Menter newydd y Comisiwn yw ‘Gweithio’n Well’ sy’n anelu at nodi a hyrwyddo ffyrdd newydd arloesol o weithio sy’n ateb heriau’r 21 Ganrif.
Os ydych ai peidio yn rhywun â chyfrifoldebau gofalu, yn fam a thad sydd eisiau bod yn fwy gweithgar fel rhiant, person ag anabledd sydd eisiau gyrfa fwy cyflawn , gweithiwr iau sydd eisiau mynediad graddol i mewn i waith , neu weithiwr hŷn sydd am barhau’n hirach yn y farchnad waith - dyma bwnc llosg mawr ein hoes.
Fel rhan o’n ymgynghoriad, cawsom drafodaeth â phobl mewn busnesau bach a mawr i ganfod sut yr oeddent yn cydbwyso gwaith a’u bywyd personol. Siaradon ni â chyflogwyr a’u staff yn ogystal am eu profiadau personol. Gwyliwch y fideo hwn glywed yr hyn oedd ganddynt i’w ddweud am weithio’n hyblyg.
I nodi lansiad ein menter ‘Gweithio’n Well’, rydym wedi gweithio ar y cyd â ‘Mumsnet.com’ a ‘Dad Info’ dwy wefan riant flaengar, i lansio’u hymgynghoriad unigryw, ‘Home Front: What do mums and dads need to make life work?’ a fydd yn casglu barnau o ddydd Llun 14 Gorffennaf 2008.
Fel rhan o’n menter ‘Gweithio’n Well’,rydym wedi gweithio ar y cyd â dwy wefan riant flaengar - www.mumsnet.com a www.dad.info i lansio arolwg ar-lein o’r enw ‘Home Front - what do mums and dads need to make life work?’
Bydd ‘Home Front’ yn galluogi tadau a mamau yn ogystal i ddweud wrth y byd sut y maen nhw’n trefnu gwaith a gofalu – a’r hyn y byddai’n gwneud bywyd yn haws. Cyflwynir y canlyniadau gerbron gwleidyddion a gwneuthurwyr polisi yn yr hydref.
Ar hyn o bryd rydyn ni yng nghyfnod un Gweithio’n Well, yn canolbwyntio ar anghenion gwaith a lles rhiant a theuluoedd. Mae’r adroddiad Gweithio’n Well Cyfnod 1 hwn yn canolbwyntio ar ffyrdd i wella dewis i riant sy’n gweithio.
Y camau nesaf: Cyfnod 2
Mae’r gwaith ar Gyfnod 2 ‘Gweithio’n Well i Bawb’ ar y gweill yn barod gydag ymchwil newydd ar weithwyr anabl, gofalwyr a gweithwyr hŷn i’w gwblhau’n ystod 2009.