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus (PSED)
  • pynciau poblogaidd 
  • datrys cwynion

Hawliau dynol

Os oes angen help neu gyngor arnoch, galwch linell gymorth yr EHRC i gynghorwyr

Gwasanaethau a swyddogaethau cyhoeddus

Am y darpariaethau cyfreithiol, gweler rhan  3 Deddf Cydraddoldeb 2010 (legislation.gov.uk, dolen allanol), gweler rhan 4 ar gyfer Safle, rhan 7 ar gyfer Cymdeithasau, rhan 12 ar gyfer Cludiant personau anabl a’r atodlenni perthnasol i’r Ddeddf y cyfeirir ati yn y rhannau hyn. (Noder, mae amryw o atodlenni i’r Ddeddf.)

Mae’r cyfeiriadau i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i’r prif ddarpariaethau’n unig, gallai eithriadau, atodlenni a darpariaethau eraill fod yn gymwys yn dibynnu ar gyd-destun arbennig eich ymholiad. Gall cyfraith gwahaniaethu fod yn gymhleth iawn, cysylltwch â Chymorth yr EHRC i Gynghorwyr i drafod eich ymholiad.

Rhywfaint o gyfarwyddyd arall sydd efallai o ddefnydd i chi:

Gweler paragraffau 7.59, 11.51 i 11.52 a 13.104 y cod ar wasanaethau (sylwer nad yw’r cod ar wasanaethau yn delio â gwasanaethau cludiant).  

Gweler rhan 12 Deddf Cydraddoldeb 2010:

Newydd – Rheoliadau ynglŷn ag eithriadau i yrrwyr tacsi:

Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Tacis a Cherbydau Hurio Preifat) (Teithwyr mewn Cadeiriau Olwyn – Hysbysiadau Eithrio) 2017/342

Gweler ein cyfarwyddyd cyflym i addasiadau rhesymol ym maes cludiant.

Sylwer, cyfeiriadau i’r prif ddarpariaethau’n unig yw’r cyfeiriadau at Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gallai eithriadau, atodlenni a darpariaethau eraill fod yn gymwys yn dibynnu ar gyd-destun arbennig eich ymholiad.

Gall cyfraith gwahaniaethu fod yn gymhleth iawn, cysylltwch â Cymorth y Comisiwn i Gynghorwyr i drafod eich ymholiad.

 

Gweler ein cyfarwyddyd i hawliau dynol ym maes gofal cartref:

  • Tudalennau 12 i 17 ar gyfer hawliau dynol
  • Tudalennau 19 i 29 ar gyfer help ar sut i gwyno

Os oes angen help neu gyngor arnoch, galwch linell gymorth y Comisiwn i gynghorwyr

Addysg

Mae’r Comisiwn ar hyn o bryd yn rhedeg prosiect i ddarparu cymorth cyfreithiol mewn achosion addysg. Os byddai’ch cleient yn elwa o’r cymorth hwn, cysylltwch â’n tîm addysg:

Nid oes cod ymarfer i ysgolion, yn hytrach mae cyfarwyddyd technegol gennym. Mae’r cyfarwyddyd technegol hwn yn cwmpasu Deddf Cydraddoldeb 2010.

Gall cwynion ysgol fod yn gymhleth ac anogir chi i gysylltu â ni os nad oes profiad gennych mewn delio â gwahaniaethu yn yr ysgol. Efallai bydd yn fwy defnyddiol i chi fwrw golwg ar ein cyfarwyddyd technegol yn gyntaf cyn edrych ar y ddeddfwriaeth.

Deddfwriaeth

Am y ddeddfwriaeth Cydraddoldeb berthnasol ar wahaniaethu yn yr ysgol gweler Deddf Cydraddoldeb 2010, Rhan 6 (ar  legislation.gov.uk, dolen allanol), Adrannau 84-89 a 98 ac Atodlen 10 (hygyrchedd i ddisgyblion anabl), 11 (ysgolion, eithriadau), 13 (addysg, addasiadau rhesymol) ac 14 (gwaddolion ac elusennau addysgol).

Sylwer, cyfeiriadau i’r prif ddarpariaethau’n unig yw’r cyfeiriadau at Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gallai eithriadau, atodlenni a darpariaethau eraill fod yn gymwys yn dibynnu ar gyd-destun arbennig eich ymholiad.

Gall cyfraith gwahaniaethu fod yn gymhleth iawn, cysylltwch â Cymorth y Comisiwn i Gynghorwyr i drafod eich ymholiad.

