Wedi cyfnod o ymgynghori â chyflogeion, cyflogwyr ac arbenigwyr blaenllaw yn y maes, rydym wedi llunio adroddiad sy’n amlinellu cynigion ar gyfer ymagwedd newydd at weithio. Bydd y rhain yn helpu i daclo’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, yn dod â chymorth gwell i deuluoedd ac yn dangos bod dulliau modern o weithio yn well i’r economi. Mae’r adroddiad yn bwrw golwg manwl ar yr hyn y dywed rhieni modern fyddai’n gwneud gwahaniaeth iddynt ac mae’n cyflwyno rhai mentrau a datrysiadau posibl i wireddu hynny.
Mae’r adroddiad yn ateb rhai cwestiynau sy’n hanfodol i’w deall os gwireddir newid go iawn yn economi a gweithlu Prydain.
Yn benodol, edrychom ar:
Lawr lwyddo’r adroddiad: Gweithio’n Well: Ateb y newidiadau yn anghenion teuluoedd, gweithwyr a chyflogwyr yn yr unfed ganrif ar hugain
I ategu’r adroddiad, rydym wedi rhoi nifer o astudiaethau achos at ei gilydd sy’n cynnwys cyflogwyr mawr a bach yn ogystal â chyflogeion ag anghenion gweithio gwahanol. Gwyliwch y fideos astudiaethau achos i weld sut maen nhw eisoes yn gweithio’n well.