EHRC - Adrodd ar gyflog ar sail rhyw

Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Ein swyddogaeth yw hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol, ac i greu Prydain decach. Fe wnawn hyn drwy ddarparu cyngor ac arweiniad, a gweithio i weithredu fframwaith deddfwriaeth effeithiol a chodi ymwybyddiaeth o'ch hawliau.

Adrodd ar gyflog ar sail rhyw

Ymgynghoriad

Mae’r Comisiwn yn gweithio gyda’r Llywodraeth, y gymuned fusnes, undebau llafur a rhanddeiliaid arall i helpu datblygu cynigion ar adrodd ar gyflog ar sail rhyw gan y sector breifat a’r drydedd sector a gaiff eu hyrwyddo ar sylfaen gwirfoddol. Mae dogfen ymgynghori’r Comisiwn yn ymofyn am gyfraniad gan gyflogwyr, undebau ac eraill am y dull sy’n well ganddynt. 

Anelir ein hymgynghoriad at gyflogwyr o 250 neu fwy o weithwyr yn y sectorau preifat a gwirfoddol, yn ogystal â chyrff cynrychiadol ac undebau llafur sy’n trefnu yn y sectorau hyn. Hefyd hoffem glywed oddi ar sefydliadau sy’n gweithio tuag at gydraddoldeb ar sail rhyw, a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb ym myd adrodd ar gyflog ar sail rhyw.

Lawr lwytho’r ddogfen ymgynghori:

Dogfen ymgynghori yng Nghymraeg (pdf)

Sut i ymateb

Defnyddiwch y ffurflen ymateb yn ‘Atodiad 1’ a’i ddanfon:
Drwy e-bost : genderpayreporting@equalityhumanrights.com
neu
drwy’r post i: Gender Pay Reporting Consultation, Brid Scanlon, Equality and Human Rights Commission, 3 More London, Riverside Tooley Street, London SE1 2RG

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben 28 Hydref 2009.

Arolwg i fenywod yn y sector breifat a’r drydedd sector

Hefyd mae’r Comisiwn yn ceisio clywed oddi ar fenywod yn y sector breifat a’r drydedd sector ynglŷn â’u profiadau a’u barn ar adrodd ar gyflog ar sail rhyw. I ateb gweler Menywod yn y sector breifat a’r drydedd sector.