Building with street sign

Yr hyn ydym ni

In this section you can find out more about who we are and how we work with Government.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Corff cydraddoldeb cenedlaethol Prydain Fawr yw’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a ddyfarnwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol statws A. 

Helpu i wneud Prydain yn decach yw ein gorchwyl. Fe wnawn hyn drwy ddiogelu’r cyfreithiau, sy’n amddiffyn hawliau pobl i degwch, urddas a pharch, a’u gorfodi.

Fel corff cyhoeddus anadrannol statudol a sefydlwyd gan Ddeddf Cydraddoldeb 2006, mae’r Comisiwn yn gweithredu’n annibynnol. Ein nod yw bod yn sefydliad arbenigol ac awdurdodol sy’n ganolfan ragoriaeth ar gyfer tystiolaeth, dadansoddiadau a chyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol. Ein huchelgais yw bod yn fan cyswllt hanfodol i lunwyr polisi, cyrff cyhoeddus a busnes.

Rydym yn defnyddio ein pwerau unigryw i herio gwahaniaethu, hybu cyfle cyfartal ac amddiffyn hawliau dynol. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau ac unigolion eraill i gyflawni ein nodau, ond rydym yn barod i gymryd camau caled yn erbyn y rheini sy’n camdrin hawliau pobl eraill.

Ein gweledigaeth

Rydym yn byw mewn gwlad gyda hanes hir o gynnal hawliau pobl, gwerthfawrogi amrywiaeth a herio anoddefgarwch. Mae’r Comisiwn yn ceisio cynnal a chyfnerthu’r etifeddiaeth hon, wrth nodi a thaclo meysydd lle mae gwahaniaethu annheg yn parhau neu pan na pherchir hawliau dynol. 

Hanes y Comisiwn

Agorodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ei ddrysau yn 2007.  Ymunodd gwaith y tri chyn sefydliad cydraddoldeb, y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal, yn ogystal â chymryd cyfrifoldeb dros amddiffyn a hybu cydraddoldeb a hawliau dynol i bawb.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Feb 2023