Hawliau dynol ym myd addysg

Cyfarwyddyd Technegol

Mae cyfarwyddyd technegol i Gymru, Lloegr a’r Alban:

Ysgrifennwyd y canllawiau hyn i ysgolion ond maent yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am yr hyn y dylai ysgolion ei wneud i gyflawni’u dyletswyddau, a gallent fod yn ddefnyddiol wrth roi cyngor i unigolyn.

Darparwyr addysg

Nid oes cod ymarfer i ddarparwyr addysg bellach ac addysg uwch, fodd bynnag darpara’r ddogfen hon wybodaeth ar y camau y dylai darparwyr addysg eu cymryd i gyflawni’u dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac y gallai gael ei defnyddio wrth bennu a yw darparwr addysg wedi cyflawni’i ddyletswydd o ran eich cleient.

Ar gyfer darpariaethau deddfwriaethol addysg uwch gweler Deddf Cydraddoldeb 2010, Rhan 6 (legislation.gov.uk, dolen allanol) adrannau 90-94 ac atodlenni 12 (addysg bellach ac uwch, eithriadau), 13 (addysg, addasiadau rhesymol) a 14 (gwaddolion ac elusennau addysgol).

Sylwer, cyfeiriadau i’r prif ddarpariaethau’n unig yw’r cyfeiriadau at Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gallai eithriadau, atodlenni a darpariaethau eraill fod yn gymwys yn dibynnu ar gyd-destun arbennig eich ymholiad.

Gall cyfraith gwahaniaethu fod yn gymhleth iawn, cysylltwch â Cymorth y Comisiwn i Gynghorwyr i drafod eich ymholiad.

 

Ein cyfarwyddyd i fyfyrwyr

Sut i ddefnyddio Prevent

Gwahanu ar sail rhyw

Mae’r cyfarwyddyd yn cwmpasu’r rhwymedigaethau cyfreithiol o dan gyfraith cydraddoldeb sydd gan brifysgolion ac undebau myfyrwyr o ran gwahanu ar sail rhyw mewn digwyddiadau a chyfarfodydd.

Ar gyfer y gyfraith ar gyrff cymwysterau, gweler adrannau 95 i 97, 98 i 99, ac atodlen 13 Deddf Cydraddoldeb 2010 (legislation.gov.uk, dolen allanol).

Mae’r cyfarwyddyd technegol, uchod, yn delio â chyrff cymwysterau yn atodiad 1 (Cyffredinol) ac atodiad 2 (dyletswyddau cyrff cymwysterau).

 

Sylwer, cyfeiriadau i’r prif ddarpariaethau’n unig yw’r cyfeiriadau at Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gallai eithriadau, atodlenni a darpariaethau eraill fod yn gymwys yn dibynnu ar gyd-destun arbennig eich ymholiad.

Gall cyfraith gwahaniaethu fod yn gymhleth iawn, cysylltwch â Cymorth y Comisiwn i Gynghorwyr i drafod eich ymholiad.

Os oes angen help neu gyngor arnoch, ffoniwch  linell gymorth yr EHRC i gynghorwyr. 

Cyflogaeth

Sylwer, cyfeiriadau i’r prif ddarpariaethau’n unig yw’r cyfeiriadau at Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gallai eithriadau, atodlenni a darpariaethau eraill fod yn gymwys yn dibynnu ar gyd-destun arbennig eich ymholiad.

Gall cyfraith gwahaniaethu fod yn gymhleth iawn, cysylltwch â Cymorth y Comisiwn i Gynghorwyr i drafod eich ymholiad.

Gweler rhan 5 Deddf Cydraddoldeb 2010 (legislation.gov.uk, dolen allanol) ar gyfer y darpariaethau ynglŷn â gwaith. Os ydych yn defnyddio’r ddeddf, edrychwch p’un ai a oes unrhyw atodlen yn berthnasol hefyd. Efallai bydd edrych ar y cod ymarfer a’r atodiad yn gyntaf yn ddefnyddiol i chi os ydych yn anghyfarwydd â’r maes cyfraith.

Gwahaniaethu uniongyrchol

Eithriadau

Gwahaniaethu uniongyrchol cyfiawnadwy oherwydd oedran:

Gofynion galwedigaethol

Gwahaniaethu anuniongyrchol

Gwahaniaethu ar sail Anabledd

Methiant i wneud addasiadau rhesymol:

Gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd

Aflonyddu

Erledigaeth

Achosi neu ysgogi Gwahaniaethu a chyfarwyddiadau i wahaniaethu

Gweler adrannau canlynol Deddf Cydraddoldeb 2010:

Gweler y cod ymarfer cyflogaeth, paragraffau 9.16 i 9.24, tudalennau 113 i 115. 

