
I nodi deng-mlwyddiant Ymchwiliad Stephen Lawrence, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cychwyn trafodaeth bwysig ar hil a chydraddoldeb ym Mhrydain.
Rydym wedi comisiynu adroddiadau ar rai o’r dadleuon amlycaf: sut mae’r heddlu wedi delio â materion hil ers yr ymchwiliad; beth mae amrywiaeth cynyddol poblogaeth Prydain yn ei olygu i ni gyd; pam mai Prydeinwyr o hil gymysg yw’r lleiafrif sy’n tyfu gyflymaf yn y wlad; a barn y cyhoedd yn gyffredinol am faterion hil ym Mhrydain heddiw.
Rydym wedi cynhyrchu erthygl nodwedd ar y cyd â chylchgrawn yr Observer i nodi’r deng-mlwyddiant pwysig hwn: ‘All Together Now’, portread o hil ym Mhrydain.
Ym mis Chwefror 2009, roedd hi’n ddeng mlynedd ers cyhoeddi adroddiad Macpherson a dynnai sylw at hiliaeth sefydliadol a amharodd ar yr ymchwiliad i lofruddiaeth Stephen Lawrence. Roedd cyhoeddi’r adroddiad yn foment arwyddocaol yn hanes cysylltiadau hiliol ym Mhrydain. Yn yr erthygl, mae deg o Brydeinwyr a aned ym 1974 – yr un flwyddyn a’r myfyriwr o dde Llundain – yn disgrifio’u profiadau o gysylltiadau hiliol ym Mhrydain.
Roedd cyhoeddi adroddiad Macpherson yn ddigwyddiad pwysig iawn yn hanes materion hil Prydain a sut mae’r sector cyhoeddus yn delio â materion cydraddoldeb.
O ystyried arwyddocâd y deng-mlwyddiant, cynhaliwyd digwyddiad o bwys gan y Comisiwn ddydd Llun, 19 Ionawr 2009 am 11 y bore gan gynnwys darlith bwysig gan ein Cadeirydd, Trevor Phillips. Trafododd sut y bu i adroddiad Macpherson newid y tirlun hil ym Mhrydain a sut fydd y tirlun hwnnw’n datblygu dros y deng mlynedd nesaf.
Darlledwyd y digwyddiad ar-lein ac mae areithiau a fideo i’w gweld ar dudalen y digwyddiad.
Gyda dadlau mawr ynghylch dyfodol amlddiwylliannedd ym Mhrydain, cyflwynodd ein Cadeirydd, Trevor Phillips, araith bwysig ym Mirmingham 40 mlynedd wedi araith Enoch Powell.