Dathliad yw rhestr gyntaf Menywod Mwslimaidd Pwerus 2009 o’r 100,000 o fenywod Mwslimaidd sy’n gweithio ym Mhrydain ar hyn o bryd. Mae’n talu teyrnged i’r rhai hynny sydd ar fin neu sydd eisoes wedi cyrraedd y brig yn eu dewis faes, boed mewn busnes, gwasanaeth sifil, celfyddydau, cyfryngau neu’r sector cyhoeddus.

Cafodd y Rhestr ei chyhoeddi gan y Comisiwn ar y cyd â The Times a chylchgrawn Emel a’i lansio mewn cinio mawreddog ym Manceinion ar 24 Mawrth 2009.
Nod y Rhestr yw chwalu rhai o’r stereoteipiau am fenywod Mwslimaidd a thanlinellu’r ffaith eu bod yn rhannu uchelgeisiau a sialensiau pob menyw sy’n gweithio, sef llwyddo mewn swydd dda ac yn aml, cyfuno priodas a mamolaeth â gyrfa lwyddiannus. Gobeithiwn y bydd y Rhestr yn gweithredu fel rhwydwaith cymdeithasol proffesiynol i fenywod Mwslimaidd sy’n gweithio, er mwyn iddynt elwa ar brofiadau ei gilydd yn y gweithle.
‘Nid oes llawer o grwpiau y gallaf feddwl amdanynt sydd wedi’u stereoteipio fwy a’u deall lai gan y gymuned ehangach na menywod Mwslimaidd sy’n gweithio,’ meddai Trevor Phillips, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. ‘Gobeithio y bydd y rhestr hon yn agoriad llygad i weddill Prydain – mae nifer o aelodau o’r gymuned Fwslimaidd yn gwneud cyfraniad economaidd a chymdeithasol gwerthfawr i’n dyfodol ni.’
Ym mis Ionawr 2009 aethom ati i ofyn i gwmnïau a sefydliadau enwebu eu gweithwyr. Derbyniwyd dros 250 o enwebiadau o ansawdd uchel ac o’u plith dewisodd y panel beirniaid sef - y Farwnes Sarah Hogg, Cadeirydd 3i; Trevor Phillips, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol; Sarah Joseph, golygydd y cylchgrawn Emel; Michael Binyon, golygydd materion diplomyddol ac awdur golygyddol The Times a Sara Friend, Cyfarwyddwr Cyfreithiol, Cymdeithas Olympaidd Prydain - y 50 o fenywod neilltuol ar gyfer Rhestr Bwerus 2009.
Mishal Husain, 36, cyflwynydd, BBC ONE a BBC World News
‘Un agwedd ar fy hunaniaeth yw fy ffydd. Rwy’n wraig, yn fam, yn newyddiadurwr, yn ddinesydd Prydeinig, yn rhywun sy’n hoff iawn o lyfrau... rwyf i wedi meddwl mwy am fy ffydd ers 9/11 ac ers dod yn fam. Rwy’n fwy ymwybodol o’r angen i drosglwyddo traddodiadau i fy mhlant, gan fod gwybod pwy ydych chi’n sylfaen gadarn i blentyn.’
Y Farwnes Warsi, 37, Gweinidog yr Wrthblaid Geidwadol dros Gydlyniant Cymunedol a Gweithredu Cymdeithasol
‘Byddai’n well gennyf weithio mewn byd lle na fyddai’n rhaid i ni dynnu sylw at gyflawniadau menywod Mwslimaidd er mwyn gwneud pwynt. Ar ôl dweud hynny, mae’n fraint cael bod ar y rhestr am nad yw’r dyn cyffredin yn meddwl am fenywod Mwslimaidd fel rhai sy’n cyflawni llawer.’
Zahida Manzoor CBE, 50, comisiynydd cwynion gwasanaethau cyfreithiol ac ombwdsmon gwasanaethau cyfreithiol ar gyfer Cymru a Lloegr
‘Hoffwn feddwl fod stereoteip y fenyw daeog yn newid. Yn gyffredinol bydd menywod yn sôn am dorri drwy’r nenfwd gwydr, ond i fenywod o leiafrifoedd ethnig, yn enwedig menywod Mwslimaidd, rydyn ni’n sôn am dorri drwy fwrdd sgyrtin concrid. Dyna pa mor anodd yw hi.’
Gwybodaeth berthnasol
Muslim Women Power List website: www.thelist2009.com
The Times: Meet the 13 most powerful Muslim women in Britain
Emel - Muslim lifestyle magazine
Press release: Britain's most powerful Muslim woman named
Sex and Power - survey of women in positions of power
Moving on Up? The way forward (final report of Equal Opportunities Commission investigation)
Promote People Not Stereotypes - Equal Opportunities Campaign from 2007