Perthnasau sydd wedi darfod

Os oes angen help neu gyngor arnoch, ffoniwch linell gymorth yr EHRC i gynghorwyr

Dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus (PSED)

Os oes angen help neu gyngor arnoch, ffoniwch linell gymorth yr EHRC i gynghorwyr

Camau positif yw mesurau a gymerir i gynyddu cyfranogiad grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, nad ydynt yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn grŵp arall, ac maent yn gyfreithlon.

Gwahaniaethu positif yw trin un grŵp yn fwy ffafriol nag un arall ac mae’n anghyfreithlon.

Camau positif ym myd cyflogaeth

Cyfarwyddyd cyffredinol ar gamau positif

Camau positif ym maes gwasanaethau

Camau positif ym myd addysg

Gweler ein cyfarwyddyd technegol ar yr adran addysg, uchod, sydd yn cynnal adrannau ar gamau positif.

Os oes angen help neu gyngor arnoch, ffoniwch linell gymorth yr EHRC i gynghorwyr

Datrys cwynion

Gweler Deddf Cydraddoldeb 2010, rhan 9 (legislation.gov.uk, dolen allanol) ar gyfer gorfodi, terfynau amser a pha lys:

  • Gweler pennod 3 ar gyfer tribiwnlysoedd cyflogaeth
  • gweler pennod 2 ar gyfer gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus ac addysg
  • gweler pennod 4 ar gyfer cydraddoldeb telerau, gan gynnwys pensiynau
  • gweler hefyd pennod 5 ar gyfer darpariaethau amrywiol

Sylwer, cyfeiriadau i’r prif ddarpariaethau’n unig yw’r cyfeiriadau at Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gallai eithriadau, atodlenni a darpariaethau eraill fod yn gymwys yn dibynnu ar gyd-destun arbennig eich ymholiad.

Gall cyfraith gwahaniaethu fod yn gymhleth iawn, cysylltwch â Cymorth y Comisiwn i Gynghorwyr i drafod eich ymholiad.

 

Y terfyn amser ar gyfer dwyn hawliad ym maes cyflogaeth yw tri mis namyn diwrnod oni bai bod yr hawliad ynglŷn â chyflog cyfartal neu golli swydd, y byddai wedyn yn chwe mis namyn un diwrnod. Ni dderbynnir eich hawliad oni bai fod tystysgrif cymodi gynnar gennych oddi ar ACAS. Gweler gwefan ACAS am fwy o wybodaeth.

Sylwer: gellir dwyn hawliadau cyflog cyfartal hefyd yn y llysoedd sifil, y terfyn amser ar gyfer dwyn hawliad cyflog cyfartal yn y llysoedd sifil yw 6 mlynedd. Gweler paragraff 133 yr atodiad i’r cod ymarfer cyflog cyfartal.

Codau ymarfer

Y terfyn amser ar gyfer dwyn achos gwahaniaethu ysgol ar sail anabledd yw chwe mis namyn diwrnod yn y tribiwnlys haen cyntaf ( Anghenion Addysg Arbennig ac Anabledd (Lloegr), y Tribiwnlys Anghenion Addysg Arbennig (Cymru) neu’r Tribiwnlysoedd Anghenion Cymorth Ychwanegol (yr Alban).

Y terfyn amser ar gyfer dwyn achos ysgol, heblaw am anabledd, yn y llys sirol neu Lys y Sir yw 6 mis namyn diwrnod.

Y terfyn amser ar gyfer dwyn achos addysg bellach ac uwch yn y llys sirol neu Lys y Sir yw 6 mis namyn diwrnod.

Ar gyfer achosion ysgol yn Lloegr gweler Pennod 8 y Cyfarwyddyd Technegol i ysgolion yn Lloegr yn ein hadran Codau a Chyfarwyddyd Technegol uchod.

Ar gyfer achosion ysgol yn yr Alban gweler Pennod 8 y Cyfarwyddyd Technegol i Ysgolion yn yr Alban yn ein hadran Codau a Chyfarwyddyd Technegol uchod.

Ar gyfer achosion ysgol yng Nghymru gweler Pennod 6 y Canllaw ‘Yr hyn y golyga cyfraith cydraddoldeb i chi fel darparwr addysg: Ysgolion’ yn ein hadran Addysg uchod.

For further and higher education cases see Chapter 8 of the Technical Guidance for further and higher education, above in our Codes and Technical Guidance section above.

 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Feb 2019